Thema dywyll Thema golau

Americanwr oddi cartref

Ta beth, rydw i'n ysgrifennu atoch chi oherwydd chi yw'r unig un rydw i wedi ei weld ar y teledu. Dwi erioed wedi clywed am y lleill. Ond mae gennyf esgus am fy anwybodaeth: yn swyddogol, dydych chi ddim yn aelodau Cynulliad i mi. Hynny yw, dydych chi ddim yn cynrychioli i, oherwydd Americanwr ydw i. Ac ynglyn a'r anhwylustod hwn rydw i'n ysgrifennu.

Efallai byddech yn ymwybodol bod etholiad arlywyddol ar y gorwel yn yr Unol Daleithiau. Heb os, mae eich cyfeillion ym Mhlaid Cymru yn ymwybodol o hyn, oherwydd maent yn cipio syniadau'r ymgeiswyr. Yn debyg i Barack Obama anfonant negesau text, a gwnânt areithiau o flaen cefnlen o bobl ifanc. Ymddengys fod Dafydd Iwan yn aelod Facebook hyd yn oed. Er dyw e ddim ar Twitter. Eto. Perhaps you can beat him to that one.

Rhyngoch chi a fi a'r wal, Rhodri, rydw i am bleidleisio tros Obama. Ond pryderaf na wnaiff digon o'm cyd-Americanwyr yr un peth. Gan hynny, hoffwn wybod os allwch helpu fi ennill dinasyddiaeth Brydeinig. Dwi ddim eisiau gamblo ar gael John McCain a Sarah Palin fel fy arweinyddion. Yn enwedig y Sarah Palin honno. A bod yn onest, Rhodri, mae hi'n codi arswyd arnof. Neu, a bod yn fwy cywir, mae'n codi arswyd arnof fod yna gynifer o bobl sy'n dwli arni.

Fel brodor o Caerdydd, efallai eich bod wedi gweld y dyn Caribïaidd hwnnw sy'n crwydro canol y ddinas gyda megaffon yn pregethu at bwy bynnag sy'n rhy araf i gamu o'i ffordd. Pechod yw bod yn hoyw medda fe; dylem ddarllen y Beibl yn llythrennol medda fe; a mwy na thebyg ni wyr beth yw'r Bush Doctrine.

Ar y cyfan, 'does gennyf broblem â'r dyn a'i megaffon. Ychwanega dipyn o liw i fywyd y ddinas. Gweddol ddiddrwg ydyw, ond dwi ddim eisiau fe fel arlywydd. Ac eto, rhywsut, mewn pecyn benywaidd "gwerinol," mae miliynau o Americanwyr wrth eu boddau â'r un math o beth. Petai hi ar y stryd yng nghanol dinas byddai pawb yn mynd o'u ffyrdd i'w hosgoi. Ond tu ôl podiwm sgleiniog, yn gwisgo sbectol posh, maent yn fodlon iddi fod o fewn curiad calon o fod y person mwyaf pwerus yn y byd.

Ni allaf ddygymod â hynny, Rhodri. Ni allaf wynebu'r posibilrwydd o gael fy nghysylltu â'r wallgofwraig honno am bedair blynedd. Fel Americanwr mae rhaid imi gario fy ngwleidyddion fel albatros. Ers symud i Gymru, pob tro clywa unrhyw un fy acen, mae'n holi am George W Bush. A allech ddychmygu hynny? I gael eich clymu i ddyn a gafodd ei ethol fel gwleidydd y canol, ond a lwyddodd i droi i'r dde bron yn syth, gan arwain y wlad i ryfel dibwynt? O, efallai eich bod chi yn gallu dychmygu hynny. Ond o leiaf, yn eich achos chi, mae Tony Blair wedi mynd. Yn fy achos i, mae'r hunllef yn parhau.

Gwn fy mod i'n un o'r bobl dramor hynny y mae'r llywodraeth Prydain mor awyddus cael gwared ohonynt. A gwn nad oes gennych bwer tros y Swyddfa Gartref. Ond efallai byddech yn fodlon defnyddio ychydig o'ch dylanwad i'm helpu? Plîs? Peidiwch â'm gorfodi i fynd yn ôl.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Rhwng Cwsg ac effro

Ymlaen >

Is-etholiad Glenrothes