Brechlyn ar gyfer y COVID

Blog link

Ble’r oeddech chi ar 22 Tachwedd 1963? Embryo oeddwn i, ond bydd rhai ohonoch chi yn siŵr o fod yn cofio clywed y newyddion am lofruddiaeth J.F. Kennedy.

Beth am 8 Mai 1980? Diwrnod hanesyddol arall, ond am reswm gwahanol iawn. Hwn oedd diwrnod datganiad Sefydliad Iechyd y Byd fod firws y frech wen wedi ei drechu, ac wedi ei ddifa dros y byd i gyd am fod brechlyn effeithiol wedi ei ddarganfod, a’i ddefnyddio.

Bydd enw Edward Jenner (1749–1823) yn gysylltiedig am byth â brechlyn y frech wen. Sylweddolodd Jenner nad oedd y morynion oedd yn godro gwartheg yn debygol o gael eu heintio gan y frech wen os oeddent eisoes wedi cael eu heintio gan y cowpog (cowpox) neu’r cwpog. Firws brech wen y gwartheg yw hwn, sy’n achosi brech a salwch digon diniwed i fodau dynol, ond sydd ar yr un pryd yn ysgogi system imiwnedd pobl i adnabod ei berthynas dynol a oedd, yn rhy aml o lawer, yn angheuol (gan adael creithiau hagr iawn ar wynebau rhai a oroesai). Gan fod systemau imiwnedd y morynion yn cael eu gwarchod rhagddo, yna ni ddalient y frech wen.

Mae hanes yn adrodd bod y math o wybodaeth a oedd gan Jenner yn gynhenid i gymdeithasau dros y byd, ganrifoedd lawer cyn diwedd y 18g pan oedd yn arbrofi ar y cysylltiad rhwng y cowpog a’r frech wen. Cred oedd hon, heb lawer o sylfaen wyddonol iddi, y gellid dod â chleifion wedi eu heintio â rhyw organedd i gyswllt ag eraill, holliach, i’w diogelu ar gyfer y dyfodol.

Heddiw mae galw a brys mawr am frechlyn i reoli COVID-19. Ras wyddonol, glinigol a byd-eang, i gynhyrchu fformiwla ddiogel ac effeithiol – yn debyg i honno i greu brechlyn firws Marburg a darganfod mwnci gwyrdd, yn nofel Stanley Johnson (ia, tad Boris), The Marburg Virus (1982). Tan yn ddiweddar iawn doedd gen i ddim syniad am fodolaeth y nofel, a dim ond gobeithio ei bod o safon wyddonol uwch na’r hyn a gawn yn hanes Dustin Hoffman yn chwilio am frechlyn arall, a mwnci arall, yn y ffilm Outbreak (1995)!

Heddiw mae buddsoddi enfawr mewn labordai prifysgolion i gynhyrchu brechlyn COVID-19, gyda nifer yn cydweithio â chewri’r byd fferyllol diwydiannol. Mae gan lywodraeth San Steffan ffydd fawr yn enw Jenner eto gan iddynt fuddsoddi degau o filiynau o bunnoedd yn Sefydliad Jenner ym Mhrifysgol Rhydychen a Choleg Imperial Llundain i ddatblygu brechlyn efo llond ceg o enw – chAdOx1 nCOV19. Difyr (i mi, beth bynnag) yw dadansoddi’r enw sy’n egluro tarddiad y brechlyn hwn. Cynrychiola’r ‘Ad’firws adeno (adenovirus) sy’n gyffredin iawn ar draws y byd ac sy’n achosi rhai symptomau tebyg i rai COVID-19. Y firws hwn yw sylfaen y brechlyn, ond un sy’n heintio tsimpansïaid yw hwn yn hytrach na bodau dynol – a dyna i chi ystyr ‘ch’. Mae’r ‘Ox’ yn fwy amlwg, gan sicrhau cydnabyddiaeth i’r ddinas a’i phrifysgol.

Mae’r wyddoniaeth sydd wrth wraidd chAdOx1 nCOV19 yn syfrdanol. Trwy ddefnyddio peirianneg geneteg mae’r firws adeno wedi cael ei addasu i amlygu neu ddinoethi protein arbennig ar ei wyneb, un sydd fel arfer wedi ei lynu ar arwyneb COVID-19. Fe’i gelwir yn brotein sbigyn (spike), a hwn yw’r rheswm gweledol microsgopig pam y gelwir y firws yma yn firws Corona (gweler fy mlog cyntaf, 23.03.20). Ar ôl i ni ei dderbyn fel brechlyn yn y corff, y gobaith yw y bydd ein celloedd imiwn fel macroffagau yn ei fachu, yn ei fwyta a’i brosesu. Swyddogaeth naturiol macroffagau yw hela estroniaid fel bacteria, eu dinistrio ac ysgogi ymateb imiwn llawn. Byddant hefyd yn dod wyneb yn wyneb â’r brechlyn, sydd ar y wyneb yn dynwared COVID-19. Wedi ei fwyta a’i dreulio yn stumog y gell (lysosom) bydd y macroffagau yn amlygu darnau o’r brechlyn (er enghraifft darnau o’r protein sbigyn) ar eu hwynebau, a dyma fydd y triger i weddill y system imiwnedd gychwyn ymateb imiwn llawn.

Yn ei chyfanrwydd mae’r broses yn un hynod gymhleth, ond ar ddiwedd y dydd y gobaith yw y bydd gan unigolyn sydd wedi ei frechu y gallu, efallai am gyfnod o flynyddoedd, i adnabod y protein sbigyn ar wyneb firws COVID-19 naturiol ac i ymateb yn sydyn iawn iddo a’i ddinistrio. Adnabod ac adweithio’n sydyn sy’n symbylu system imiwnedd effeithiol i’n gwarchod ni’n ddyddiol, a hynny rhag pob math o heriau. Heddiw mae’r brechlyn hwn yn sefyll prawf cymal cyntaf treial clinigol. Yn gyntaf defnyddir poblogaeth o wirfoddolwyr iach er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel, ac ymlaen wedyn, gobeithio, i’r cymal nesaf gan edrych yn llawer mwy manwl ar ymateb y system imiwnedd i’r sialens newydd yn y corff.

Yn nes at adre mae Dr Alan Parker a’i dîm yn Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd hefyd yn y ras i greu brechlyn – ond heb gyllid o filiynau. Firws adeno sy’n cael ei ddefnyddio eto ond mewn ffordd wahanol. Y gobaith yw y bydd y firws adeno unigryw yma, fel brechlyn, yn cludo moleciwl tebyg i DNA i gelloedd macroffag fydd yn eu tro yn cael eu trawsffurfio i allwthio protein sbigyn COVID-19 ar eu hwynebau a’i gyflwyno i weddill y system imiwnedd i greu ymateb.

Does dim lle yma i drafod yr holl waith cyfredol byd-eang i greu brechlyn effeithiol, ond mae gobaith y bydd un yn ei amlygu’i hun yn bositif. Bydd yn rhaid wedyn edrych yn ddifrifol iawn ar adnoddau cynhyrchu’r brechlyn ar raddfa enfawr, sef yr angen am filiynau neu biliynau o ddosau i alluogi rhoi brechlyn i unigolion ar raddfa fyd-eang. Buasai hyn yn anodd iawn i un cwmni ei gyflawni a thebyg y bydd yn rhaid byddino nifer o gwmnïau fferyllol i ddefnyddio un broses gynhyrchu i wneud yn siŵr bod pob dos yn unfath. Fel yr eglura Sion Wyn, ffrind ysgol o Lanrwst sy’n arbenigwr mewn defnydd systemau cyfrifiadurol yn y diwydiant fferyllol, ac un sydd wedi ymgynghori â chynhyrchwyr brechlynnau ar draws y byd, bydd hyn yn dipyn o her:

‘Bydd rhaid diffinio’r anghenion technegol yn dynn iawn ac yn eglur iawn, yn enwedig y paramedrau sy’n ymwneud â diogelwch ac effeithiolrwydd y brechlyn, a hefyd bydd angen diffinio sut y bydd y brechlyn yn cael ei brofi a’i ryddhau ar y farchnad.

‘Ffactorau eraill sy’n ychwanegu at yr her yw cymhlethdod cynhenid y broses, y gwahaniaeth o ran technolegau a systemau ac arferion gwaith rhwng cwmnïau unigol, a’r gwahaniaeth rhwng lefel profiad a gwybodaeth rhwng gwneuthurwyr mewn gwahanol rannau o’r byd.’

A oes gobaith y bydd brechlyn COVID-19 effeithiol ar gael i bawb yn y dyfodol agos? Mae rhai, mwy uchelgeisiol na’i gilydd, wedi awgrymu y bydd un ar gael cyn diwedd y flwyddyn. Uchelgeisiol yn wir! Bydd hi’n dipyn o gamp cael un erbyn blwyddyn i heddiw.

Ac a oes gobaith y gallai Sefydliad Iechyd y Byd, rywbryd yn y dyfodol, ddatgan fod COVID-19 wedi ei ddileu yn gyfan gwbl? Gwaetha’r modd mae’r hanes sy’n dilyn cyfnod dileu’r frech wen yn ein hatgoffa nad yw pob firws yr un fath, a does dim gwarant y bydd y firws hwn yn diflannu. Datganiad fyddai hwn efo tipyn go lew o risg yn perthyn iddo,ac anodd credu y buasai unrhyw un yn y Sefydliad yn ddigon dewr i sefyll ar lwyfan a’i gyflwyno i’r byd.

Yn wreiddiol o Ddyffryn Conwy, mae Arwyn Tomos Jones yn Athro yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd.