BYW YN ÔL EIN HANGHENION AMRYWIOL

Blog link

Rwyf wedi sylwi ar y darlun uchod yn cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol dros y dyddiau diwethaf.

Darlun anhysbys ydyw, o fersiwn o byramid enwog y seicolegydd Abraham Maslow, Hierarchaeth Anghenion. Dw'i’n credu i’r ddamcaniaeth hon gael ei chyflwyno am y tro cyntaf gan Maslow yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn 1943. Yn ôl Maslow, ein hangen sylfaenol fel dynoliaeth yw goroesi, ac os derbyniwn ei byramid, a’i ddamcaniaeth, golyga hyn y byddwn, yn gyntaf, yn diwallu’n hanghenion ffisiolegol am bethau fel aer, bwyd, diod a lloches. Yn ôl Maslow, dyma fydd ein hunig gymhelliad hyd nes y’i cyflawnir. Pan gyrhaeddwn y pwynt hwnnw, cawn symud ymlaen i’r rheng uwch yn y pyramid, sef diogelwch. Dyna fydd ein cymhelliad wedyn, nes diwellir yr angen. Awn ymlaen nes inni gyrraedd y copa, lle byddwn yn cyflawni ein potensial personol, fydd yn cynnwys,( yn ôl y fersiwn uchod o’r pyramid,) weithgareddau creadigol.

Mae’n byramid diddorol, ac ar un olwg, gallaf weld ei berthnasedd i’n sefyllfa bresennol, ble mae nifer o bobl wedi mynegi eu rhwystredigaeth gyda’r hyn maent yn teimlo fel 'pwysau i gyflawni', yn ystod y cyfnod yma o ‘lockdown’ cymdeithasol. Rhennir y darlun uchod o byramid Maslow, felly, mewn ymateb i’r 'pwysau' hyn, ac i annog pobl i ollwng unrhyw deimlad o orfodaeth i gyflawni. Digon teg, mewn un ystyr.

Er hynny, erys y gair 'ond'. Yn fy mlog diwethaf, dywedais nad yw pawb yn debyg o gael eu heffeithio i’r un graddau gan yr argyfwng hwn; yn awr, nac yn y dyfodol. Y tlotaf a’r mwyaf bregus yn ein cymdeithas fydd yn cario’r baich mwyaf, heb os nac oni bai. O ddeall hynny, mae rhannu darlun Maslow, a honni bod y gymdeithas gyfan yn brwydro ar waelodion ei byramid, yn gwneud i mi deimlo’n bur anghyfforddus. Dydi hi ddim yn wir bod pawb ohonom yn brwydro i gwrdd â’n hanghenion sylfaenol; ddim i’r un graddau, beth bynnag.

Fy ail 'ond' yw bod sawl beirniadaeth, a gwelliant, wedi eu cynnig ar gyfer pyramid Maslow dros y blynyddoedd. Yn 2011, er enghraifft, cynhaliwyd ymchwil gan Brifysgol Illinois gyda’r nod o brofi perthnasedd pyramid Maslow i 123 o wledydd ar draws y byd. Wrth asesu eu data, daeth yr ymchwilwyr i’r casgliad fod yr anghenion a ddisgrifiwyd gan Maslow i’w gweld yn dal eu tir ym mhob un o’r gwledydd - hynny yw, bod diwallu yr anghenion ym mhyramid Maslow yn cyd-fynd â theimlad o fodlonrwydd. Ond, yn bwysig iawn, nodwyd nad oedd y drefn y diwellir yr anghenion ynddi i’w gweld yn effeithio ar foddhad pobl o’u bywydau. Yn ôl canlyniadau’r astudiaeth fyd-eang hon, mae hi’n berffaith bosibl cael perthnasau cymdeithasol da, a chymryd rhan mewn gweithgareddau lle’r ydym yn cyflawni ein potensial personol, gan gynnwys gweithgareddau creadigol, hyd yn oed os nad yw ein hanghenion sylfaenol ffisiolegol wedi eu diwallu’n llwyr.

Mae canfyddiadau’r ymchwil hon yn gwneud llawer o synnwyr i mi, ac wrth ei darllen, cefais fy atgoffa o sgwrs ddiweddar gyda ffrind a gafodd ei magu yn Sbaen. Roedd hi’n cofio teulu yn ei chymdogaeth a ystyriwyd yn dlawd yn ariannol, ond a fyddai bob mis, yn dewis byw ar lai o fwyd er mwyn gallu prynu tocyn i fynd i’r opera. Nid yw’r teulu yma, felly, yn ffitio damcaniaeth Maslow. Iddynt hwy yr oedd yr opera, mae’n amlwg, yn cynnig maeth oedd yr un mor angenrheidiol â bwyd.

Felly, tra’n llwyr dderbyn fod nifer fawr ohonom, y dyddiau hyn, yn gallu canfod rhyw berthnasedd yn y darlun o byramid Maslow, dydw i ddim yn credu bod hynny’n wir am bawb. Tra bydd rhai’n siwr o’i chael hi’n anodd i gymell eu hunain i wneud unrhyw beth yn ystod y cyfnod yma, bydd eraill yn dibynnu ar greadigrwydd, a chymeryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol, er mwyn diwallu eu hanghenion personol hwythau. Y gwir yw ein bod i gyd yn wahanol, ac ni allwn ni gael ein stwffio’n gyfforddus i un pyramid taclus.

Fy mhrofiad personol yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn yw bod pob dydd yn wahanol yn ein tŷ ni. Weithiau byddaf yn deffro’n llawn egni a syniadau am bethau i wneud gyda’r plant. Ar ddyddiau eraill byddaf yn hynod flinedig ac yn ei chael hi’n anodd meddwl am beth i gael i swper hyd yn oed. Mae hyn yn wir am y gŵr a’r plant hefyd, a dydi hi ddim yn dilyn ein bod ni i gyd yn teimlo’r un fath ar yr un diwrnod. Y dydd o’r blaen, er enghraifft, roeddwn yn llawn egni, ac wedi cynllunio ambell i dasg a fyddai,
yn fy meddwl i, yn apelio’n fawr at Sisial, sy’n 8 oed. Roedd hi, ar y llaw arall, awydd lliwio, a swatio yn ei gwely am awran yn y prynhawn: felly, roedd yn rhaid i mi dderbyn mai dyna oedd ei hangen.

Wrth ddysgu yoga, y brif neges y byddaf yn ceisio ei rhannu yw caredigrwydd ac, yn benodol, y pwysigrwydd o ddangos caredigrwydd tuag atom ni ein hunain, er mwyn gallu teimlo’r un caredigrwydd tuag at eraill, boed ym mhell neu’n agos; yn ffrindiau da, neu’n bobl nad ydym erioed wedi eu cyfarfod. Credaf fod y neges o garedigrwydd yn berthnasol i’r drafodaeth hon hefyd. Os yw bod yn garedig gyda chi’ch hun yn golygu camu nôl, a’i chymryd hi’n dawel am gyfnod, gwnewch hynny ar bob cyfrif, gan gofio y gall hunan-garedigrwydd ymddangos yn wahanol iawn i bobl eraill, a chynnwys gweithgareddau a chymelliannau gwahanol. Mae hynny’n berffaith iawn. Does na ddim ‘ffordd gywir’ i fyw drwy’r sefyllfa bresennol, dim ond y ffordd sydd yn teimlo’n iawn i bob unigolyn ar y pryd. Rydym i gyd yn wahanol. I mi, dyna sy’n gwneud yr enfys `ma o fyd mor ddiddorol.

1.https://news.illinois.edu/view/6367/205291