Gwirfoddoli i achub y boblogaeth: risg angenrheidiol?

Blog link

Pa bris ar frechlyn i amddiffyn poblogaeth y byd rhag COVID-19? Rydym ni fel cymdeithas bellach wedi dygymod â’r ffaith nad oes brechlyn rownd y gornel ac y bydd yn rhaid aros blwyddyn a mwy, os byddwn ni’n ffodus, cyn brysio i’r feddygfa neu’r fferyllfa am bigiad nodwydd a gobeithio wedyn am warchodaeth hirdymor neu oes. Yn fy mlog diwethaf (gw. Blog 08/05/20 Brechlyn ar gyfer y COVID) bûm yn trafod y broses creu brechlyn, o ymchwil yn y labordy i ddefnydd mewn lleoliad gofal iechyd, a’r profion (cymalau) cyntaf sy’n angenrheidiol i’w brofi ar fodau dynol. Ond wnes i ddim trafod y cymal allweddol hwnnw sy’n mesur i ba raddau y mae’r brechlyn yn wirioneddol yn ein gwarchod rhag y firws.

Beth am fod yn optimistaidd a dychmygu y bydd, ym Mehefin 2021, brechlyn wedi pasio cymalau cyntaf treialon clinigol, bod cymal olaf y treial yn cael ei drefnu a bod angen miloedd o wirfoddolwyr i gymryd rhan. Beth am ddychmygu hefyd fod pawb sy’n darllen y blog hwn wedi cael cynnig gwirfoddoli a'u bod i gyd yn iach, heb gael ein heintio â COVID-19 a rhwng 20–40 mlwydd oed. Dyna ddymuniad! Yn wahanol i’r arferiad o gymryd dwy flynedd a mwy i brofi brechlyn, mae brys mawr yma ac angen am fath arbennig o gymal prawf-brys dan yr enw Astudiaeth Sialens Ddynol (Human Challenge Studies).

Yn gyntaf buasai’n rhaid meithrin y firws yn y labordy a’i drosglwyddo i glinig a’i roi i un grŵp o wirfoddolwyr i weld pa ddos (y rhif lleiaf o firysau) fuasai’n gymwys i achosi symptomau COVID-19 yn y mwyafrif. Byddai’n rhaid gwneud hyn mewn uned glinigol fel ysbyty gan fod siawns y byddai rhai’n datblygu symptomau difrifol iawn. Dychmygwch eich bod chi wedi gwirfoddoli ac yn aros i weld a yw tymheredd eich corff yn esgyn, peswch yn amlygu neu anadlu’n dod yn drafferthus. Y tebygolrwydd yw y byddai mwyafrif sylweddol o’r boblogaeth sy’n cael eu heintio fel rhan o’r treial yn aros yn holliach, dim symptomau ganddynt, ac y byddai’r gweddill yn cael salwch ysgafn neu un difrifol iawn. Ym mha ddosbarth fyddech chi’n disgyn – y 99% fydd yn goroesi’r sialens ynteu’r 1% fydd ddim?

Mae’n bryd i mi ofyn rŵan, a ydych chi’n fodlon derbyn risg iechyd er lles y boblogaeth gyfan? Wedi profi a dewis y dos priodol bydd gofyn wedyn i ganran arall o’r gwirfoddolwyr gael pigiad o’r brechlyn, aros am fis neu ddau ac wedyn cael eu heintio â COVID-19.

Eto, ydych chi’n barod i wirfoddoli?

Wrth drafod a chysidro fel hyn mae angen ystyried y rhai sy’n peryglu eu bywydau yn ddyddiol fel rhan o’u swydd gofal iechyd mewn, er enghraifft, ward COVID-19 neu gartref gofal. Wrth sipian paned cynta’r dydd yn y gegin, a ydynt yn ystyried – ‘beth yw’r risg?’ Ydw i’n un o’r rhai ffodus ynteu a fydd y firws yn bachu heddiw? Ond i’r gwaith y maent yn mynd er gwaetha’r ansicrwydd arwyddocaol. Allgarwyr ydynt ond faint ohonom ni fase’n gwirfoddoli i sefyll risg gwahanol, fel gwirfoddolwyr prawf brechlyn? Rhy beryglus? Anfoesegol?

Mae Edward Jenner yn enwog, yn arwr, yn un a gyfrannodd i ddiflaniad y frech wen drwy ddefnyddio brechiad. Ond a oedd ei arbrawf yn brechu bachgen bach gyda’r firws cwpog ac yna ar ôl hynny gyda’r frech wen yn foesegol? Gyda ffydd mae’n siŵr, roedd yn barod i aberthu un bychan i geisio gwarchod llawer iawn mwy. Ers ei farwolaeth yn 1823 mae enw Jenner, lawer gwaith, wedi sefyll yn gyhuddiedig o flaen llysoedd arbrofion moesol.
Mae brechu a moesoldeb yn dod law yn llaw â’i gilydd. Difyr oedd darllen yn ddiweddar am foesoldeb fel pwnc trafod mewn erthygl sy’n ymdrin â brechu merched beichiog gan obeithio gwarchod y fam a’r plentyn gydag un driniaeth (gw.1 isod). Pa bris ariannol ac anariannol ydym ni yn barod ei dalu i gael brechlyn effeithiol yn erbyn COVID-19? A oes raid gweithredu profion fel hyn i brofi brechlyn?

Yn ddiweddar iawn mae tîm o Sefydliad Jenner Prifysgol Rhydychen (gw. Blog 08/05/20 Brechlyn ar gyfer y COVID) wedi datgan eu bod wedi datblygu brechlyn sy’n barod i sefyll profion clinigol. Gwirfoddolwyr ymysg gweithwyr gofal iechyd cenedlaethol fydd yn cael eu recriwtio’n gyntaf a bydd hanner yn derbyn y brechlyn a’r hanner arall y plasebo. Aros ychydig fisoedd, a mwy efallai, fydd raid wedyn i weld a oes tystiolaeth ystadegol fod llai o’r rhai sydd wedi derbyn y brechlyn yn dangos symptomau COVID-19. Y mae i’r broses hon dipyn llai o risg i’r gwirfoddolwyr y tu allan i’r risg arwyddocaol, dyddiol, y mae’r gwirfoddolwyr hyn yn ei wynebu. I ryw raddau doedd ganddyn nhw ddim dewis gwirfoddoli; mae’r risg yn rhan annatod o’r swydd.

Mae rhai gwyddonwyr meddygol yn credu bod afiechydon anghyffredin angen datrysiad anghyffredin (gw. 2 isod). Felly hefyd COVID-19?

1. Beeler J.A. et al (2016) A systematic review of ethical issues in vaccine studies involving pregnant women, Human Vaccines and Therapeutics
2. Golygyddol (2020) Extraordinary diseases require extraordinary solutions, Vaccine

Yn wreiddiol o Ddyffryn Conwy, mae Arwyn Tomos Jones yn Athro yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd.