Dyddiau Caethiwed

Blog link

Wrth ysgrifennu hyn o eiriau rwyf yn gwrando ar Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, yr albwm Tacsi i’r Tywyllwch, a’r gân sy’n chwarae ar hyn o bryd yw ‘Dyddiau Caethiwed’. Mae’n eitha perthnasol i sut mae llawer yn teimlo y dyddiau yma, a chymaint o bobl o bob oed yn gaeth i’w cartrefi wrth i Covid-19 ledaenu ar draws y wlad.
Gadewch imi droi’r cloc yn ôl ychydig fisoedd a hithau’n ganol gaeaf. Y ffliw sy’n ein poeni ni yma yn Ysbyty Gwynedd, gyda nifer o gleifion yn dangos symptomau. Yn y cyfnod yn arwain at hynny rhaid paratoi’r meddygon a’r nyrsys a’u hyfforddi i ddefnyddio offer amddiffynnol personol (PPE, sef Personal Protective Equipment). Ffedog, menig a mwgwd yw’r offer y mae’r staff yn ei wisgo wrth ofalu am glaf gyda ffliw – offer yr ydym yn ei ddefnyddio bob dydd bron, ond mae’n bwysig gwneud yn siŵr fod pawb yn gwybod nid yn unig sut i’w ddefnyddio’n gywir ond pryd i’w ddefnyddio a’r dechneg o’i wisgo ac yna ei dynnu. Yn ystod y cyfnod hwn, hefyd, rydym yn dechrau clywed newyddion ychydig yn frawychus am y math newydd o’r coronafirws sy’n prysur ledaenu ar draws Tsieina.
Troi’r cloc ymlaen rai wythnosau, ac mae’r firws bellach ar stepan y drws, gyda phlant o’r ysgol uwchradd leol wedi dychwelyd o’r Eidal a nifer ohonynt yn dangos symptomau. Dilyn cynllun Iechyd Cyhoeddus Cymru – gwell profi’r bobl ifanc yma yn eu cartrefi na dod â nhw i’r ysbyty. Allan â ni, felly, o gwmpas cartrefi Gwynedd, gan fynd o dŷ i dŷ i brofi’r unigolion ifanc a chan egluro’r canllawiau i’w teluoedd, h.y. y byddwn yn dod i mewn i’r tŷ yn gwisgo ffedog, menig a mwgwd, cymryd swab ac yna’i anfon yn syth o’r cartrefi i Gaerdydd i’w brofi. Y cyfan yn dipyn o antur, ond pwy fuasai wedi meddwl y byddai’r sefyllfa, yn ystod yr wythnosau a oedd i ddod, yn troi’n un mor ddifrifol a hynny mor gyflym gan arwain at yr anhrefn presennol o fewn y byd iechyd?
Mae bywyd o ddydd i ddydd yn yr ysbyty yn awr wedi’i feddiannu gan y paratoadau ar gyfer Covid-19: gwneud yn siŵr fod y staff yn gwybod sut i ddefnyddio’r cyfarpar amddiffyn, trefnu’r wardiau fel y gallant dderbyn cleifion sy’n dioddef o’r salwch, a threulio oriau’n edrych dros y canllawiau cenedlaethol sy’n newid o wythnos i wythnos fel yr ydym yn darganfod mwy am sut mae’r firws yn lledaenu.
Wrth bori drwy’r erthyglau lu sy’n trafod yr afiechyd y dois ar draws yr erthygl hon sy’n trafod bywyd yn Ysbyty Bergamo yn yr Eidal: (https://catalyst.nejm.org/doi/full/10.1056/CAT.20.0080). Mae’n erthygl sobor o drist sy’n disgrifio sut mae pethau mewn ysbyty yn ystod y pandemig ond sydd hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd y camau y mae’r llywodraeth yno wedi’u cymryd – y cloi, y pellhau cymdeithasol – yn ogystal â phwysigrwydd creu ymwybyddiaeth gyhoeddus o’r haint a sut i’w atal.
Fel nyrs atal heintiau, y neges bwysicaf y gallaf ei chyfleu yw bod gofalu am lendid personol, golchi dwylo a chadw at foesau peswch yn rhywbeth y gallwn i gyd ei wneud i rwystro lledaeniad y feirws. Edrychaf ymlaen at rannu argraffiadau o fywyd yn yr ysbyty yn ystod y cyfnod dyrys hwn.

Dafydd Williams yw Arweinydd Gwasanaeth Clinigol Atal Heintiau (Gorllewin) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.