Tachwedd 2018 / Rhifyn 670

Chwaraeon

Sentimentaleiddio pêl-droed ddoe

Ymhlith y cylchgronau a ddaw yma’n rheolaidd y mae’r Spectator a’r Times Literary Supplement. Derbyniaf y naill er mwyn cael fy nos wythnosol o Dorïaeth Seisnig ac er mwyn y pleser o ddarllen ei golofnwyr ffraeth; a derbyniaf y llall, y mae’n amlwg, imi gael mwynhau ei erthyglau artistig, ei adolygiadau o lyfrau newydd yn yr iaith fain, a gweld beth sy’n werth ei brynu.

Un o awduron cyson dda y TLS yw’r hwn a’i geilw ei hun yn NB, awdur y ddalen ôl dra difyr (ac esoterig yn aml) sy’n trafod pynciau mor amrywiol â Bwdaeth Zen a seigiau bwyd a enwyd ar ôl awduron enwog (a glywsoch chi erioed am Omelette Arnold Bennett?). Yr wythnos o’r blaen synnais fod NB yn cymeradwyo llyfr ar bêl-droed, llyfr o’r enw Black Boots & Football Pinks: 50 Lost Wonders of the Beautiful Game gan Daniel Gray.

Y mae yn y llyfr lawer o sylwadau difyr a chofion gwerthfawr. Ond, wrth ei ddarllen, fy siomi a gefais.

Derec Llwyd Morgan
Mwy
Cerdd

Argyfwng cerddoriaeth Cymru

Argyfwng, meddai’r pennawd. Ond pa argyfwng? Mae’r Cwmni Opera Cenedlaethol yn mynd o nerth i nerth; mae Cerddorfa Gymreig y BBC yn ffynnu; mae Cymru’n dal i gynhyrchu llifeiriant rhyfeddol o gantorion clasurol; mae mwy o Gymry nag erioed yn amlwg yn sioeau’r West End; mae’r Ŵyl Gerdd Dant yn dal i dyfu; mae cerddoriaeth yr Eisteddfod(au) yn fwy amrywiol bob blwyddyn gyda safon y gwaith offerynnol a chorawl yn codi’n gyson; mae cynnwrf newydd yn y byd gwerin cyfoes; ac mae’r Sin Roc yn fwy bywiog a chynhyrfus nag erioed. Felly am ba argyfwng dwi’n sôn?

Os edrychwch eto ar y rhestr uchod, fe welwch, ar wahân i’r Opera, y BBC a’r West End, fod y cyfan o’r gweddill yn deillio o lafur cariad a gweithgarwch gwirfoddol, rhan-amser ac amatur.

Dafydd Iwan
Mwy

Ethol Adam: Plaid Cymru’n newid cywair

Beth y mae buddugoliaeth Adam Price yn ei arwyddo i Blaid Cymru?

Yn sicr, roedd yr aelodau’n dyheu am newid. Os oedd angen cadarnhad pellach o hynny dyna i chi’r ffaith ryfeddol fod 3,000 wedi ymuno â Phlaid Cymru ers buddugoliaeth ysgubol Price – canran fawr ohonynt yn ailymaelodi, gellir tybio. Eto fyth, go brin fod y torfeydd sylweddol a fu’n mynychu’r cyfarfodydd hystings ar hyd ac ar led y wlad wedi sylwi ar unrhyw wahaniaethau polisi sylfaenol rhwng y tri ymgeisydd. Gwahaniaeth mewn blaenoriaethau, efallai, ond nid unrhyw fath o agendor syniadaethol. Sut felly y gall yr arweinydd newydd obeithio gwneud gwahaniaeth? Os nad trwy newid polisïau, yna efallai trwy newid cywair.

Rwy’n tybio y byddai’n deg dweud bod cefnogwyr datganoli wedi treulio’r deng mlynedd ar hugain a mwy diwethaf yn synio am ddatganoli fel prosiect amddiffynnol.

Richard Wyn Jones
Mwy

Cip ar weddill y rhifyn

Yr Alban – dau refferendwm? Will Patterson
Data sydd dduw ym myd addysgDafydd Fôn Jones
Deddf iaith arall – i beth? Alun Ffred Jones
‘Byw Celwydd’ yn plesioSioned Williams
Cofio Ieuan Gwynedd Jones, Denzil Davies, Terry Dyddgen-Jones a Kenneth BowenGeraint H. Jenkins, Gwilym Owen, Jonathan Nefydd a Geraint Lewis

…a llawer mwy. Mynnwch eich copi nawr.

Mwy

Bydoedd bach mawr – Gŵyl Iris

‘Dydi’r rhan fwyaf o bobol ddim yn gwrando i ddeall; maen nhw’n gwrando i ymateb.’ Dyma ddywedodd Berwyn Rowlands, cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris ers iddo sefydlu’r ŵyl ffilmiau LHDT+ fyd-enwog un ar ddeg mlynedd yn ôl, yn seremoni agoriadol dathliadau 2018 yng Nghaerdydd ddechrau mis Hydref. Roedd e’n sôn am yr angen i’r rheini ohonom sy’n byw o fewn lleiafrifoedd wrando ar safbwyntiau ein cyd-aelodau sydd heb eto ennill y breintiau y mae rhai ohonom wedi eu cael, a cheisio’u deall. Yng nghyd-destun bywyd hoyw heddiw, bywydau a straeon pobol traws yw’r enghraifft gryfaf o anghydraddoldeb o fewn ein cymuned, a dyma’r oedd Berwyn yn cyfeirio ato yn ei araith agoriadol. Rhan bwysig o rôl gwyliau LHDT+ fel Iris yw arwain y ffordd o ran y straeon sy’n cael eu cyflwyno, gan fynd tu hwnt i’r safbwyntiau cyfarwydd a bod yn flaengar wrth wthio straeon y rheini sy’n ‘niche’ o fewn ‘niche’ i’r wyneb.

Dylan Huw
Mwy

Ysgol Gymraeg Llundain yn 60

Criw o dadau a ddechreuodd y cyfan. Roeddent yn anfon eu plant am wersi Cymraeg ar foreau Sadwrn ac yn awyddus iddynt gael addysg drwy gyfrwng yr iaith. Gwireddwyd eu breuddwyd, wedi cryn frwydr, yn 1958 pan agorodd Ysgol Gynradd Gymraeg Llundain ei drysau am y tro cyntaf gyda deg ar hugain o blant. Eleni mae’n dathlu ei phen-blwydd yn drigain oed.

Bu’r ysgol ar grwydr o gwmpas prifddinas Lloegr dros y blynyddoedd cyn cyrraedd ei chartref presennol yng Nghanolfan Gymdeithasol Hanwell yng ngorllewin Llundain. Hen wyrcws yw’r ganolfan lle bu Charlie Chaplin gynt yn ddisgybl ac mae ’na lun gwengar ohono yn y cyntedd.

Yn goron ar ddathliadau’r pen-blwydd arbennig eleni, mae adroddiad diweddar gan Ofsted yn diffinio’r sefydliad fel un ‘Da’ gydag elfennau ‘Rhagorol’. Nid bod angen rhyw gorff biwrocrataidd i gadarnhau’r hyn y mae’r rhieni yn ei deimlo’n barod am yr ysgol hynod hon.

Sioned Williams
Mwy
Darllen am ddim

Brexit – bradychu’n plant a’n hwyrion

Dadleuir yma fod hwn yn gyfnod tyngedfennol yn hanes Cymru a’r deyrnas gyfan. Wnaethom ni ddim wynebu’r fath chwalfa wleidyddol, meddir, hyd yn oed yn ystod y ddau ryfel byd nac ychwaith adeg argyfwng Suez yn 1956.

Nid yn unig mae’r wlad yn rhanedig, ond mae’r ddwy blaid fwyaf yn rhanedig – y Torïaid o’r top i’r gwaelod, a Llafur yn wynebu rhwyg, nid ymhlith ei haelodau ond rhwng yr aelodaeth a’r arweinyddiaeth. Mae diffyg cynllun, diffyg gweledigaeth, diffyg arweiniad ymhobman.

Amhosib yw dwyn i gof unrhyw gyfnod arall yn fy mywyd i pan oedd yn bosib dweud nad oedd mwyafrif amlwg i’w weld yn San Steffan dros unrhyw gynllun o gwbl: y capten a’i thîm yn dal i ddadlau dros amryw fapiau, y cwmpawd yn troi i bob cyfeiriad, un rhan o’r criw yn loetran ger y badau a’r llall yn barod i’n chwythu i gyd i ebargofiant.

Ond beth am ein sefyllfa ni yng Nghymru, gwlad a bleidleisiodd yr un fath â Lloegr? A yw’r canlyniad hwnnw yn arwydd ein bod am wireddu hen bennawd cywilyddus yr Encyclopaedia Britannica, ‘For Wales, see England’? Does bosib. Os oedd hunaniaeth Cymru yn medru goroesi cyfnod yr Ymerodraeth Brydeinig, does bosib nad oes modd iddi oroesi’r dyddiau gwyllt hyn yn ogystal â sialensiau demograffig amlwg.

Er i Gymru bleidleisio’n wahanol iawn i’r Alban a Gogledd Iwerddon, ar draws Cymru a Lloegr roedd y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn is yng Nghymru – 52.5 y cant – nag yn unrhyw ranbarth o Loegr ar wahân i Lundain a’r de-ddwyrain. Mae hyn yn cymharu â 59 y cant yng nghanolbarth Lloegr a 58 y cant yn y gogledd-ddwyrain. Ar yr ochr arall roedd y bleidlais i Aros fymryn yn uwch yng Nghaerdydd nag ydoedd yn Llundain. Dros Gymru gyfan doedd y mwyafrif dros Adael yn ddim ond 82,000 – mewn gwlad o dair miliwn.

Geraint Talfan Davies