Thema dywyll Thema golau

Profi’r Profion

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf cafodd cyngor syml Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd, Tedros Adhanom Ghebreyesus, ei ailadrodd yn yr un modd â’r geiriau eu hunain: ‘Test,Test Test’. Ei bryder ar 16 Mawrth oedd na wnaed digon o brofion ar unigolion a gafodd eu heffeithio gan y firws, nac ar y rhai a oedd bryd hynny’n iach. Y gred oedd bod profi’n rhan bwysig iawn o asgwrn cefn yr ymateb byd-eang i’r argyfwng. Y diwrnod hwnnw cafodd 1,400 o bobl yn y DU eu profi’n bositif i Covid-19. Heddiw (5 Ebrill 2020) mae’r nifer yn nes at 43,000. Rhwng 16 Mawrth a heddiw bu profi’n destun llosg, yn enwedig felly’r wythnos ddiwethaf. Roedd pwysau mawr ar y llywodraeth i fwrw iddi i brofi mwy o bobl, a chafwyd datganiad gan y Gweinidog Iechyd Matt Hancock ddydd Gwener 3 Ebrill y byddai yna, cyn diwedd y mis, 100,000 o brofion yn cael eu gwneud bob dydd yn y DU. Mae hwn yn gynllun hynod uchelgeisiol pum piler, yn byddino adnoddau’r llywodraeth, diwydiant, academia, y Gwasanaethau Iechyd, ac eraill. Dw i ddim yn siŵr iawn pwy yn union yw’r ‘eraill’ yma! Ond, heblaw am holi pa mor gymwys ydi’r llywodraeth i drefnu, be’n union sy’n cael ei brofi? Credwch chi fi, mae yna ddryswch yma. Clywsom am ‘antigen testing’ a’r term ‘PCR’ (Polymerase Chain Reaction), yn yr un gwynt. PCR, Adwaith Cadwyn Polymeras, yw’r prawf sy’n cael y mwyaf o sylw a defnydd hyd yn hyn. Mae’r adwaith, o’r dechrau i’r canlyniad (a gymer tua 30 munud i’w gwblhau) yn chwilio am fater genetig yn y sampl (swab) sy’n unigryw i Covid-19. Mae gan fy labordy i beiriant PCR, a’r gallu i redeg yr adwaith dan sylw, ond ar raddfa fechan iawn o’i gymharu â’r angen presennol. Felly hefyd gannoedd o labordai mewn prifysgolion a diwydiannau ledled Cymru. Ond, pwysig nodi nad prawf antigen yw hwn. Yn y byd imiwnolegol, sylwedd estron yw antigen sy’n cymell ymateb imiwnyddol yn y corff, gan gynhyrchu gwrthgyrff yn enwedig. Prawf genetig ydyw. Ar hyn o bryd nid oes prawf antigen effeithiol mewn bodolaeth, hynny yw un wedi ei achredu. Buasai’r profion yma’n defnyddio proses lle mae gwrthgyrff yn hylif y prawf yn bachu cydran o’r firws, os yw’n bresennol, a’r bachu’n cael ei drawsnewid i signal darllenadwy. Yma, y firws yw’r antigen. Mae’r ddau brawf, y PCR a’r un antigen, yn rhoi gwybodaeth i ni am statws presennol yr unigolyn, positif neu negatif, ond dim ond un sy’n brawf antigen. Mae Dr Colin Butter yn cytuno efo fi yma (gw. isod 1), a does gen i ddim syniad o ble y daeth y dryswch. Prawf antigen arall yw hwnnw sy’n rhoi gwybodaeth i ni am hanes perthynas ein system imiwnedd â’r firws. Yma mae modd darganfod gwrthgyrff mewn sampl bychan iawn o waed. Gwrthgyrff a gafodd eu creu gan y system imiwnedd, ar ôl i berson gael ei heintio rai wythnosau ynghynt, sy’n cael eu cyrchu yma. Heddiw, wedi ymddangos yn sydyn fel chwyn mewn gardd, mae dwsinau o gitiau profi ar y farchnad. Rydw i’n derbyn hysbysebion lu drwy e-bost, a dyma i chi un (gw. 2 isod): canlyniad mewn 10 munud, a phob un yn honni ei fod yn fanwl gywir a phenodol i Covid-19. Ond cyn neidio i archebu miliynau o’r citiau hyn mae angen profion pellach i wneud yn siŵr nad oes berygl y gallant roi canlyniadau anghywir – (a) Positif Ffug: canlyniad positif i berson sydd heb ei heintio, neu (b) Negyddol Ffug: canlyniad negatif i un sydd wedi ei heintio. Gan ddefnyddio’r prawf yma y gobaith yw darganfod faint ohonom (efallai hanner y boblogaeth yn barod!) sydd wedi cael ein heintio yn y gorffennol gan Covid-19, ond heb yr un symptom wedi’i amlygu ei hun, neu’n arddangos symptomau ysgafn iawn. A fydd angen profi pob un unigolyn i gael gwerth allan o’r prawf yma? Na fydd, ond bydd angen data am filiynau ohonom. Tipyn o her. (1) https://www.sciencemediacentre.org/expert-comment-on-different-types-of-testing-for-covid-19/ (2) https://www.biopanda.co.uk/php/products/rapid/infectious_diseases/covid19.php Yn wreiddiol o Ddyffryn Conwy, mae Arwyn Tomos Jones yn Athro yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Fel ŵyn i’r lladdfa

Ymlaen >

Treialu Triniaethau: Cymru ar y blaen