Thema dywyll Thema golau
Dafydd Owain
Adeiladu cenedl: gwaddol Percy Thomas
Mawl i’r Madiran

Adeiladu cenedl: gwaddol Percy Thomas

Y Deml Heddwch, Caerdydd. Llun: Ham / CC BY-SA 3.0

Yn gynharach eleni cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru astudiaeth gynhwysfawr gan Robert Proctor o gyfraniad allweddol Partneriaeth Percy Thomas i’r traddodiad adeiledig yng Nghymru a thu hwnt. Yma mae pensaer a ddechreuodd ei yrfa mewn adeilad a gynlluniwyd gan Thomas yn rhoi blas i ni o gynnwys y gyfrol.

Heb amheuaeth, Partneriaeth Percy Thomas oedd y practis pensaernïol mwyaf, a’r mwyaf llwyddiannus yng Nghymru erioed. Rwy’n hyderus fod darllenwyr y darn hwn, fel fi, wedi dod ar draws o leiaf un o’i adeiladau yn ystod eu hoes. Diwedd 1970 oedd y tro cyntaf yn fy achos i, a minnau ar fy ffordd i gyfweliad gyda’r Athro Dewi‑Prys Thomas yn Adeilad Bute ym Mharc Cathays, Caerdydd. Wrth i mi gyrraedd y fynedfa a cherdded rhwng y colofnau enfawr neo‑glasurol o garreg Portland, sylweddolais nad oeddwn fwy na chyw pensaer. Ac yn yr adeilad hwn, adeilad a gynlluniwyd gan y pensaer enwog Percy Thomas (1883–1969), y treuliais y naw mlynedd nesaf, yn gyntaf fel myfyriwr ac yna fel aelod o’r staff.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Dafydd Owain

Ymlaen >

Mawl i’r Madiran