Thema dywyll Thema golau

Allez les Rouges!

erthygl-mehefin-2016-1667-524 erthygl-mehefin-2016-1667-524
... Yn grwt ifanc yng ngogledd Caerdydd sylweddolais o ’nyddiau cynnar taw math arbennig o wladgarwr oedd yn clymu sgidiau a gwisgo crys pêl-droed Cymru... Tra’n treulio hanner tymor gyda Nain a Taid yn Llanfair Caereinion mi aethom i noson lawen gyda Dafydd Iwan ac Ar Log i’r ‘Institute’. Y gwladgarwr gwadd y noson honno oedd John Mahoney. Wn i ddim hyd heddiw a fedrai’r Gymraeg, ond safai’n barchus a’i gefn yn unionsyth yng nghanol y neuadd, fel y safodd yng nghanol y cae y noson honno pan gurodd Cymru Dwrci... Trwy’r degawdau llwm a ddilynodd, cefais yr anrhydedd o weld Cymru yn colli yn rhannau mwyaf estron y byd yng nghwmni cyd-Gymry ffyddlon a theyrngar, a’n cariad tuag at y bêl gron yn ein clymu... Wrth gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Ewro 2016 yn Ffrainc rydym wedi rhoi Cymru, ein diwylliant a’r iaith Gymraeg ar lwyfan byd-eang. Mae’n fwy nag y gall unrhyw wleidydd nac ymgyrchwyr iaith ei gyflawni. Pan lawiodd yr Albanwr Joe Jordan y bêl, y noson dyngedfennol honno yn Anfield yn 1976, fe rewodd pêl-droed Cymru a’n hunanhyder fel cenedl. Collwyd cyfle i ymddangos ar lwyfan rhyngwladol Cwpan y Byd yn yr Ariannin yn 1978. Yn fuan iawn ar ôl hynny, yn refferendwm ’79 ar ddatganoli, enillodd Neil Kinnock a chriw’r bleidlais ‘Na’ o fwyafrif llethol. Tybed beth fyddai wedi digwydd pe bai’r canlyniad wedi bod yn wahanol y noson honno yn Lerpwl? Mae mwy nag un deigryn wedi’i golli dros y blynyddoedd llwm. Dagrau o lawenydd fydd yn Stade de Bordeaux ar 11 Mehefin, wrth ganu’r anthem ac wrth groesawu ein hogie NI i’r llwyfan rhyngwladol gerbron camerâu’r byd. Fedrwch chi ddim gofyn am fwy. Mae’r freuddwyd wedi ei gwireddu. Ry’n ni yna! Allez les Rouges!

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-mehefin-2016-1665-523

Tristwch ieithyddol a gwleidyddol

Ymlaen >
erthygl-mehefin-2016-1668-525

Brigau, broc môr a bywyd - Wil Rowlands a’i gynefin