Thema dywyll Thema golau
Etholiad yr Ynys Las
2025 a 1938 – adleisiau ac odlau hanes
O ble y daw’r athrawon?

2025 a 1938 – adleisiau ac odlau hanes

Gŵr cyfoes yn darlithio ar lwyfan a llun hanesyddol o ŵr yn darllen neges i'r wasg Gŵr cyfoes yn darlithio ar lwyfan a llun hanesyddol o ŵr yn darllen neges i'r wasg
J.D Vance ym Munich, 2025; a Chamberlain ar ôl ymweld â Munich, 1939


Yn dilyn rhai datblygiadau brawychus yn gynharach eleni mae’n amlwg i bawb fod y byd yn hwylio tuag at ddyfroedd dyfnion. Mewn cynhadledd ym Munich ym mis Chwefror, cafwyd datganiadau profoclyd gan J.D. Vance, Dirprwy Arlywydd Unol Daleithiau America, ynghylch diffyg rhyddid mynegiant honedig yn Ewrop, a diwrnodau’n ddiweddarach gwelwyd cynrychiolwyr UDA a Rwsia yn cyfarfod i drafod dyfodol Wcráin, heb neb yn bresennol i gynrychioli’r wlad honno. I nifer, roedd hyn yn dwyn i gof ddigwyddiadau Medi 1938. Pan faentumiodd sylwebwyr megis Vaughan Roderick ein bod ni bellach ‘yn 1938’, roeddynt yn cyfeirio at y grymoedd mawr yn cyfarfod ym Munich ac yn bradychu Tsiecoslofacia.

< Yn ôl
Ehtoliad yr Ynys Las

Etholiad yr Ynys Las

Ymlaen >
Dau ŵr yn croesi pont ac yn cerdded at y camera

O ble y daw’r athrawon?