Thema dywyll Thema golau

Albwm gorau Endaf Emlyn?

erthygl-awst-2020-2126-1032 erthygl-awst-2020-2126-1032
Doedd ’na ddim record debyg i Dawnsionara pan ddaeth hi allan yn 1981 a does dim un wedi bod ers hynny yn fy marn i. Roedd y record, sy’n un o’r tri albwm o waith Endaf Emlyn sydd wedi’u rhyddhau’n ddigidol yn ddiweddar gan Sain, fel pe bai wedi dod o blaned arall. Dyna i chi’r teitl ei hun – cyfuniad o ddau air yn llithro oddi ar y tafod mor ddiog â’r dawnsio digyfeiriad yr oedd y gân yn ei ddisgrifio. Gair dieithr, ‘dinesig’ ar record hir a oedd yn cynnig golwg newydd trwy gyfrwng yr iaith ar y byd newydd ôl-fodern y tu hwnt i ffiniau’r Fro Gymraeg: byd o fasgynhyrchu a chyfathrebu byd-eang, geiriau benthyg ac idiomau estron, anghyfarwydd. Byd lle’r oedd y siwrna’n ôl i Lŷn yn teimlo’n llawer pellach na’r un i Efrog Newydd. Byd mor bell i ffwrdd o gefn gwlad Salem ag y gallai rhywun ei ddychmygu.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-awst-2020-2125-1031

Ofni creu cenhedlaeth goll

Ymlaen >
erthygl-awst-2020-2128-1033

Elizabeth Watkin-Jones – storïwr wrth reddf