Thema dywyll Thema golau

Allan I Chwarae

Dros yr oriau nesaf, plant yn chwarae allan oedd yn hawlio’r sgwrs. Roedd llawer yn diolch eu bod nhw’n byw mewn ardal rhy beryg o ran traffig i fedru cysidro gadael i’w plant chwarae ar y stryd (yng Nghaerdydd oeddwn i ar y pryd). Ond petai’r dewis ganddyn nhw, meddent, fydden nhw ddim yn caniatáu i’w plant fod allan ar eu pennau’u hunain, yn sicr ddim yr adeg yna o’r nos. Cafwyd moment ‘tumbleweed’ pan wnes i gynnig fy ngh’negwarth i, a chyfadda bod fy mhlant i’n chwarae allan yn ddyddiol, a’u bod nhw i’w cael yn cyfri’ ‘keepy-uppies’ yn y stryd o flaen ty ni am saith o’r gloch y nos yn bur aml.

Rhaid cyfadda hefyd eu bod nhw’n gorfod gwisgo siacedi melyn os ydyn nhw allan pan mae hi’n dechrau t’wllu (ia, wn i – mam embarasing), ond eu harbed nhw rhag y ceir ydi’r syniad, nid rhag yr herwgipwyr. Ydw i’n poeni am herwgipwyr a pidoffiliaid? Wrth gwrs ’mod i, sut fedar rhywun beidio? Ond rydw i’n poeni llawer iawn mwy am draffig, efo mwy o geir ar y lôn, sy’n fwy o faint, a’u gyrwyr ar fwy o frys, nag oeddan nhw yn y 70au pan o’n i allan ar fy meic a neb yn poeni lle ro’n i. Ar y llaw arall, mae’n ymddangos bod niferoedd y ‘bobol ddrwg’ yn ein cymdeithas wedi aros yn bur gyson dros y degawdau diwethaf.

Mae’n hysbys mai teulu a chydnabod sydd fwya’ tebygol o wneud niwed i blant, ond caiff mwy o blant eu cipio gan bobol ddiarth nag a feddyliai rhywun, o edrych ar y ffigyrau. Mewn adroddiad gan y Swyddfa Gartref yn 2004, pan gofnododd yr heddlu 930 herwgipiad dros gyfnod 2003-4 yng Nghymru a Lloegr, astudiwyd 798 o’r achosion. Roedd 56%  ohonynt (447) yn achosion o gipio gan ddieithryn. Ymgeisiadau aflwyddiannus oedd 375 ohonynt, ond llwyddwyd i gipio 72 o blant gan berson neu bersonau diarth. Does ’na fawr ddim gwybodaeth na manylion pellach am gyd-destun y 72 achos yna, gan fod heddluoedd, gwasanaethau plant ac asiantaethau eraill yn cofnodi’r math yma o droseddau mewn ffyrdd gwahanol. Ond fe ddywedwyd ym mhapur y Swyddfa Gartref ar y pryd ei bod hi’n rhesymol tybio mai cymhelliad rhywiol oedd i nifer o’r achosion, gan mai’r amgylchiadau mwyaf cyffredin oedd dieithryn gwrywaidd yn ceisio denu neu lusgo plentyn i mewn i gerbyd.

Mae cysidro’r fath beth dychrynllyd, hyd yn oed am eiliad, yn gwneud i rywun fod isho cadw’i blant yn ty am byth, yn mynd yn dew ac yn welw o flaen yr X-Box.

A dyna sy’n digwydd. Mae’r man pellaf y caiff plentyn grwydro iddo o’i gartref wedi crebachu mwy na 90% ers y 70au hirfelyn-tesog rheiny, pan oedd dillad yn frown a drysau pawb yn ’gorad. Dydi 64% o blant erioed wedi cael chwarae allan fwy nag unwaith yr wythnos, 28% ohonyn nhw erioed wedi bod am dro, 20% erioed wedi dringo coed. Mae mwy o blant yn cyrraedd unedau brys ein hysbytai wedi eu hanafu ar ôl disgyn allan o’r gwely nag ar ôl syrthio allan o goeden.

Tristach na hynny o bosib ydi’r ystadegyn yma: cred 43% o oedolion na ddylai plant gael chwarae allan heb oruchwyliaeth nes cyrraedd 14 oed.

Ond nid ni sydd piau ein plant. Eu benthyg nhw dros dro ydan ni. Ac mae’n rhaid inni adael iddyn nhw fynd allan i’r byd... gan groesi’n bysedd y bydd popeth yn iawn.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

O’r Alban: Annibyniaeth – Dwy Flynedd i Fynd

Ymlaen >

Cwrs y Byd - Cymwynas Charlie Symes