Thema dywyll Thema golau

Americanwr Anferth

Mae America yn fawr! Yn anferthol, a dweud y gwir. A’r gwahaniaethau mewn diwylliant ac agweddau yn syfrdanol. Mae’r dinasoedd mawrion, er yn wahanol i’w gilydd o ran naws ac edrychiad, yn hynod debyg o ran bwrlwm a ffasiwn ac agwedd hefyd. Ond nid felly mae hi yng nghefn gwlad. Crwydrasom beth wmbredd yng nghefn gwlad America, yn enwedig yn y canol a’r de orllewin, cynefin yr hen gowboi, gynt. Neu dyma’n hytrach ei gynefin o hyd. Mae’r cowbois yn fyw ac yn iach, ac yn edrych fel tasan nhw newydd orffen gweithio ar un o ffilmiau John Ford. A’u cynefin o hyd yw’r cynefin a welais i gyntaf erioed ym mhictiwrs Eglwys Bach, Niwbwrch, ym mhumdegau’r ganrif ddiwethaf – Missouri, Kansas, Dodge City, Tombstone, Tucson …

Cefais fy synnu pa mor gyntefig a henffasiwn ydi ardaloedd gwledig America. Mae hi’n union fel camu’n ôl i gefn gwlad Môn ddeugain mlynedd a mwy yn ôl. Erys rhyw ddiniweidrwydd yn America wledig o hyd. Dyna’r peth yr ydw i wedi bod yn hiraethu amdano yng Nghymru. Gwaredaf ein bod wedi colli ein diniweidrwydd. Mae’r diniweidrwydd coll hwnnw – neu efallai mai naïfrwydd ydi o – yn fyw ac yn iach ym mherfeddion cefn gwlad yr Unol Daleithiau. Cefais agoriad llygad gwirioneddol wrth ddod wyneb yn wyneb ag ambell i sefyllfa. Roedd y dyn yn nerbynfa ein gwesty yn St Joseph, Missouri, yn rhyfeddu wrth weld ein pasborts. Doedd o erioed wedi gweld y fath bethau o’r blaen. (Llai nag 20% o Americanwyr sydd â phasbort – cyn lleied â 7% yn ôl un amcangyfrif.) Anwesai’r dogfennau gan gau ei lygaid yn dynn. Cyfaddefodd iddo gael ei gyfareddu gan swyn y pasbort. Parodd iddo ddychmygu gwledydd tramor egsotig.

Ystrydeb yw pwysleisio maint corfforol ein ffrindiau dros yr Iwerydd gan dynnu sylw dirmygus at eu gorbwysau. Rydw i wedi bod yn dadlau’n ffyrnig yn erbyn cywirdeb y ddelwedd honno. Fe fues i’n byw am beth amser yn Efrog Newydd a Los Angeles, lle mae siâp eich corff yn hynod bwysig i’ch delwedd. Ond, och a gwae! Newidiais fy meddwl yn llwyr wrth weld trigolion canol y wlad. Dydw i erioed wedi gweld y fath beth. Nid sôn am ambell unigolyn gor-drwm ydw i. Roedd gan y mwyafrif broblem enfawr. A bod yn enfawr oedd y broblem honno.

Dwi’n gwybod fy mod i’n un da i bwyntio bys at bobol dew. Cyfaddefaf fy mod innau’n gorfwyta. Ond bobol bach – a mawr – roedd rhai o Americanwyr cefn gwlad yn gwneud i mi ymdebygu i Twiggy erstalwm. Ar ôl mynd i dy bwyta ym Missouri deallais mai un o’r rhesymau oedd gormodedd o fwyd seimllyd. Yn waeth byth, yn y mwyafrif o’r tai bwyta gwledig yma mae talu $10 wrth y drws yn rhoi rhwydd hynt i chi fwyta hynny fedrwch chi o bopeth sydd ar gael. Unrhyw beth – asennau eidion, ochrau o ham, twrcïod yn eu corffolaeth, pum math gwahanol o datw. Ac mae pob llysieuyn gwyrdd wedi ei ffrio mewn cytew! (Mae’r ‘tew’ yn y gair Cymraeg yn rhagori yn y cyd-destun hwn ar y batter Saesneg.) Ac nid dyna’r cyfan. Ceid llond byrddau hefyd o bwdinau hufennog. Sylwais ar ddyn a oedd yn eistedd ar y bwrdd agosaf ataf yn cael tri chwrs a phob cwrs yn llond plât enfawr. Yna, i orffen, hwfrodd dri gwahanol math o bwdin i’w geg. Ac fe wnaeth o hynny deirgwaith i gyd. Yn llythrennol, roedd bochau ei ben ôl yn gorlifo dros ochrau ei gadair nes cyrraedd y llawr. Roedd un o’m cyd-deithwyr yn llysieuwr. Druan ohono fo. Doedd neb yn gallu dechrau dirnad y cysyniad o ymwrthod â chigoedd. Roedd y fath beth yn hollol estron iddyn nhw. Rhoddaf enghraifft o hynny i chi rwan. Mae treflan Wilcox yn Arizona yn edrych yn union fel y disgwyliech i dref cowbois edrych. Ymffrostia hefyd mai hi yw prif ganolfan gwerthu gwartheg y byd. Dwn i ddim am hynny. Mi faswn i’n taeru bod mart Gaerwen yn fwy. Yn Wilcox holasom am le i fwyta am wyth o’r gloch y nos. Esboniodd y bladras a lenwai dderbynfa ein gwesty mai dim ond y salwn oedd ar agor ar awr mor hwyr o’r nos. Gofynnais a oedd modd cael pryd llysieuol yno. ‘Oes, wrth gwrs,’ daeth yr ateb siriol a hollol ddifrif. ‘Gewch chi faint fynnoch chi o gyw iâr.’

Wrth baratoi ar gyfer y rhaglenni yma, ymchwiliais i’r ffaith fod llawer o Gymry wedi ymfudo i Arizona i weithio yn y pyllau arian a chopr, o ganol i ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ceisiais ddarganfod hefyd beth oedd perthynas y Cymry â llwyth yr Apache brodorol. Daeth cwrs a ddilynais yn y brifysgol ym Mangor o fudd mawr i mi. Nid cwrs swyddogol oedd hwn ond cwrs a sefydlwyd gan ddyrnaid o fyfyrwyr eiddgar a chwilfrydig. Cwrs a gynhelid ar bnawniau Mawrth ac Iau yn hen sinema’r ‘City’. Roedd y cwrs hwnnw’n cael blaenoriaeth dros unrhyw ddarlith swyddogol oedd ar gael ar ben y bryn. Pennaeth yr adran oedd un Derfel Roberts o Fethesda, ac ymysg yr efrydwyr disglair roedd dau brifardd, Gwynn ap Gwilym ac Alan Llwyd, addysgwyr fel Ieuan Jones Parri, George Lewis Jones a phennaeth ysgol y Berwyn, Dewi Thomas Davies. Heb anghofio poblach megis Emyr Huws Jones, Alun Ffred Jones a myfi. Gwelsom domen o ffilmiau o bob math. Roedd hi’n dal yn oes y ffilmiau B, y rhai a ddangosid cyn y brif ffilm. Ffilmiau am y Gorllewin Gwyllt oedd y rheini’n aml iawn. Un ohonyn nhw oedd ffilm am Gymry wedi eu dal mewn hen ysgoldy yn Arizona a’r Apache yn ymosod yn wyllt arnyn nhw. Cododd gweinidog yr efengyl ar ei draed yn yr ysgoldy a dechrau gweddïo – yn y Gymraeg! Aeth y dorf ymlaen i herio’r Apache drwy ganu ‘Gwyr Harlech’ cyn i’r cafalri gyrraedd a’u hachub.

Roeddwn dros y blynyddoedd wedi holi llawer o fy nghydfyfyrwyr ffilm am y digwyddiad. Ond doedd neb yn cofio. Neb ond y ffilmbryf a’r llenor Gareth F. Williams. Esboniodd mai Apache Drums oedd enw’r ffilm. Chwaraewyd rhan y gweinidog gan actor o’r enw Arthur Shields, brawd yr enwog Barry Fitzgerald. Roedd Shields yn wreiddiol o Ddulyn ac yn Brotestant. Ymunodd â Gwrthryfel y Pasg 1916. Fe’i carcharwyd a’i anfon – fel Michael Collins a sawl Gwyddel arall – i wersyll Frongoch ger y Bala. Yno clywodd y Gymraeg a dysgu ychydig ohoni. Digon iddo gael rhan yn Apache Drums – ac yn ffilm enwog John Ford, How Green was my Valley.

Dwi wrthi’n pacio fy magiau i fynd draw i Chile i weithio am fis. Gallaf ddychmygu Anti Alice yn dweud, ‘Mae o wedi bod gymaint yng Ngogledd America fel ei fod o am drampio De America rwan.’

Adios amigos.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Michael D.

Ymlaen >

Bill Shankly a Tom Parry