Amser i alaru, ac amser i ddawnsio

Blog link

Alla’i ddweud â’m llaw ar fy nghalon mai heddiw ydi’r diwrnod distawaf erioed imi yn fy ngwaith. Tair galwad ffôn mewn pedair awr a dipyn o waith papur – dwi’n teimlo’n ddiog.
Mae’r gwaith paratoi ar gyfer ymdrin â’r haint i gyd wedi ei wneud, a dwi ddim yn meddwl alla’i ddarllen mwy am agweddau meddygol Covid-19, wir. Amser perffaith i greu blog felly!

Lle mae pawb? Alla’i ddim helpu pobl heb iddynt ofyn imi am yr help hwnnw, a go brin y dyliwn i ddechrau galw pobl ar hap. Ydi pobl yn fwy hunangynhaliol yn ystod y cyfnod hwn? Mae’n debyg eu bod yn meddwl ddwywaith cyn galw’r feddygfa, mae hynny’n saff. Mi ydan ni fel meddygon yn treulio dipyn o’n hamser yn trafod ofnau a phryderon, ac yn aml yn gallu rhoi tawelwch meddwl heb i bobl orfod gofyn am ail farn gan feddygon mewn ysbytai. Efallai fod rhyw deimlad ymhlith cleifion yn gyffredinol na ddylent fod yn gofyn am gyngor heb fod ei wir angen arnynt, a tydio ddim yn ddrwg o beth fod pobl yn cymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu hiechyd eu hunain ac yn magu gwydnwch wrth wneud hynny. Ond mae pryder go iawn y gallai symtomau difrifol gael eu hanwybyddu oherwydd ofn gwirioneddol sydd gan bobl y gallasent ddal Covid-19 wrth fynychu’r ysbyty. Nid yw’r ofn yn un di-sail yn anffodus.

Mae prawf pendant fod y nifer o bobl sy’n tywyllu drysau ein hysbytai cyffredinol dipyn yn is ar hyn o bryd. Fel y soniais, mae pobl eisiau cadw draw rhag ofn iddynt ddal yr haint, ac wrth gwrs mae nifer o glinigau a llawdriniaethau nad ydynt yn rhai brys wedi eu canslo neu eu gohirio. Y cwestiwn mawr ydi a ellir cyfiawnhau canslo ymron pob gwasanaeth arall er mwyn darparu gwasanaethau Covid-19? Rydym i gyd yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol ar y funud gyda thrin a thrafod dros y ffôn a’r fideo bellach yn arferol ni yn y feddygfa – ond siom o’r mwyaf oedd derbyn llythyr gan y tîm iechyd meddwl cymunedol lleol yn datgan bod y gwasanaeth wedi ei ddiddymu (dyna’r union eiriau), gan fod y ‘Tîm Uwch Reoli wedi cael cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru i ganslo gwaith clinigol di-frys’. Dwi’n teimlo fel gofyn cwestiwn tebyg i’r un a ofynnodd Vaughan Gething am Jenny Rathbone yn y cyfarfod rhithiol bonidgrybwyll o’r Senedd ar Ebrill 22 – ond wna’i ddim ymostwng i’r fath lefel. Efallai fod gwasanaethau di-frys yn ddistaw ar y funud, ond dwi’n casáu meddwl faint o waith fydd yna inni ddal i fyny arno wedi i’r dymestl yma fynd heibio.

A dyma ddod at eglurhad o’m dewis deitl y tro hwn. Mae adnod 4 pennod 3 Llyfr y Pregethwr i’w weld yn addas iawn. Yn sgil yr argyfwng Covid-19, mae fideos wedi dod i’r amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol o staff ysbytai yn dawnsio mewn criwiau mewn ymgais i godi gwên a chodi morâl. Cam (neu gamau) gwag iawn, yn fy marn i, yw tynnu sylw at faint o amser sbâr sydd gan y staff yma er mwyn perffeithio’r dawnsfeydd, tra mae cleifion canser yn dioddef poen meddyliol a chorfforol yn eu cartrefi wrth i’w triniaethau gael eu canslo. Rwyf wedi meiddio lleisio’r farn honno yn gyhoeddus ar y cyfryw gyfyngau cymdeithasol ac wedi derbyn ambell sylw digon hyll yn ôl. Ta waeth gen i am hynny – rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar, minnau a phawb arall. Mae’r haint yn dod â phob math o ofid a gofynion yn ei sgil i staff ac i gleifion, gyda phawb â gwahanol ffyrdd o ymdopi. Ond yn wyneb y fath ing, fe ddylem geisio dal gafael ar ein doethineb.

Mae Dr Catrin Elis Williams yn feddyg teulu ym Meddygfa Bodnant, Bangor