Thema dywyll Thema golau

Ailystyried Caersallog

erthygl-mai-2018-1877-771 erthygl-mai-2018-1877-771
Caersallog. Dyna i chi enw oedd yn anghyfarwydd i mi cyn achos gwenwyno’r cyn-ysbïwr Rwsiaidd sergei skripal a’i ferch Yulia yn gynharach eleni, er fy mod yn weddol gyfarwydd â’r ddinas ei hun. Ond tra bo’r gair ‘dinas’ yn cyfleu tref fawr neu fetropolis, mae Caersallog – neu Salisbury (Sawzbree yn lleol) – ymhlith y dinasoedd lleiaf yng ngwledydd Prydain, a chanddi boblogaeth dipyn mwy na Bangor a thipyn llai na Chaer. Yn wir, ‘Smallsbury’ oedd llysenw’r trigolion arni, yn ôl y sôn, am nad oedd unrhyw beth o bwys byth yn digwydd yno – tan yn ddiweddar. Ers blynyddoedd, bu’r cymar yn mynd yno bob hydref, i archwilio a gwneud gwaith cynnal a chadw ar offer meddygol yn Uned Anafiadau i’r Cefn yr ysbyty a’r ardal yn gyffredinol. Ar ôl i Joel setlo yn y coleg, manteisiais innau ar y cyfle i fynd efo fo, er i mi gael fy siarsio i beidio â chrybwyll y peth ar y cyfryngau cymdeithasol rhag ofn i bobl feddwl mai jolihoet oedd y trip yn hytrach na gwaith. Bron na fyddai rhywun yn tybio ein bod ni yno ar ryw berwyl peryglus ym myd cudd-wybodaeth ryngwladol, cymaint oedd y cyfrinachedd o gylch ein hymweliad.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mai-2018-1876-770

O enau plant bychain

Ymlaen >
erthygl-mai-2018-1879-772

Martin Luther King