Dros chwe chanrif yn ôl, mi ganodd Dafydd ap Gwilym gywydd y rhoddwyd iddo wedyn y teitl ‘Mis Mai a Mis Ionawr’ gan arbenigwyr. Fodd bynnag, ers rhyw ddau ddegawd, ailenwyd y cywydd yn ‘Mis Mai a Mis Tachwedd’. Cymharu perffeithrwydd y gwanwyn ag anghwrteisi’r ‘mis du’ wna’r archgywyddwr smala, gan golbio mis Tachwedd â rhestr o feiau, yn eu mysg, peri glaw a dyddiau byrion, gwynt i ddinoethi’r coed, llesgedd a gwendid dychrynllyd, llifogydd, llifeiriant brown mewn nentydd, heb sôn am wahardd pawb rhag caru! (Go brin y byddai neb yn dadlau â rhesymau synhwyrol yr ysgolheigion dros newid teitl y cywydd felly!) A dyna i chi’r cyhuddiad ‘mis du’, sef union enw’r mis yn Llydaweg – ‘Miz Du’, a ‘Mis Du’ yn y Gernyweg, ac ystyr digon tywyll sydd i darddiad yr enw Cymraeg ‘Tachwedd’, sef ‘lladdfa’. Cofier hefyd mai 1 Tachwedd, i’r Celtiaid, oedd Calan Gaeaf, sef dechrau tymor y tywyllwch. Och! Does ryfedd mai dyma un adeg o’r flwyddyn all godi’r felan arnom, a Thafwyl, barbeciws, fflip‑fflops a’r Garreg Las yn hen hanes.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru
