Thema dywyll Thema golau

Adennill ‘gwlad y tangnefedd coll’

Teulu Marion Löffler a chlawr llyfr Amser Nadolig Teulu Marion Löffler a chlawr llyfr Amser Nadolig
TAMAID I ROI BLAS O’R GYFROL NEWYDD AMSER NADOLIG (GOL. LOWRI HAF COOKE; SEBRA, £19.99) Cwyna’r gerdd enwog gan A.E. Housman nad ydi hi’n bosib dychwelyd at ‘dangnefedd coll’ plentyndod, ac awyrgylch clyd dathliadau teuluol gynt. Ond mae ryseitiau, bwydydd ac arferion Nadoligaidd yn caniatáu i ni ail-fyw cyfnodau a llefydd annwyl y gorffennol drwy eu harogli a’u blasu. Maent yn caniatáu i mi yn bersonol deithio yn ôl i Almaen fy mhlentyndod, at hud a lledrith cyfnod yr Adfent – y pedwar dydd Sul cyn y Nadolig a ddethlir yno o hyd, er dim gymaint yn y wlad hon – ac i gyfnod pan fu gennyf fam-gu a thad-cu, a theulu cyflawn. Nid teithiau’r meddwl yn gymaint â theithiau’r teimlad ydynt, yn gysurus braf, yn goleuo amser tywyll y flwyddyn. Caf y teimlad cartrefol hwn yn gyntaf bob blwyddyn pan fo’r stollen yn ymddangos yn y siopau, gan fy atgoffa o ddechrau’r Adfent a’r paratoadau at y Nadolig.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Cerddorion WRKHOUSE, Talulah a chlawr CD Eden

Cerddoriaeth gyfoes '24: Amrywiaeth syfrdanol

Ymlaen >
Anne May a gardd Parc yr Esgob

Yr ardd ddirgel