Fel ŵyn i’r lladdfa

Blog link

O emyn yn fy mlog cyntaf i dinc Beiblaidd yn hwn, mi ydw i’n bendant yn dangos tystiolaeth o’m magwraeth gapelgar i’r darllenwyr. O lyfr Jeremeia y daw ‘fel ŵyn i’r lladdfa’ (ond mi oedd yn rhaid imi edrych yn y Geiriadur Beiblaidd i ddarganfod hynny cofiwch).

Y rheswm pam y mae hyn ar fy meddwl yw mai dyna sut mae nifer o’m cyd-weithwyr ar y rheng flaen a minnau yn teimlo ar hyn o bryd, wrth wynebu her Covid-19. Mae’r prinder byd-eang o gyfarpar amddiffynnol personol (y PPE y soniodd Dafydd Williams amdano yn y blog blaenorol) yn golygu bod rhaid i weithwyr rheng flaen ymdrin â chleifion heb fwgwd, gorchudd llygad, ffedog na menyg yn aml iawn. Yr hyn sy’n waeth yw bod rhai carfanau o weithwyr yn cael eu bygwth â chamau disgyblu os ydynt yn defnyddio PPE ‘yn ddiangen’. Beth yw ‘diangen’ y dyddiau yma? Mae gwaith ymchwil o Brifysgol Rhydychen yn awgrymu’n gryf fod 50% o’r rhai sy’n cario’r firws heb ddim symtomau o gwbl, felly oni ddylai pob cyswllt â phob claf olygu defnyddio PPE? Dylai, heb os, mewn rhyferthwy pandemig. Am ddewis erchyll i rai gweithwyr rheng flaen orfod ei wneud – colli swydd ynteu colli bywyd?

Er bod angen pwysleisio y bydd y mwyafrif helaeth o’r rhai sy’n dal y firws yma’n dod trwyddi’n iawn, gyda dros 80% ddim angen gadael eu cartrefi i dderbyn unrhyw driniaeth, mae’n bwysig derbyn bod rhai gweithwyr iechyd ifanc iach wedi marw o glefyd Covid-19. Y rheswm am hynny mae’n debyg yw bod hyd yn oed eu systemau imiwnedd ifanc ac iach wedi eu gorlethu gan bentwr o’r firws, o ganlyniad i fod mewn cysylltiad hir ag o heb gyfarpar amddiffynnol addas. Mae rhywun yn gorfod derbyn i raddau fod gwneuthurwyr PPE yn cael trafferth enfawr i greu digon ohono ar frys, ond mae cael eich bygwth ag achos disgyblu gan rywun sy’n eistedd tu ôl i ddesg, yn bell o’r rheng flaen, yn brifo’r un fath.

Mae gweithwyr cartrefi gofal a nyrsys cymunedol yn haeddu sylw arbennig yng nghanol yr holl sôn am ‘achub bywydau ac achub yr NHS’. Yn anffodus, ni fydd pawb sy’n dal y firws yma yn cael eu derbyn i’r ysbyty i gael triniaeth ar anadlydd neu mewn adran gofal dwys. Y disgwyliad yw y bydd y galw’n rhy uchel ac y bydd yn rhaid ‘dogni’ triniaeth o’r fath. A bod yn deg, ni fyddai’r driniaeth o fudd nac yn addas i bawb. Yn yr achosion hynny, bydd gofalwyr yn y gymuned yn gwneud eu gorau glas i ddarparu gofal diwedd oes urddasol i gleifion yn eu cartrefi. Ni fydd modd ‘achub bywyd’ pawb, ond oni fydd y gofal hwn yr un mor bwysig i ni a’n hanwyliaid? Oni ddylai’r gweithwyr hollbwysig yma dderbyn yr un parch a bri, a PPE? Wrth gwrs y dylent.

‘Arhoswch adref, achubwch yr NHS ac achubwch fywydau’ ydi cri’r llywodraeth ar hyn o bryd. Ond y tristwch mawr yw bod yr NHS eisoes wedi methu – pob clinig cleifion allanol wedi ei ganslo, pob llawdriniaeth sydd heb fod yn un frys wedi ei chanslo, sgrinio ar gyfer canserau a chyflyrau peryglus eraill i gyd wedi dod i ben am y tro. Mae pobl yn dioddef ac yn marw o Covid-19 yn y wlad yma, ond mae pobl yn dioddef ac yn marw o ganlyniad i effeithiau anuniongyrchol y pandemig hefyd. Mae’r gwasanaeth iechyd yn ei baratoi ei hun at don o salwch Covid-19 – ond dydi o ddim yn amser da i fod yn sâl efo unrhyw gyflwr arall chwaith. Mi fydd y gofal sy’n cael ei gynnig yn bendant o safon is nag y dylai fod – sy’n ein gwneud ni i gyd fel ŵyn i’r lladdfa.

Mae Dr Catrin Elis Williams yn feddyg teulu ym Meddygfa Bodnant, Bangor.