Y llythyren R

Blog link

Gwta bythefnos sydd yna ers i mi ysgrifennu'r blog cyntaf, ac erbyn hyn mae'r byd meddygol a nyrsio yn fyd gwahanol iawn. Clywn bob dydd am niferoedd y cleifion sy'n profi'n bositif ac am y niferoedd sy'n marw. Medrwn hefyd droi at Doctor Google, at ganllawiau Ffion ar Facebook a Twm ar Twitter sydd i gyd â rhyw fath o sylwebaeth neu farn i ni i gyd ei ddilyn. Ond rhaid dweud mai profiad arbennig ar ddydd Llun y Pasg oedd cymryd rhan yn fideo fy nghydweithiwr Rhys Jones, Nyrs Arbenigol a drefnodd i gael staff Ysbyty Gwynedd i anfon y neges am aros adra i'r byd cyfryngau cymdeithasol.

Mae wardiau yn Ysbyty Gwynedd yn wag iawn, yn disgwyl am y drychineb i ddigwydd. Soniais yn fy mlog blaenorol am y darparu a'r ymarfer defnyddio'r PPE, a'r cynllunio i gael gwelyau ychwanegol yn yr ysbyty a'r ysbytai cymunedol. Ond pam, meddech chi?

Yn ystod cyfnodau pandemig mae'r epidemiolyddion yn cyfrifo gwerth R0 yr haint, sef i ba raddau y mae'r haint yn trosglwyddo o un person i'r llall. Mae gwerth R0 Covid-19 yn gyfystyr â rhwng 2 a 3, hynny yw am bob un person sy'n cael yr haint mae ganddo'r modd i heintio 3 arall. Difyr iawn yw cymharu hyn â brech yr ieir (chickenpox) sydd â gwerth R0 o 10 –12, sy'n golygu y gallai un person wedi ei heintio â brech yr ieir heintio deg arall. Gobeithio bod hyn yn rhoi i ni syniad pam bod rhaid darparu, yn ôl yr epidemiolyddion, am y sefyllfa lle y gallai pob un person â Covid-19 heintio tri arall, a'r tri'n troi'n naw ac wedyn yn 27 ac ymlaen ac ymlaen. Cafodd y modelau hyn eu cyfrifo, wrth gwrs, ar boblogaeth ddwys dinasoedd ac nid ar gefn gwlad Cymru. Ond tybed a wnaeth hunanynysu a phellhau cymdeithasol achub y dydd i ni yn ein hardaloedd gwledig? Cawn weld. Mae erthygl ddiddorol gan Lizzie Crook yn defnyddio animeiddio i egluro sut y mae'r mesurau pellhau cymdeithasol yn medru torri'r gadwyn heintio.

A yw'r mesurau hyn yn gweithio? O edrych ar y niferoedd yn Ysbyty Gwynedd mae'n ymddangos felly. Gwelwn achosion newydd yn feunyddiol, ond mae amcangyfrif yr epidemiolyddion a'r gwir niferoedd ymhell iawn oddi wrth ei gilydd ar hyn o bryd. Ni olyga hyn y dylem ymlacio a chodi'r holl fesurau sy'n bodoli. Y gwir yw fod yr haint yn lledaenu ymysg y mwyaf bregus, sef yr henoed. Nid yn unig yn yr ysbytai y mae'r Covid-19, ond hefyd mewn nifer o gartrefi preswyl. Mewn ysbyty mae'n llawer haws cadw at bellter cymdeithasol, ond mae'n her sicrhau pellter cymdeithasol mewn cartref preswyl. Nid yn unig preswylwyr allai fod wedi'u heintio ond gall y firws fynd i'r afael â'r gweithlu gan heintio gofalwyr, glanhwyr a staff arlwyo, sy'n ei gwneud hi'n anodd iawn rhoi gofal i'r henoed. Fel pawb yn y proffesiwn gofal maent yn tynnu at ei gilydd ac yn goresgyn y rhwystr i sicrhau bod yr henoed yn cael y gofal sydd ei angen arnynt.

Wrth orffen, newyddion da am y claf a dreuliodd bythefnos yn uned ddwys Ysbyty Gwynedd yn dychwelyd adref. Tan tro nesaf cadwch yn saff.

Dafydd Williams yw Arweinydd Gwasanaeth Clinigol Atal Heintiau (Gorllewin) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.