Y Profion - Ble mae'r Cynllun?

Blog link

Ddoe, clywsom fod Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cymeradwyo prawf gwrthgyrff (antibody) gan gwmni Roche sydd yn ddigon dibynadwy i’w ddefnyddio i ganfod a yw unigolyn wedi dal haint y coronafirws yn y gorffennol ai peidio. Mae hyn yn gam mawr ymlaen, oherwydd bydd yn galluogi gwyddonwyr i ddarganfod nid yn unig faint o’r boblogaeth sydd eisoes wedi eu heintio, ond ym mha rannau o’r wlad, ym mha ystod oedran ac ym mha fathau o swyddi. O’i ddefnyddio’n strategol, bydd hyn o gymorth mawr i ddatblygu ffyrdd i symud ymlaen.

Dwi am ddychelwyd at y math arall o brofion – rheini sy’n cael eu defnyddio i wneud diagnosis ar y pryd. Mi glywson ni eisoes am sawl problem yn eu cylch. Dywedodd rhywun wrtha i yn ddiweddar ‘Ond ryden ni wedi arfer efo gwneud bob mathau o brofion, does bosib? Beth yw’r broblem?’ Mae hynny’n gwestiwn da.

Yn gyntaf wrth gwrs, dydy ‘gwneud prawf’ ar ei ben ei hun yn datrys dim. Mae’n rhaid cael y canlyniad at y lle priodol o fewn amser priodol ac mae’n rhaid i ganlyniad y prawf gael ei ddefnyddio at ddiben fydd yn gwneud gwahaniaeth i rywbeth. Pan oeddwn i’n hyfforddi mewn microbioleg glinigol, hoff ddywediad yr Athro oedd yn bennaeth adran i mi oedd ‘rubbish in, rubbish out’. Hynny ydy, dydy prawf yn dda i ddim os nad yw mewn cyd-destun synhwyrol ac yn rhan o gynllun clinigol. Y cwestiwn rwan ydy, ble mae’r cynllun?

Er ei bod wedi cymeryd peth amser, mae’r DU bellach ậ’r capasiti i wneud llawer mwy o brofion dyddiol na fu eu hangen ar wlad fel De Corea (sydd ậ phoblogaeth gweddol debyg), a honno’n un o’r gwledydd sydd wedi defnyddio profion i’r eithaf. Ond mae peryg i obsesiwn Matt Hancock efo 100,000 o brofion y diwrnod dynnu sylw pobl oddi wrth y ffaith fod angen defnyddio’r holl ganlyniadau yma mewn ffordd systematig. Datgelwyd yr wythnos yma bod canlyniadau o’r canolfannau profi mawr newydd yn Lloegr wedi dechrau ‘diflannu i dwll du’ a swyddogion iechyd cyhoeddus ddim bellach yn gallu derbyn gwybodaeth amdanynt. Mae’r canllawiau ynglŷn ậ phwy ddylai gael profion wedi newid yn ôl a mlaen beth wmbreth o weithiau, yn enwedig yn Lloegr, ac maent yn wahanol yng Nghymru, nes bod pawb wedi drysu’n lận. Pa synnwyr oedd mewn gadael i bobl wneud ceisiadau am brofion yn y post ond peidio ậ sicrhau profion i'r rheini oedd wirioneddol eu hangen yn gyntaf, er enghraifft? Fel efo popeth, mae angen system.

Roeddwn i’n dychmygu bod y cynllun a’r system yma yn cael eu datblygu ac y caent eu datgelu’n fuan iawn - ac yn sicr cyn i gyfyngiadau gael eu llacio. Soniwyd llawer am ‘test, trace and isolate’. Dyma graidd ein system (ardderchog fel arfer) o reoli clefydau heintus yn y gymuned – mae gennym dimau o staff ym mhob rhan o’r wlad sydd wedi hen arfer efo’r gwaith allweddol yma. Gwir, does fawr o synnwyr yn hyn pan mae haint yn lledu’n gwbl ddireolaeth a channoedd o filoedd o achosion ar led. Ond unwaith mae’r niferoedd yn dod i lawr daw’n fwyfwy posib, a phwysig. Felly, yn awr, beth fydd y system? Sut bydd yr app bondigrybwyll yn cael ei ddefnyddio, a phryd? Pwy sy’n mynd i dderbyn canlyniadau’r holl brofion yma, a sut – y claf yn unig, ei feddyg teulu, staff iechyd cyhoeddus? Sut bydd canlyniad cyflym yn cael ei sicrhau ym mhob achos?

Felly pan ryddhawyd y cynllun i lacio cyfyngiadau yn Lloegr ddydd Llun diwethaf, es ato’n awchus i ddarganfod atebion i’r holl gwestiynau hyn. Ces fy siomi. Dim ond 631 gair ar y pwnc oedd yno (llai na hyd y blog yma) yn sôn yn annelwig am brofi llawer iawn o bobl ac am app, ond heb ddim manylion pendant nac amserlen i nodi pryd bydd strategaeth fanwl yn cael ei chyflwyno. Pethau sylfaenol ydi'r rhain. Pam bod Llywodraeth y DU yn llacio cyfyngiadau yn Lloegr heb sefydlu ac egluro hyn oll? Dwi’n methu’n lận a deall. Mae 100 000 o brofion y dydd i’w croesawu ond nid oes pwrpas iddyn nhw fodoli mewn gwagle. Rydw i’n falch o ddarllen y bore ma bydd Mark Drakeford yn gwneud datganiad yn ddiweddarach heddiw am gynlluniau Cymru – felly efallai y cawn oleuni bryd hynny.

Mae yna broblem arall sydd ậ’i gwraidd yn ddyfnach. Tra bod gan gynghorwyr meddygol a gwyddonol llywodraeth y DU, sydd wedi bod yn ymwneud ậ sefydlu profion labordy a ‘track and trace’ yn Lloegr, yn ddiau gynlluniau a chyngor call, a’r bwriadau cywir, roedd yr hyn oedd ar gael iddyn nhw i’w ddefnyddio o fewn labordai’r GIG a’r system iechyd cyhoeddus ar gychwyn hyn oll yn gwbl annigonol. Diolch i flynyddoedd o dangyllido a methiant i gyflenwi lefel sylfaenol o offer, systemau a staff dros gyfnod hir, pan ddaeth yr argyfwng, doedd yr adnoddau yr oedd eu hangen ddim ar gael. Caniatawyd i hyn ddigwydd er gwaetha rhybuddion mynych i’r llywodraeth.

Tybed ydi ymyrraeth wleidyddol ar lefel y DU, yn rhoi pwyslais ar dargedau a sloganau yn hytrach nag effeithiolrwydd ymarferol, wedi gwneud y dasg hyd yn oed yn fwy anodd nag y dylai fod, ac wedi tanseilio’r hyn yr oedd swyddogion iechyd wedi gobeithio’i gyflawni? Rydw i’n amau bod ffocws San Steffan ar ddelwedd wleidyddol yn hytrach na’r hyn sydd ei wir angen wedi bod yn anfantais sylweddol, ar ben y man cychwyn trychinebus. Gobeithio’n wir y gall Cymru wneud yn well.

Mae Dr Angharad Puw Davies yn Athro Cysylltiol Clinigol mewn Microbioleg ym Mhrifysgol Abertawe