Thema dywyll Thema golau
Creu gofod newydd i’r awen lifo
Coronafirws: Gwireddu Darogan Gwyddonwyr
Dyddiau Caethiwed

Coronafirws: Gwireddu Darogan Gwyddonwyr

Gair bach o gyflwyniad cyn i mi ddechrau. Arwyn Tomos Jones sydd yma, Athro ym maes Bywydeg y Gell a Throsglwyddo Cyffuriau yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd. Cyn i chi feddwl fy mod i’n rhannu cyffuriau o gwmpas y lle, trosglwyddo cyffuriau/moddion i mewn i gelloedd sydd yn cael ei ddisgrifio yma. Dyma yw'r maes ymchwil yn fy labordy i yn Adeilad Redwood, Prifysgol Caerdydd. Mae gen i hefyd ddiddordeb mewn cyffuriau sydd yn atal firysau i gael mynediad i’n celloedd ni. Dyna gyda llaw y mae'n rhaid i COVID19 ei wneud i ddechrau cylch bywyd newydd i greu llawer mwy o firysau, gan achosi afiechyd yn y person sydd wedyn yn gallu trosglwyddo firysau newydd i berson arall. Bydd mwy am hyn yn y man a’r her i mi yn y blog hwn dros y cyfnod nesaf fydd i gadw i fyny â’r holl ymchwil sydd yn cael ei wneud mewn labordai ar draws y byd rŵan i geisio trechu COVID19. Drwy wneud hyn dwi’n gobeithio rhoi crynodeb i chi o’r hyn fydda i'n ei ddarganfod. Ar hyn o bryd, i gael sylfaen, dwi’n pori dros erthygl gan Jeffrey Khan a Kenneth McIntosh yn The Pediatric Infectious Disease Journal (2005) o dan y teitl 'History and Recent Advances in Coronavirus Discovery (1). Mae’n hynod o ddifyr ac yn rhoi’r wybodaeth i ni am yr enw a roddwyd i’r teulu yma o firysau yn 1967/8, a’r gair corona yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio morffoleg y firws o dan feicrosgob electron. Siâp crwn gyda phigau yn sticio allan o’r wyneb fel cethrau coron (2). Daw'n amlwg iawn wrth ddarllen yr erthygl fod firysau corona, cyn ymddangosiad SARS, yn adnabyddus fel organebau oedd yn fwy tebygol o heintio plant yn hytrach nag oedolion. Tebyg yw COVID19 i SARS a MERS a ddilynodd SARS yn 2007, gan eu bod yn bennaf yn effeithio oedolion a bydd yn rhaid i ni aros i ddarganfod pam. Trafoda’r erthygl darddiad SARS a’r bys yn cael ei bwyntio at anifail, sef yr Himalayan Palm Civet sydd yn edrych fel croesiad rhwng ci a chath ac yn cael ei hela am ei ffwr. Y gred yw bod firws y civet wedi gallu neidio o rywogaeth i rywogaeth gan heintio bodau dynol drwy broses a elwir yn zoonosis. Yn ôl y dystiolaeth enetig, y tramgwyddwr yn achos COVID19 yw ystlumod; gwyddoniaeth ac amser a ddengys a yw hyn yn wir. Ar ddiwedd crynodeb yr erthygl roedd Khan a McIntosh yn darogan y byddai rhywogaethau newydd o firysau corona yn cael eu darganfod yn y dyfodol. Roedd y darogan yn gywir, a heddiw rydym yn wynebu un sydd wedi rhoi’r byd ar stop. (1) https://journals.lww.com/pidj/Fulltext/2005/11001/History_and_Recent_Advances_inCoronavirus.12.aspx (2) https://en.wikipedia.org/wiki/File:Coronaviruses_004_lores.jpg Yn wreiddiol o Ddyffryn Conwy, mae Arwyn Tomos Jones yn Athro yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Creu gofod newydd i’r awen lifo

Ymlaen >

Dyddiau Caethiwed