Thema dywyll Thema golau
Braint a Chyfrifoldeb
Covid-19: Hen feddyginiaethau, ac un Cymreig!
Y llythyren R

Covid-19: Hen feddyginiaethau, ac un Cymreig!

Pa mor debyg yw Covid-19 i H1N1 (Swine Flu), sef yr isdeip enwog hwnnw o’r ffliw a amlygodd ei hun ddegawd yn ôl, a chanrif cyn hynny, ond mewn straen gwahanol, yn 1918? Mae’r ddau’n effeithio ar yr ysgyfaint ac wedi eu dosbarthu gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) fel firysau sydd wedi achosi pandemig. Yn 2009–2010 bu farw o ddeutu 18,000 ledled y byd ar ôl cael eu heintio, ac erbyn heddiw mae Covid-19 wedi lladd 129,045. Collodd rhwng 40 a 100 miliwn eu bywydau yn ystod 1918-1919, ffigwr amhendant, ond roedd hyn yn sicr yn fwy na’r marwolaethau a fu ar faes y gad yn y Rhyfel Mawr. Mae pandemig yn derm sy’n dynodi’r ffordd y mae firws yn lledaenu ar draws y byd, ac i ba raddau y gwna hynny, ond heb gydnabod ei lymder. Un a barodd flwyddyn oedd yr H1N1 diweddar, pandemig a ddechreuodd ym Mehefin 2009 a dod i ben yn Awst 2010, gyda’r WHO yn datgan hynny’n swyddogol. Cofiaf drafod, ar radio a theledu, yr angen am y cyffur enwog hwnnw Tamiflu sy’n atal y firws rhag dianc o un gell i’r llall ac yn rhoi’r brêcs ar ei allu i ledaenu drwy’r corff. Mae Covid-19 yn organeb wahanol, heb darged i Tamiflu. Mae ymchwil ddiweddar hefyd yn awgrymu’n gryf nad oedd Tamiflu yn effeithiol iawn ac yn wir mai gwastraff arian oedd gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd yn pentyrru stoc ohono. Dim gwell na paracetamol meddai rhai, ac mae ymchwil ddiweddar yn adrodd bod y rhan fwyaf o straenau o’r ffliw bellach yn wrthiannol i’w effaith. Mae ambell un hyd yn oed yn honni y gall ei sgileffeithiau fod yn rhai difrifol (gw. 1 isod). Ond yn achos Covid-19, gydag angen dybryd am gyffur effeithiol, beth yw’r rhagolygon? Yn rhifyn Mehefin 2019 Journal of Virology mae crynodeb o gyffuriau a ddangosodd actifedd yn erbyn firysau Corona, gan gofio nad oedd Covid-19 yn y newyddion bryd hynny. Yn y papur mae’r awduron yn ein hatgoffa nad oes dim cyffuriau ar gael heddiw i’w trin, a hynny er gwaethaf y bygythiad difrifol i iechyd cyhoeddus a gafwyd gan SARS (2002–4) a MERS (2012): ‘mae angen dirfawr am atalyddion y sbectrwm eang o CoVs sy’n dod i’r amlwg ac yn endemig’. Sylwch ar y proffwydo – ‘sy’n dod i’r amlwg’. Mae trafodaeth ddifyr yn yr adolygiad am effeithiau (gwan i addawol) 36 cyffur yn cynnwys chloroquine. Ia, y cyfansoddyn hwnnw sydd, hyd heddiw, yn cael ei ychwanegu at ddŵr tonig, yn wreiddiol i arbed rhag malaria. Yn ystod argyfwng Covid-19 (pan oedd hwnnw’n broblem i bobl eraill) bu Donald Trump ei hun yn mawrygu rhinweddau meddyginiaethol chloroquine a’i berthynas cemegol hydroxychloroquine – ‘one of the biggest game-changers in the history of medicine’. Go brin. Doedd gan chloroquine erioed effeithiau cryf iawn ar gylchau bywyd firysau’r teulu Corona. A oes cyffuriau eraill ar gael? Oes, ond amser a ddengys a oes gobaith iddynt yn yr amser prin sydd gennym. Sôn yr ydym am gyffuriau sy’n cael eu hailbwrpasu i drin Covid-19 - rhai fel niclosamide sydd, i ni yn y maes, yn gyffur poblogaidd i drin afiechydon a achosir gan barasitiaid fel y Llyngyren Rhuban (tapeworm). Un arall yw Teicoplanin, gwrthfiotig enwog sy’n cael ei ysgrifennu ar bresgripsiynau yn aml ac sydd, yn ogystal, yn meddu ar actifedd yn erbyn firws Ebola. Dyma gyfle i ladd dau dderyn efo un garreg, gwrthfiotig sydd hefyd yn ymyrryd â chylch bywyd firysau. Mae’n ddefnyddiol yma gan fod nifer o’r rhai sy’n marw o Covid-19 yn datblygu niwmonia eilradd yn sgil effeithiau bacteria. Mae rhai o’r cyffuriau yma’n hen fel pechod felly beth am gyffuriau newydd? Er yr holl ymchwil bresennol gall gymryd blynyddoedd lawer i ddatblygu un effeithiol. Mae’n siwrnai hir o’r labordy i wely’r claf, a chyn hynny bydd yn rhaid iddo basio pedwar cymal y treialon clinigol. Llawer cynt a rhatach yw ailbwrpasu cyffur sydd eisoes wedi cyflawni hyn. Rwyf am grybwyll un cyffur arall cyn i mi orffen, ac am reswm penodol Gymreig. Remdesivir yw hwnnw (gw. 2 isod), un a gafodd ei ddatblygu yn sgil argyfwng Ebola ac sydd hefyd wedi dangos actifedd yn erbyn firws Marburg. Mae’r cyffur hwn yn atal gallu’r firws i herwgipio mecanwaith ein celloedd i greu firysau newydd. Mae ei effeithiolrwydd yn dibynnu ar lwyfan cemegol a ddarganfuwyd yma yn Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd gan y diweddar Athro Chris Mcguigan, cawr o wyddonydd a fu farw’n ddyn gweddol ifanc yn 2016 (gw. 3 isod). Hei lwc y bydd y cyffur yma, neu ei debyg, yn ychwanegiad i gymynrodd nodedig Chris. 1. Jefferson T. et al (2014) Neuraminidase inhibitors for preventing and treating influenza in adults and children Cochrane Database Syst Rev (4): CD008965. 2. Edwards, E. (2020) Experimental drug remdesivir shows potential for coronavirus, early research suggests 3. Chester, J. (2016) A tribute to Chris Mcguigan. Yn wreiddiol o Ddyffryn Conwy, mae Arwyn Tomos Jones yn Athro yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Braint a Chyfrifoldeb

Ymlaen >

Y llythyren R