A ddylem fod yn profi staff y GIG yn rheolaidd am COVID-19?

Blog link

Mae nifer achosion COVID-19 wedi disgyn yn sylweddol yn ein hysbytai, am ryw hyd o
leiaf. Yn awr rhaid mynd ati o ddifrif i ailgydio yng ngwaith arferol y GIG tra’n parhau i
ymdopi ậ phresenoldeb yr haint yn y gymuned. Dyma argyfwng iechyd ynddo’i hun,
oherwydd mae bywydau yn y fantol yn sgil gohirio triniaethau tyngedfennol.

Er mwyn symud ymlaen yn ddiogel rhaid gosod systemau yn eu lle i atal lledaeniad y firws
mewn ysbytai. Mae hyn yn her enfawr a’r cwestiwn yw: sut y mae modd gwneud hyn?

Un mesur posib, ac un a gafodd gryn sylw, yw’r syniad am wneud profion rheolaidd ar staff.
Fel efo sawl agwedd arall o brofi, bu dryswch difrifol wrth ei drafod ar lefel y DU.

Ar 4 Ebrill cyhoeddwyd dogfen gan GIG Lloegr oedd yn addo profion rheolaidd i weithwyr
iechyd, hyd yn oed os nad oedd ganddynt symptomau. Ategwyd hyn mewn llythyr dan y teitl
Second phase of NHS response to COVID’ a anfonwyd at bob corff GIG Lloegr ar 29 Ebrill.
Yn wir, ar 30 Ebrill honnai gwefan Iechyd Cyhoeddus Lloegr fod hyn eisoes yn bolisi
cyfredol, ond erbyn 1 Mai sylwodd rhai (gyda llygad barcud mae’n siŵr!) fod y paragraff
perthnasol wedi diflannu i ebargofiant. Tybed, holai rhai, nad oedd hyn, ynghanol yr holl
gyhoeddiadau gwleidyddol cymysglyd ac amrywiol a ddeuai o San Steffan, yn ddim ond
ffordd i gyrraedd targed y 100,000 o brofion dyddiol?

Beth bynnag, ers hynny ni chafodd y polisi yma ei wireddu mewn ffordd systematig, yn
Lloegr nac yma yng Nghymru. Y cwestiwn sy’n codi yw, a ddylid gwneud y profion
rheolaidd yma, ai peidio?

Sut y gallai profion rheolaidd helpu?

Mae yna gyfran o bobl ậ COVID-19 sydd ddim yn dioddef symptomau o gwbl – tua 40% o
ddioddefwyr, yn ôl rhai astudiaethau. Y gred yw fod y bobl yma’n debygol o fod yn llai
heintus, ond ni wyddom i ba raddau. Ar ben hynny gwyddom y gall y rheiny sy’n datblygu
symptomau drosglwyddo’r haint i bobl eraill ddiwrnod neu ddau cyn i’r symptomau
ymddangos (y cyfnod ‘cyn-symptomatig’). Gallai canfod yr achosion yma, a chadw’r bobl
hyn adref o’u gwaith, fod yn werthfawr mewn egwyddor.

Yn anffodus dydi profion ddim cystal am ddarganfod y firws yn y cyfnod cyn-symptomatig,
pan mae llai o firws yn bresennol. Hyd yn oed mewn pobl sydd â symptomau amlwg, dydi
profion ddim ond yn bositif mewn 70%–90% o achosion. Felly ni fyddai profion yn y cyfnod
cyn-symptomatig yn medru canfod nifer go sylweddol o achosion.

Ar ben hynny, os am ddefnyddio strategaeth profi’n rheolaidd, pa mor aml y dylid profi? O
brofi’n wythnosol, gallai rhywun gael prawf negatif heddiw ond yfory ddatblygu’r haint a
dod yn bositif a heintus, neu unrhyw ddiwrnod tan y prawf nesaf.

Felly, rhwng popeth, mae’n bur debyg mai lleiafrif o achosion cyn-symptomatig y gellid eu
darganfod yn y modd yma.

Oes yna dystiolaeth y gallai fod yn ddefnyddiol?

Mae tîm o Goleg Imperial wedi datblygu model mathemategol sy’n honni y byddai profion
wythnosol ar staff yn gallu atal rhwng 25% a 33% o achosion ychwanegol, ar ben mesurau
eraill. Ond mae’r model yn cymryd yn ganiataol y byddai profion yn gallu canfod 90% o’r
achosion heb symptomau, sy’n annhebygol iawn. Mewn astudiaeth ‘fyw’ mewn ysbyty yn
Llundain pan oedd yr epidemig ar ei anterth roedd tua 7% o’r staff yn profi’n bositif, ond
erbyn diwedd Ebrill daeth y gyfran i lawr i oddeutu 1%.

Egwyddorion sylfaenol

Pan oeddwn i’n hyfforddi yn Llundain roedd uned oedd yn gysylltiedig â’r brif ysbyty o’r
enw Coppett’s Wood, uned a neilltuwyd ar gyfer trin clefydau heintus. Dyma lle y byddai
cleifion yn dioddef o Ebola a chlefydau peryglus tebyg yn cael eu hanfon, unwaith y
cyrhaeddent y wlad. Er yn fechan, roedd yr ysbyty hon yn gyfan gwbl hunangynhaliol. Y
munud y cyrhaeddai achos o Ebola, âi’r safle i gyd ‘dan glo’. A phe digwyddech fod yno ar
alwad ar y pryd, ar y safle, yna gallech ddisgwyl aros yno mewn llety tan y munud y byddai’r
claf yn ymadael. Ni fyddai neb yn mynd nac yn dod heb fod gwir angen, ac felly ni fyddai’n
bosib i’r haint ddianc o’r ysbyty. Yn yr un modd yn union y gwnaeth staff un cartref gofal yn
Wrecsam ofalu na chyrhaeddai COVID-19 yno – trwy symud yno i fyw ac atal pob mynd a
dod.

Mae Coppett’s Wood wedi cau ers blynyddoedd. Rwy’n sôn am hyn nid i awgrymu y gallai
holl staff ysbyty fodern fyw i mewn, ond i’n hatgoffa bod dulliau ‘henffasiwn’ o reoli
heintiau hefyd yn gallu bod yn effeithiol iawn, a bod tuedd wedi bod i’w diystyru dros y
blynyddoedd. Mae’n hanfodol cofio am y pethau sylfaenol, megis ymbellhau personol rhwng
staff, cael staff neilltuedig ar gyfer gwahanol unedau, a darparu ardaloedd digonol i staff
gymryd egwyl neu ysgrifennu nodiadau heb gael eu gwasgu at ei gilydd. Diddymwyd llawer
o’r fath gyfleusterau dros ddegawdau. Bellach, yn aml nid oes unlle i staff newid eu dillad
heb sôn am ymolchi. Ni ddylem ychwaith anghofio cyfraniad pwysig cyfarpar PPE (sy’n
amddiffyn cleifion yn ogystal â staff) i atal haint.

Mae’n bur debyg y gallai strategaeth o brofi staff atal rhai achosion o COVID-19 mewn
ysbytai, ac felly ni ddylid ei diystyru. Ond heb ymwybyddiaeth o’i chyfyngiadau, mae peryg
y gallai’r fath system roi ffug gysur. Rhaid i ni beidio ag anwybyddu egwyddorion sylfaenol
yn ein brwdfrydedd i ddibynnu ar brofion.

Mae Dr Angharad Puw Davies yn Athro Cysylltiol Clinigol mewn Microbioleg ym Mhrifysgol Abertawe