Thema dywyll Thema golau
Cip ar weddill rhifyn Mawrth
Ar fôr a thir, mewn gwlad a thref, coronwch ef yn ben
Y coronafirws: i ble nesaf?

Ar fôr a thir, mewn gwlad a thref, coronwch ef yn ben

Dyma fi’n ôl at f’emynau – does yna un addas at bob achlysur? Geiriau Ieuan Glan Geirionydd yn dod i fy mhen oherwydd bod ‘corona’ a phob ffurf arall o’r ferf ar flaen meddwl pob un wan jac ohonom ni ar hyn o bryd – ar fôr a thir, mewn gwlad a thref yn wir. Inni gael mymryn o gefndir sylfaenol o’r ffordd, disgrifiad o siâp y feirws ydi corona, oherwydd ei fod yn grwn ar siâp coron. Mae coronafirysau wedi bod o’n cwmpas ym mhob man ers cannoedd os nad miloedd o flynyddoedd, mae’n debyg. Math o goronafirws sy’n achosi annwyd cyffredin, ond mae’r straen hwn yn newydd, sy’n egluro’r term ‘Novel Coronavirus’. Y coronafirws newydd yma sy’n achosi salwch Covid-19 (Coronavirus Disease 2019, term sydd wedi ei fathu’n ddiweddar gan Sefydliad Iechyd y Byd gan mai yn 2019 y daeth y straen hwn o’r firws i’r amlwg). Dri mis yn ôl, pwy allsai fod wedi rhagweld y byddai’r fath salwch yn ffrwydro i’n hymwybyddiaeth ac yn cael y fath effaith ar bob agwedd o fywyd ym mhob cornel o’r byd, bron? Doedd pynciau trafod eraill yn ymddangos mor ‘hollbwysig’ nes i fygythiad eang i iechyd yr hil ddynol ymddangos mor sydyn? Pam y bu imi benderfynu mai byd gofal iechyd oedd y byd i mi yn y lle cynta? Mae’r ateb hwnnw’n dra amlwg erbyn hyn – heb iechyd, heb ddim. Gyda hyn o gefndir, mi edrycha’i ymlaen i gael rhannu rhai pytiau ‘coronog’ o reng flaen y gwasanaeth iechyd dros yr wythnosau nesa. Mae Dr Catrin Elis Williams yn feddyg teulu ym Meddygfa Bodnant, Bangor.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cip ar weddill rhifyn Mawrth

Ymlaen >

Y coronafirws: i ble nesaf?