Thema dywyll Thema golau

Ail offrwm Cwmwl Tystion – adolygiad

Tomos Williams a Cwmwl Tystion Tomos Williams a Cwmwl Tystion
Pleser bob amser yw gweld rhyddhau cynnyrch newydd o dan arweiniad Tomos Williams – cerddor sydd wedi arloesi a llenwi bylchau pwysig yn y byd jazz yng Nghymru. Gyda Cwmwl Tystion II/Riot! (a ryddheir ar label Tŷ Cerdd), unwaith eto denwyd cerddorion gwych at ei gilydd a chreu albwm cysyniadol rhyfeddol sy’n rhoi golwg newydd ar hanes ein gwlad – yn benodol y terfysgoedd, o wrthryfel Merthyr at derfysgoedd hil Caerdydd yn 1911. I agor y ‘Riot! Suite’ yma ceir llais swynol Eädyth, sydd wedi cyfrannu’n effeithiol i’r cyfanwaith gydag alawon traddodiadol Cymreig, cyn i fwrlwm jazz diwydiannol dorri ar ei thraws. Yna cawn ein cludo i Ferthyr 1831, sy’n derfysg o drac, yn alwad i’r gad. Fy hoff drac yw’r un am derfysg Tredegar 1911 pan ymosodwyd ar dai a busnesau Iddewon yn y dre, trac sy’n dechrau gyda’r emyn‑dôn Leoni, wedi ei seilio ar alaw draddodiadol Hebrëig.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
To Coch, dyfrlliw ar bapur

Lluniau i ddeffro’r dychymyg – holi Lisa Carter Grist

Ymlaen >
Emily Pemberton

Gwylio hanfodol i Gymry gwyn