Thema dywyll Thema golau

Creu gofod newydd i’r awen lifo

Tybed ai dyma’r tro cyntaf i’m cenhedlaeth i lawn sylweddoli nad ydym yn anorchfygol? Hyd yn oed yn ein cornel fach ddiogel ni o’r byd, mae corwynt wedi glanio sydd yn bygwth chwythu’r gorchudd yn glir oddi ar y gred 'na all pethau fel hyn ddim digwydd i ni'. Wrth gerdded o gwmpas Tesco rai dyddiau nôl, mae’n wir bod yno brysurdeb, ond rhyw brysurdeb mud-syfrdan oedd o. Wynebau syn yn bradychu’r sioc o weld nad oedd yr un lemwn bach, ac yn sicr yr un botel lefrith, i’w chael ar y silffoedd. Mae’n bywydau saff a chyfforddus wedi eu sigo dros nos, ac fel roedd y wynebau syfrdan yn Tesco yn ei ddatgelu, dydyn ni ddim wedi ein paratoi i ddelio â hynny. Mae ofn yn emosiwn naturiol a phwysig sydd yn ein deffro i weithredu, a heb os, mae angen i ni i gyd weithredu’n gyfrifol i gyfyngu effaith y firws ‘ma ar ein cymunedau. A chyda’r mesurau newydd nawr yn eu lle i gyfyngu’n llym ar ein symudiadau, does ganddon ni ddim dewis bellach ond cydymffurfio. Nawr mae galw arnom i encilio am gyfnod, a thrwy wneud hynny, ymollwng i rythm bywyd sydd yn gyfan gwbl groes i’r hyn yr ydym wedi ei fagu ar ei gyfer. Ac yna cawn weld. Beth sy’n digwydd pan mae’r hil ddynol yn camu nôl a gwynt ein gweithgaredd di-drugaredd yn gostegu? Tybed, wrth i ni gael ein gorfodi i arafu a thawelu, oes yna gyfle yma i ni ddechrau gwrando’n astud ar y neges mae’r byd yn ei roi i ni? Efallai i chi weld lluniau trawiadol o elyrch yn dychwelyd i gamlesi Fenis yn gwneud y rownds ar y we dros y dyddiau diwethaf? Wel, mae’n troi allan mai fake news oedd hynny ac mai llun o gamlas yn ninas Burano oedd o, lle nad yw gweld elyrch ar y dŵr yn anarferol o gwbl. Ond er hynny, credaf ei fod yn ddelwedd sydd wedi cydio yn nychymyg pobl gan iddo roi rhimyn o obaith i ddynoliaeth am botensial sgil effaith yr argyfwng iechyd yma ar les ein byd. Os edrychwn ni ar ystadegau llygredd cyn ac ar ôl dyfodiad y firws, gwelwn fod lefelau CO2 yn yr amgylchedd wedi gostwng cryn dipyn dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf. Yn yr un modd, mae cyfle yma i ni gwestiynu ein systemau llywodraethol a masnachol, gyda’r angen presennol am gydweithio, rhannu a gofalu am ein gilydd er mwyn trechu’r firws yn rhoi proc i gydwybod nifer o gyfalafwyr brwd. Ond wrth gwrs, pan ddaw’r argyfwng hwn i ben, gallai cyfalafiaeth ein hamsugno nôl i’w afael tynn gan achosi i’r lefelau CO2 godi yr un mor gyflym ag y gostyngon nhw - os na newidiwn ni ein ffyrdd. Wrth astudio yoga, rydym yn dysgu am shakti, sef y creadigrwydd cynhenid sydd wrth wraidd popeth byw. Yn nhraddodiad Cymru, onid ein gair ni am hyn yw awen? Mae byw gyda bardd wedi fy nysgu fod cysylltiad creiddiol rhwng awen a byd natur - yn yr awyr iach ar daith gerdded dawel mae’r awen yn dod i’r gŵr. Gyda chyfle dros yr wythnosau nesaf i ni arafu a byw fwy yn ôl rhythmau byd natur, fy ngwir obaith yw y bydd ein tawelwch cymdeithasol yn creu gofod newydd i’r awen lifo - ac yn ei sgil, yr ysbrydoliaeth i greu ffordd newydd, mwy cydradd ac yn bwysicaf oll, cynaliadwy, o fyw gyda’n gilydd ar y ddaear. Mae Laura Karadog yn athrawes Yoga. Hi a luniodd ap cwtsh ( apcwtsh.cymru) ar y cyd gyda Menter Abertawe ac mae'n un o gyfarwyddwyr Barn.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cip ar weddill rhifyn Ebrill

Ymlaen >

Coronafirws: Gwireddu Darogan Gwyddonwyr