Y canwr Tom Jones
Colofnydd

Delilah

Dydw i ddim yn adnabyddus am drydariadau cyffrous na chynhennus, a’m hunig brofiad o fynd yn feiral oedd pan o’n i’n sâl efo Covid – ond fe newidiodd hynny dros nos yn ddiweddar ac ar Tom Jones mae’r bai.

Torri’r rheol aur honno wnes i – y rheol sy’n cael ei phwnio i ben unrhyw un sydd â rôl gyhoeddus, sef peidio mynd ar gyfyl y cyfryngau cymdeithasol os ydi rhywun yn feddw neu’n flin. Do’n i ddim yn feddw, ond o’n, mi o’n i’n anarferol o flin, a dyma fi’n gollwng stêm mewn trydariad pigog cyn mynd i ’ngwely i stiwio.

Erbyn deffro y bora wedyn roedd y niwl fflamgoch wedi pasio wrth gwrs, a finnau wedi anghofio bob dim am y trydariad. Tan imi agor fy ffôn dros banad, a gweld degau ar ddegau o hysbysiadau Trydar ar y sgrîn.

Beca Brown
Mwy
Delwedd fideo - perfformiad celf
Celf

Breuddwydio mewn bwâu – holi Esyllt Angharad Lewis

Ym mlaen cyfrol o ddramâu a gyhoeddais i yn 1999, fe nodais, ‘All is sign (after Eco)’. Yr hyn a ysbrydolodd y dramodydd ifanc yma oedd cysyniadau ôl-strwythuraethol y semiotegydd Umberto Eco, wrth iddo ddadlau yn erbyn semiosis dilyffethair. Yn y dechreuad yr oedd y gair, meddai rhywun ryw dro. Ond yr hyn ddysgodd Eco i mi oedd nad oes modd i mi ymddiried yn y gair bellach. A rhith yw pob cyfathrach. Nodaf hyn yng nghyd-destun cysyniad canolog Y Sws Mewn Pinc – arddangosfa unigol gyntaf Esyllt Angharad Lewis, sydd i’w gweld yn Arcade-Campfa, Caerdydd, ar hyn o bryd.

Merch o Gwm Tawe yw Esyllt, artist a chyfieithydd sydd bellach wedi ‘dianc i’r Alban i gael golwg gwell ar Gymru’. Fe welwn ffrwyth ei gwrthrychedd yn ei harddangosfa onest a thyner – er ei bod yn llawn tyndra rhwng ystyron – sy’n cwestiynu natur iaith, ein gallu i gyfathrebu ynghyd â’n perthynas ni’r Cymry â’n hiaith, a pherthynas y Gymraeg ag ieithoedd eraill.

Ian Rowlands
Mwy
Protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith, Pont Trefechan, 1963
Ymgyrchu

Nid fi oedd y cynta i eistedd ar yr hewl

Ddechrau Chwefror eleni, roeddwn i gydag eraill o’m hen ffrindie a chydnabod, yn cael fy anrhydeddu gan Gymdeithas yr Iaith am fy rhan yn y brotest gynta honno ar Bont Trefechan 60 mlynedd yn ôl.

Roedd hi’n fraint anhygoel i gael derbyn eu gwerthfawrogiad. Ond teimlwn yn annheilwng iawn. Oni fu degau ar streiciau llwgu ac mewn carchar wedi hynny i sicrhau bod ein hiaith yn cael statws ar ohebiaeth swyddogol, ar arwyddion ffyrdd, a bod inni Sianel Gymraeg? Ei bod hi’n hyfyw yn ein bywydau? Pethau y mae ein plant a’n hwyrion yn eu cymryd yn ganiataol?

Roedden nhw i gyd yn ddewrach na fi. Wnes i ddim ond dilyn fy newydd-ddyweddi gwalltgoch a’i fflam o gariad at ei wlad a’i iaith, gydag eraill o’r un anian, i herio olwynion traffig prysur yr unig fynedfa i Aberystwyth ar bnawn rhewllyd o Chwefror.

Megan Tudur
Mwy
Nicola Sturgeon yn datgan ei bwriad i ymddeol fel arweinydd yr SNP ac fel Prif Weinidog Yr Alban
Darllen am ddim

Newyddion da i Blaid Cymru?

Mae’r sbloets o sylw sydd wedi dilyn cyhoeddiad annisgwyl Nicola Sturgeon ym mis Chwefror ei bod hi am ildio ei lle fel Prif Weinidog yr Alban wedi tanlinellu unwaith yn rhagor y gagendor sydd wedi agor rhwng pleidiau cenedlaethol yr Alban a Chymru ers datganoli. Ond a oes pethau gwell ar y gorwel i Blaid Cymru?

Adeg yr etholiadau cyntaf i’r seneddau datganoledig, yn 1999, fe welwyd yr SNP a Phlaid Cymru, dwy chwaer-blaid, yn sicrhau canlyniadau syndod o debyg. Yn wir, roedd canran Plaid Cymru o’r bleidlais ranbarthol yng Nghymru (30.5%) ychydig yn uwch na chanran yr SNP o’r bleidlais ranbarthol yn yr Alban (27.3%), gyda Chymru, ac ymchwydd rhyfeddol cenedlaetholdeb Cymreig, yn darparu stori fwya’r dydd.

Ond er nad oedd modd gwybod hynny ar y pryd, gwyddom bellach mai penllanw oedd etholiad 1999 i’r Blaid. Yn yr etholiad dilynol (yn 2003) gostyngodd ei chefnogaeth yn ôl i tuag 20% o’r etholwyr, a dyna’n fras y ganran sydd wedi pleidleisio drosti ym mhob un o’r pedwar etholiad ar gyfer ein deddfwrfa genedlaethol a gynhaliwyd ers hynny.

Nid yw hyn yn golygu bod Plaid Cymru’n amherthnasol, wrth gwrs. Mae’r system bleidleisio rannol-gyfrannol a ddefnyddir mewn etholiadau datganoledig yn cynnig cyfleoedd iddi gael dylanwad, ac fe ellid dadlau ei bod wedi gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd hynny. Serch hynny, Plaid Cymru yw’r drydedd blaid yn y Senedd ac mae breuddwyd 1999 o ddiorseddu’r Blaid Lafur Cymreig wedi hen chwalu.

Afraid dweud bod gwleidyddiaeth yr Alban wedi dilyn trywydd go wahanol yn y cyfamser. Do, fe syrthiodd yr SNP yn ôl ryw ychydig yn 2003. Hwn oedd etholiad y Baghdad bounce – etholiad a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod byr iawn hwnnw pan oedd modd i bobl a ddylai wybod yn well eu darbwyllo eu hunain y gallai fod rhyw fath o rinwedd yn perthyn i’r penderfyniad i ymosod ar Irac. Ond ers hynny mae’r SNP wedi cymryd camau breision yn ei blaen.

Richard Wyn Jones
Adeiladau wedi eu dinistrio gan ddaeargryn Twrci
Materion y mis

Esgeulustod a llygredd yn dwysáu trychineb naturiol

Ganrif ers sefydlu’r Twrci presennol, y daeargrynfeydd yw ‘trychineb y ganrif’, yn ôl yr arlywydd. Mae’n gyfnod galaru a gweddïo wedi arswyd dau ddaeargryn ar 6 Chwefror. Gŵyr Recep Tayyip Erdogan fod ei ddyfodol yntau yn y fantol hefyd.

Erbyn mis Mawrth bydd miloedd yn rhagor o gyrff wedi eu canfod yn ne Twrci a gogledd Syria. A bydd mwy eto o sôn am angladdau answyddogol sy’n golygu claddedigaethau heb eu cofrestru. Efallai na chawn fyth wybod faint yn union sydd wedi marw.

Erbyn hyn mae dirgryniad gwleidyddol ar y gorwel. Ar ôl rheoli Twrci am 21 mlynedd bydd Erdogan, ganol Mai, neu cyn diwedd Mehefin, yn ymladd etholiad seneddol ac arlywyddol ar ran plaid AKP. Fo oedd prif sylfaenydd plaid ‘Cyfiawnder a Datblygu’ yn 2001. Bu’n swltan pwerus a dylanwadol yn y wlad ers cenhedlaeth.

Iolo ap Dafydd
Mwy
Nicola Sturgeon yn ymddiswyddo a thudalennau blaen ambell bapur newydd y diwrnod canlynol
Darllen am ddim

Gwleidydd mwyaf dylanwadol datganoli

Roedd yn hanner tymor a’r mwyafrif o newyddiadurwyr gwleidyddol Llundain a Chaeredin ar eu gwyliau. Ond ar fore Mercher 15 Chwefror fe gawson nhw eu galw yn ôl at eu gwaith ar fyrder. Roedd Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, wedi galw cynhadledd frys i’r wasg, nid yn St Andrew’s House, pencadlys y llywodraeth fel sy’n arferol, ond yn Bute House, ei chartref swyddogol. Yn yr awr fer rhwng yr alwad a’r gynhadledd ei hun dyfalwyd – yn gywir – bod Rhywbeth Mawr yn ein haros: roedd y Prif Weinidog mwyaf hirhoedlog yn hanes yr Alban ar fin ymddiswyddo.

Mae Sturgeon gyda’r olaf o Ddosbarth ’99, sef y rhai a fu’n aelodau o Senedd yr Alban o’r cychwyn cyntaf. Etholwyd hi i gychwyn fel un o aelodau rhanbarth Glasgow cyn iddi ennill sedd Glasgow Govan (Glasgow Southside erbyn hyn) yn 2007. Daeth yn Ddirprwy Arweinydd yr SNP yn 2004 ac yn Ddirprwy Brif Weinidog yn 2007. Wedi methiant refferendwm annibyniaeth 2014, ildiodd Alex Salmond ei le fel Prif Weinidog ac arweinydd y blaid. Nicola Sturgeon oedd ei olynydd. Byth ers hynny mae’r SNP wedi dod i’r brig ym mhob etholiad a gynhaliwyd ar draws yr Alban gyfan.

Gwadodd Sturgeon mai’r ‘pwysau cyfredol’ barodd iddi ymddiswyddo. Ysgogwyd ei phenderfyniad yn hytrach gan y sylweddoliad bod ei phen a’i chalon yn dweud wrthi mai dyma’r adeg i gamu o’r neilltu. Dadleuodd hefyd mai ffolineb fyddai gofyn i’r blaid gefnogi ei strategaeth (troi’r etholiad cyffredinol nesaf yn refferendwm de facto ar annibyniaeth) os nad oedd hi’n argyhoeddedig mai hi fyddai’n parhau i fod wrth y llyw.

Beth nesaf felly? Gorchmynnodd Sturgeon y blaid i ddechrau trefnu ar unwaith etholiad i ddewis arweinydd yn ei lle. Cyhoeddir enw’r enillydd ar 27 Mawrth. Fydd Sturgeon ddim yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog hyd nes y cyhoeddir enw hwnnw neu honno. Ac fe fydd hi’n parhau i fod yn Aelod o Senedd yr Alban dan y Prif Weinidog newydd.

Will Patterson
Clawr llyfr Cymru Fydd
Llyfrau

Proffwydoliaeth y presennol pell

Adolygiad o Cymru Fydd, Wiliam Owen Roberts (O’r Pedwar Gwynt, £12.99)

Pan fydd awduron yn sgrifennu am y dyfodol, sgrifennu am heddiw y maen nhw go iawn. Ymestyn elfennau o’r presennol ymlaen i’w heitha’ a gweld be allai ddigwydd.

Mae Cymru Wiliam Owen Roberts, yn negawd ola’r 21g., yn ymddangos yn annhebygol: gwladwriaeth bwerus y Gymru Gymraeg yn gormesu ar y Welsh sydd wedi eu dal rhwng y ‘Cymrics’ a’r Pedwar Rhanbarth di-drefn sydd bellach lle’r oedd Lloegr. Ond yn nrych gwyrdroedig amser, yr un ydi’r cwestiynau anodd, y problemau moesol a’r ymrafael gwleidyddol sy’n rhan o fywyd llawer o genhedloedd heddiw.

Dylan Iorwerth
Mwy
Cartŵn o fachgen ysgol mewn cwch fach yn mesur uchder goleudy
Dei Fôn sy’n dweud

Gormod o fathemateg nid yw dda

Ar dro’r flwyddyn, a’r byd i gyd yn gwegian, y wlad yn crymu dan feichiau’r argyfwng costau byw, gwasanaethau cyhoeddus yn dadfeilio o’n cwmpas a gweithwyr yn gorfod gweithredu’n ddiwydiannol i geisio cadw’r blaidd o’r drws, fe benderfynodd y prif weinidog, Rishi Sunak, yn ei ddoethineb, wneud y cyhoeddiad pwysig y dylai mathemateg fod yn orfodol i bawb hyd 18 oed. Amserol iawn yntê, yr ateb i’r holl broblemau, rhowch fwy o syms i’r taclau i’w cadw nhw’n brysur. Ond Lloegr ydi fan’na, meddech. Ia siŵr iawn, ond rhag ofn i’r pwerau yn y Bae feddwl bod syniad Sunak yn apelio, hoffwn ofyn tri chwestiwn sylfaenol. Pam? Beth? Sut?

Pam, yn gyntaf.

Rŵan, does neb yn dadlau nad ydi mathemateg, neu’n fwy cywir, sgiliau rhifedd, yn hollol hanfodol. Ond, wrth ystyried brên-wêf Sunak, rhaid gofyn pa elfen hanfodol o’r maes sydd heb ei chyflwyno yn ystod y deuddeng mlynedd o addysg orfodol fel bod rhaid cael dwy flynedd arall i wneud hynny?

Dafydd Fôn Williams
Mwy
Mark Drakeford yn cael ei gyfweld
Cyfweliad Barn

Drakeford: dyn y dŵr coch clir

Yn eistedd dan blac ‘Prif Weinidog Cymru’, sydd ar wal ystafell Cabinet Llywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd, mae Mark Drakeford yn cael llymaid o goffi. Fel sy’n arferol, dwi’n canfod y Prif Weinidog mewn hwyliau hamddenol, er ein bod ni’n cwrdd yn ystod wythnos gythryblus i ddatganoli. Ddyddiau yn unig ynghynt roedd llywodraeth Rishi Sunak wedi defnyddio feto yn erbyn Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd yr SNP gan roi pwysau digynsail ar setliad cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig.

‘Nawr yw’r amser i gryfhau’ – mae’n ailadrodd y gair er mwyn ei bwysleisio – ‘popeth sydd i’w wneud â datganoli,’ meddai Drakeford, bron yn syth ar ôl i ni gychwyn ein cyfweliad. O leiaf mae’r Prif Weinidog yn gyson ei ddadleuon. Mae’n dweud bod y ffraeo gwleidyddol rhwng San Steffan a Holyrood yn adlewyrchu ‘pwysigrwydd’ adroddiad Gordon Brown ar ddyfodol y Deyrnas Unedig. Mynna’n daer mai dim ond y llywodraeth Lafur yma yng Nghymru sydd wedi dangos agwedd bragmataidd tuag at ddatblygu perthynas gyfansoddiadol newydd ac aeddfed.

Theo Davies-Lewis
Mwy

Cip ar weddill rhifyn Mawrth

Sgandal Undeb Rygbi CymruHeledd Fychan
WcráinMared Gwyn a Ned Thomas
Dau ben-blwydd pwysig yn IwerddonBethan Kilfoil
Esblygiad pwerau’r SeneddDylan Hughes
Stori’r Iaith – stori anghytbwys?Elinor Wyn Reynolds
Gwahardd meddalwedd sy’n sgrifennu traethodauDeri Tomos
Fy nyffryn mewn naw panelElin Llwyd Morgan

Mwy