Thema dywyll Thema golau

Braint a Chyfrifoldeb

Soniais yn fy mlog diwethaf am botensial y cyfnod yma o ymbellhau cymdeithasol i greu gofod newydd i’r awen lifo, ac yn ei sgil yr ysbrydoliaeth i greu ffordd newydd, fwy cydradd a chynaliadwy o fyw ar y ddaear. Yr wythnos hon, alla i ddim peidio ag adlewyrchu ar pa mor arbennig o freintiedig yw’r safbwynt hwnnw. Wrth i ni deimlo’r pandemic `ma’n agosáu’n ddyddiol at ein stepan drws ein hunain, daw’r ystadegau yn fwy byw i ni bob dydd wrth glywed am feddygon, nyrsys, rhieni ac yn wir plant ifanc yn marw o Covid-19. Efallai fod y firws bellach wedi glanio ymysg eich teulu a’ch cylch ffrindiau chi, ac os felly, mae’n wir ddrwg gen i glywed hynny a dymunaf wellhad buan i unrhyw un sy’n wael. Mae’r straeon dirdynnol a glywn yn ddyddiol ar y newyddion erbyn hyn yn ein hatgoffa bod y firws hwn yn gallu effeithio ar bawb, dim ots beth yw eu hoed na'u rhywedd, na 'chwaith faint o gyfoeth, statws ac enwogrwydd sydd ganddynt. Ar y llaw arall, mae hefyd yr un mor wir i ddweud nad yw pawb yn debygol o gael eu heffeithio i’r un graddau gan yr argyfwng hwn, yn y presennol nac yn y dyfodol. Fel mewn unrhyw argyfwng, mae’r coronafirws yn debygol o effeithio waethaf ar y bobl fwyaf tlawd a bregus yn ein cymunedau. Nid yn unig oherwydd effeithiau iechyd y firws ei hun, ond hefyd oherwydd y chwyldro yn y ffordd yr ydym yn byw, a’r sgileffeithiau economaidd a chymdeithasol a ddaw o hynny. Mae’n fraint gweld y cyfnod yma fel encil - cael tŷ a tho uwch fy mhen, a gardd i’r plant chwarae ynddi. Ond beth am deuluoedd mawr mewn fflatiau uchel yn ein dinasoedd? Ac i’r gwrthwyneb, beth am bobl sydd yn byw ar eu pennau eu hunain ac sydd efallai yn mynd ddyddiau heb weld yr un adyn byw ar hyn o bryd? Os edrychwn ni tu hwnt i ffiniau’r wlad hon a thuag at wledydd tlotaf ein byd, beth am y bron i 3 biliwn o bobl sydd yn byw heb fynediad at gyflenwad dŵr glan - sut maen nhw i fod i olchi eu dwylo’n rheolaidd pan fo’r firws yn cyrraedd eu cymunedau hwy? A beth am y miliynau sydd heb fynediad at ofal meddygol o gwbl? Ydi, mae’r sefyllfa o ran anadlyddion (ventilators) a diffyg offer diogelwch personol (PPE) o fewn y GIC yn erchyll. Ac mae’r wleidyddiaeth a’r polisïau llymder dros y blynyddoedd diwethaf sydd wedi torri ar allu’r gwasanaeth iechyd i ddarparu gofal i’w staff a’u cleifion yn yr argyfwng hwn yn staen ar ein hanes. Mae’n iawn i ni deimlo dicter am hynny, ac ar yr un pryd, agor ein calonnau i ystyried pobl Mali ble mae 3 anadlydd i filiwn o bobl, neu Zambia ble mae un doctor i bob 10,000 o bobl (ystadegau Oxfam GB) . A beth am y miliynau ledled y byd sydd yn byw mewn gwersylloedd ffoaduriaid gorlawn sy’n gwneud y cysyniad o ymbellhau cymdeithasol yn ddim mwy na ffantasi? O ystyried hynny oll, mae cael y gofod a’r tawelwch i allu dychmygu dyfodol gwell a allai dyfu o wreichion lludw y cyfnod hwn yn fraint. Ond mae hefyd yn gyfrifoldeb. Ar ôl i’r cyfnod yma ddod i ben, rydym oll yn ymwybodol o’r twll ariannol enfawr fydd yn economi’r DU, heb sôn am y byd, ac os nad yw’r drefn lywodraethol yn newid mewn ffordd go chwyldroadol, gwyddom hefyd mai’r cymunedau tlotaf a mwyaf bregus fydd yn cael eu cosbi gan bolisïau cyni llywodraeth Dorïaidd, ac ar lwyfan byd-eang bydd y gwledydd a’r cymunedau tlotaf yn debygol o dalu pris uwch na neb. Ond dyw dychwelyd i’r status quo ddim yn anorfod. Ac felly, i’r rhai ohonom sydd â’r gofod breintiedig i allu dychmygu cymdeithas a dyfodol mwy cydradd, gwirioneddol deg a chynaliadwy i’n byd, mae dyletswydd arnom rwan i godi llais a brwydro dros hynny. Ar adegau heriol fel hyn, gwelwn rym yr ysbryd dynol yn codi ac yn galw am undod wrth i bobl deimlo ein bod i gyd yn dioddef gyda’n gilydd. Mae wedi bod yn brofiad twymgalon sefyll ar stepan y drws ym Mhontyberem a chyd-gymeradwyo staff y gwasanaeth iechyd gyda’n cymdogion. Ond yn yr holl sân am undod a 'Rydan ni gyd yn hyn efo’n gilydd', gawn ni beidio ag anghofio am y bobl dlotaf a mwyaf bregus yn ein byd sydd heb gyfle o gwbl i warchod eu hunain yn erbyn Covid-19 a’i adlais economaidd. Maen nhw hefyd yn rhan o’r 'ni'. Gorffennaf gyda geiriau’r nofelydd Arundhati Roy yn y Financial Times yn ddiweddar: 'Historically, pandemics have forced humans to break with the past and imagine their world anew. This one is no different. It is a portal, a gateway between one world and the next. We can choose to walk through it, dragging the carcasses of our prejudice and hatred, our avarice, our data banks and dead ideas, our dead rivers and smoky skies behind us. Or we can walk through lightly, with little luggage, ready to imagine another world. And ready to fight for it.' Dw i’n credu ein bod ni i gyd yn sylweddoli yn mêr ein hesgyrn nad yw dychwelyd i’r status quo yn opsiwn, ond i sicrhau na fydd hynny’n digwydd, mae cryn frwydr o’n blaenau. Troednodiadau: Oxfam GB - https://oxfamapps.org/media/press_release/160bn-needed-to-prevent-millions-of-coronavirus-deaths-in-poor-countries/ (dyddiad darllen 6/4/20) Financial Times - https://www.ft.com/content/10d8f5e8-74eb-11ea-95fe-fcd274e920ca Mae Laura Karadog yn athrawes Yoga. Hi a luniodd ap cwtsh ( apcwtsh.cymru) ar y cyd gyda Menter Abertawe ac mae'n un o gyfarwyddwyr Barn.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Treialu Triniaethau: Cymru ar y blaen

Ymlaen >

Covid-19: Hen feddyginiaethau, ac un Cymreig!