Amlwg llaid ar farch gwyn

Blog link

Mae gofyn i blant ‘ydach chi’n meddwl bod hi’n bryd i chi fynd yn ôl i’r ysgol?’ fymryn bach fel gofyn i dwrci ydio’n edrych ymlaen at y Nadolig, dydi? Er bod plant o gartrefi difreintiedig yn dioddef yn enbyd o ddiffyg strwythur, cefnogaeth ac efallai hyd yn oed diogelwch a lles sylfaenol yn ystod y cyfnod hwn, ymateb llawer iawn o blant darllenwyr Barn i’r cwestiwn uchod fyddai ‘Na, mae hi’n lot rhy gynnar’, decin-i.

Mae Covid-19 yn amlwg yn glefyd marwol i rai, yn enwedig yr oedrannus a’r bregus – does ond angen edrych ar y ffigyrau sobreiddiol ar y newyddion bob dydd i weld hynny. Ond, er mor drasig yw’r marwolaethau, prin iawn ydynt mewn poblogaethau sy’n ymwneud â gwaith ysgolion. Rwy’n awyddus i bwysleisio bod angen amddiffyn carfanau bregus eu hiechyd o bob oed ar bob cyfri, ond y ffaith yw bod mwyafrif helaeth o ddisgyblion ysgol a’u hathrawon yn syrthio i’r categori risg isel o ran Covid-19.

Mae’r llywodraeth, Llywodraeth Cymru yn fwy fyth felly, yn brwydro ar hyn o bryd rhwng dilyn y cyngor gwyddonol a meddygol a phlesio’r cyhoedd. Beth mae’r wyddoniaeth yn ei ddweud wrthym felly? Wel, er bod rhai astudiaethau wedi dod i gasgliadau mymryn yn wahanol, mae’r rhai mwyaf cadarn yn dod i’r casgliad mai ychydig iawn o wahaniaeth y mae gyrru plant i’r ysgol yn ei wneud i ledaeniad a chyfraddau marwolaeth o Covid-19. Dydi hynny ddim i ddweud nad oes unrhyw risg o gwbl yn bodoli – ond mae’r wyddoniaeth yn cefnogi’r cysyniad fod y risg yn fach. Barn y cyhoedd yn gyffredinol (ac un eitha call ydi hi, chwarae teg) ydi na ddylid gyrru plant yn ôl i’r ysgol nes ei bod yn gwbl ddiogel i wneud hynny. Ond beth yw’r diffiniad o ddiogel?

I fynd â’r ddadl yma i’w phen draw, byddai ambell un o’r farn y dylid cael gwared â’r risg o ddamweiniau ceir yn llwyr – peidio mynd ar y lôn nes ei bod yn gwbl ddiogel i wneud hynny. Yr unig ffordd i sicrhau hyn fyddai gwahardd ceir yn gyfan gwbl. Efallai y byddai ambell un yn ystyried hynny fel datrysiad rhesymol – ond nid felly’r rhan fwyaf o bobl. Ymateb rhesymol fyddai rhoi mesurau diogelwch pendant yn eu lle i leihau’r risg o ddamwain car gymaint ag y bo modd.

Mae afiechyd bygythiol fel Covid-19, un na wyddom lawer amdano oherwydd ei newydd-deb, yn dod â greddfau dynol cyntefig i’r amlwg – i’n cloi ein hunain yn ein cartrefi, pentyrru bwyd a chadw ein plant yn agos. Mae hyn i’w ddeall – ond gall yr ofn hwn gael effeithiau tymor hir enbyd ar addysg a chyfleoedd ein plant i’r dyfodol os na ellir ei gydbwyso yn erbyn y risg i iechyd sy’n dod law yn llaw â Covid-19. Yn drist iawn, mae tri o blant o dan bymtheg wedi marw o Covid 19 yn y DU, hyd yn hyn (roedd problemau iechyd difrifol gan o leiaf un ohonynt yn barod). O gymharu hynny â’r ffaith fod tuag ugain o blant, iach yn flaenorol, yn marw o gymlethdodau brech yr ieir yn y DU bob blwyddyn, gallwn gael darlun gwell o’r cysyniad o risg gan nad oes neb, hyd y gwn i, yn galw am gadw ysgolion ar gau am gyfnod amhenodol oherwydd brech yr ieir. Mae brechlyn ar gael ar gyfer brech yr ieir hyd yn oed, ond nid yw ar gael ar y gwasanaeth iechyd yn y DU oherwydd ar lefel iechyd y cyhoedd, mae mwy o fudd i gymdeithas fod brech yr ieir yn cylchredeg yn ein cymunedau (er mwyn i niferoedd uwch o bobl hŷn fagu mwy o imiwnedd i’r eryr, sy’n firws tebyg iawn). Ar lefel yr unigolyn mae brechiad yn bendant yn llesol, ond gwaith sefydliadau iechyd y cyhoedd yw gwneud penderfyniadau ar sail budd cymdeithas yn gyffredinol a’r darlun llawn, yn hytrach na llond llaw o unigolion a allasai ddiodde’n enbyd neu farw. Er imi gwblhau’r blog yma’n wreiddiol ychydig ddyddiau’n ôl roedd yn dda gen i weld bod Athro Epidemioleg o Brifysgol Caergrawnt, sy’n arbenigo ym maes risg, i’w weld yn gwbl gytûn â mi mewn erthygl ar wefan y BBC a gyhoeddwyd ddydd Sul Mai 24. Mae’n debyg na fydd ei farn a’i ystadegau ef chwaith ddim yn ddigon i leddfu ofnau ambell un – ond natur ddynol ydi hynny mae’n siŵr.

Fel meddyg, mae bod yn dyst i gonsýrn cymdeithas am iechyd, er gwaetha’r amgylchiadau erchyll, yn destun peth boddhad i mi. Ond mae straeon papur newydd sy’n anelu i hybu gwerthiant trwy godi ofn am achosion prin iawn o salwch mewn poblogaethau iach yn rhwystr i drafodaeth gall. Y drafodaeth gall honno fydd yn arwain y ffordd i’n plant allu dychwelyd i’r addysg a’r bywyd ysgol sydd mor bwysig i’w datblygiad a’u dyfodol. Gochelwn rhag colli golwg ar y march gwyn trwy ganolbwyntio’n llwyr ar y mymryn bach o laid.

Mae Dr Catrin Elis Williams yn feddyg teulu ym Meddygfa Bodnant, Bangor