Thema dywyll Thema golau

Anfadwaith Utøya

 

Ar yr ail ar bymtheg o Fai – y syttende Mai chwedl y brodorion (mae’r ynganiad Cymraegyn ddigon agos ati) – bydd Norwy’n dathlu eidiwrnod cenedlaethol. Ers degawd a mwybellach rwyf wedi cael dathlu yn eu cwmni ac nid yw’rwefr yn pylu dim.

Fel mewn pentrefi, trefi a dinasoedd eraill trwy’r wlad, uchafbwynt y diwrnod yn ein pentref bach ni ar gyrion Oslo yw gorymdaith y plant. Ganol bore bydd canran uchel o drigolion y pentref – cymaint â thri chwarter y ddwy fil o eneidiau sy’n trigo yno – yn ymlwybro o gartrefi sydd i gyd wedi eu haddurno â’r faner genedlaethol i gyfeiriad yr ysgol gynradd. Bydd pawb yn eu dillad parch. Yn achos o leiaf hanner y merched mae hynny’n golygu’r wisg genedlaethol draddodiadol – y bunad. Naw wfft i’r ffaith mai traddodiad gwneud ydi traddodiad y bunad. Mae ceinder y gwisgoedd a balchder y gwisgo yn ddigon i drechu unrhyw sinigiaeth. Fel y gwyddom ni Gymry’r Eisteddfod yn dda, yn amlach na pheidio traddodiadau gwneud ydi’r traddodiadau difyrraf.

Ar fuarth yr ysgol bydd gwahanol ddosbarthiadau’r ysgol ei hun, yn ogystal ag ysgolion meithrin y cylch, oll yn ymgasglu y tu ôl i’w baneri.Wedyn, gan ffurfio llinell hir y tu ôl i fand pres digon shimpil, fe fydd y plant a’u hathrawon yn gorymdeithio o gwmpas y pentref. Gan nad ydyw Fagerstrand yn fawr o le, mae hynny’n golygu cerdded i lawr ac yna yn ôl i fyny bryn go serth. Wrth gerdded yn ôl bydd y plant lleiaf yn aml yn nogio. Ond bydd anogaeth y dorf, sydd wedi ymgasglu ar ochr i’r ffordd, yn ogystal ag ysgwyddau ambell riant – yn ddigon i sicrhau bod pawb yn cyrraedd yn ôl i’r buarth. Ac yn wobr am eu hymdrech, ceir traddodiad gwneud arall: boed hindda, law neu eira (fel y cafwyd bedair blynedd yn ôl), hynny o hufen ia y gall y plantos ei stwffio lawr eu gyddfau!

Mae’r holl ddiwrnod wedi ei seilio ar wladgarwch cynnes a chynhwysol. Mae’r cyfan hefyd yn drawiadol ac, i mi, yn annwyl o ddiniwed.Wrth reswm, mae’r Norwyaid eu hunain yn ymwybodol o’r diniweidrwydd, ac yn wir yn

diolch am y ffaith.Wedi cwblhau’r orymdaith ac wrth i’r plant gythru am eu hufen ia bydd y Brifathrawes yn cyflwyno gr?p o blant h?n fydd, rhyngddynt, yn darllen araith y dydd. Nid yw geiriau’r araith, hyd y deallaf, byth yn newid. Yn wir, a bod yn gwbl onest, mae’r offer sain mor sâl â chymaint o s?n yn dod o’r dorf fel nad oes llawer o wrando chwaith. Ond, o glustfeinio, fe glywir yr areithwyr yn diolch am y ffaith fod pobol Norwy yn byw mewn gwlad sydd nid yn unig mor hardd a goludog – a phwy all wadu gwirionedd y naill osodiad na’r llall? – ond sydd hefyd mor dawel a heddychlon.

Nid felly y bu hi erioed, wrth gwrs. Mae’r cof am yr Ail Ryfel Byd yn fyw iawn yn Norwy gyda phrofiad y goresgyniad Almaenaidd yn sicrhau bod y cof yn llawer mwy diriaethol a llai sentimental ei natur nag a geir yn ynysoedd Prydain. Mae plant y pentref i gyd yn ymwybodol iawn o ffawd y 900 o forwyr Almaenaidd a laddwyd pan suddwyd llong ryfel fawr y Blu?cher yn y fjord gerllaw ar ddiwrnod yr ymosodiad, a’r modd y cadwyd llawer o’r cyrff mewn neuadd wrth yr ysgol. Mae’r hogiau acw yn ymwybodol iawn fod un o’u hen deidiau wedi ei gaethiwo yn un o wersylloedd y Natsïaid ar gyrion Oslo a’i fod ar farw o newyn pan gafodd ei ryddhau ar ddiwedd y rhyfel. Nid gwlad sy’n naïf am y byd a’i bethau mo hon felly – mae rhuddin iddi. Serch hynny, nid oedd dim a allai baratoi ei thrigolion ar gyfer digwyddiadau’r 22ain o Orffennaf. Ymddengys eisoes eu bod yn cynrychioli math o rwyg yn hanes y wlad. Fydd pethau byth yr un fath ar ôl i Anders Behring Breivik fynd i ryfel yn erbyn ei bobol ei hun. Ond sut wlad fydd y Norwy newydd a gaiff ei chreu yng nghysgod chwalu calon Oslo gan fom enfawr ac yna gan anfadwaith Utøya?

•   •   •

Wrth deithio yn ôl i Norwy ar ôl digwyddiadau’r 22ain, yr hyn sy’n taro dyn yn syth ydi’r ymdeimlad o fraw, dychryn a galar sydd wedi treiddio trwy’r tir. Gallwch flasu’r ing. Gan fod pobol ifanc o bob cwr o Norwy yn mynychu’r gwersyll yn Uoya, prin fod cymuned sydd heb ei chyffwrdd gan y gyflafan. O bentrefi pysgota bach cylch yr Arctig i ganol dinas Oslo, ceir cymunedau a gollodd wynebau ifanc cyfarwydd, neu sy’n lloches bellach i eraill a lwyddodd i ffoi’r lladdfa.

Mewn gwlad fechan, mae gan bawb hefyd ryw stori neu brofiad i’w rhannu. Mae un ddynes rwy’n ei hadnabod yn gweithio yn yr ysbyty sydd agosaf at Uoya; ysbyty lle y cludwyd y rheini heb glwyfau corfforol difrifol. A hithau ar ei gwyliau, fel cannoedd ar gannoedd o weithwyr sector cyhoeddus eraill, gwirfoddolodd ei gwasanaeth. Gan mai bydwraig ydyw o ran galwedigaeth nid oedd galw am ei sgiliau proffesiynol. Ond fe gafodd w?s i gadw cwmni i un o’r rheini a achubwyd o’r ynys nes i’w theulu gyrraedd o ardal bellennig. Merch oedd hon a oroesodd am ei bod wedi llwyddo i orwedd yn llonydd o dan gyrff ei chyfeillion wrth i Breivik gerdded heibio ar ei helfa ddieflig.

•   •   •

Ond yn ogystal â’r ing ceir yma urddas. Fe ymgorfforwyd hyn ym mherson y PrifWeinidog, Jens Stoltenberg. Dyma ?r a fynychodd wersyll ieuenctid ei blaid ar Utøya bob blwyddyn ers diwedd y 1970au. Yn ogystal â cholli ffrindiau personol yn y lladdfa mae’n adnabod llawer o’r bobol ifanc a gollwyd. Mynychodd lawer o’u hangladdau dros yr wythnosau diwethaf. Eto, trwy’r cyfan, mae ei ymatebion cyhoeddus yn ddieithriad wedi taro’r cywair priodol.

Heb fyth golli golwg ar wedd ddynol y gyflafan, mae wedi sylweddoli o’r cychwyn fod cyd-destun gwleidyddol ehangach i’r cyfan. Oblegid er mor lloerig yr ymddengys Breivik, yr oedd ei weithredoedd wedi eu cynllunio’n ofalus i newid cwrs gwleidyddol Norwy.Wrth ymosod ar wersyll Utøya, fe ymosododd ar y genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwleidyddol adain chwith: yn wir, o gofio dominyddiaeth hanesyddol yr Arbeiderpartiet (y Blaid Lafur) dros wleidyddiaeth y wlad, ac o gofio pwysigrwydd gwersyll Utøya yn y broses o feithrin darpar arweinwyr y blaid honno, teg yw tybio fod Breivik wedi llofruddio pobl ifanc a fyddai, ymhen y rhawg, yn aelodau o’r cabinet neu hyd yn oed yn BrifWeinidogion eu hunain.

Fodd bynnag, nid fel ymosodiad yn erbyn yr Arbeiderpartiet yn unig y dehonglwyd gweithredoedd Breivik gan Stoltenberg. Yn hytrach mae ef a thrwch gwleidyddion y wlad wedi dehongli ymosodiadau’r 22ain o Orffennaf fel ymosodiad ar y broses wleidyddol drwyddi draw: mewn gair, fel ymosodiad ar ddemocratiaeth. A’r unig ymateb priodol i hyn yn ôl y gwleidyddion yw cryfhau democratiaeth: trwy sicrhau bod Norwy’n fwy cynhwysol fyth; yn rhoi mwy nag erioed o fri ar drafodaeth agored; yn fwyfwy parod i amddiffyn breiniau ei holl ddinasyddiaeth; yn fwy awchus fyth i hybu gwerthoedd democrataidd ar y llwyfan rhyngwladol. Ystyrier, mewn difrif, y gwahaniaeth rhwng yr ymateb yma ac ymateb gwleidyddion yr Unol Daleithiau i ymosodiadau’r 11eg o Fedi.

Mae pobl Norwy yn amlwg o’r un farn â’u gwleidyddion. Yng nghanol Awst cafwyd adroddiad ar y brif raglen newyddion nosweithiol fod pleidiau gwleidyddol Norwy wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu haelodaeth ers yr 22ain o Orffennaf. Yn fwyaf trawiadol, gwelwyd pobol ifanc yn heidio i’r rhengoedd. Ymddengys eu bod yn dangos eu gwrthwynebiad i’r hyn a ddigwyddodd ar Utøya trwy anwylo’r union werthoedd a sefydliadau yr oedd Breivik yn ceisio eu dinistrio.

Ar ben hynny, mae’n amlwg fod arweinwyr y blaid adain dde yr arferai Breivik fod yn aelod ohoni wedi eu sobri. Maent wedi cydnabod yr angen i dymheru’r math o rethreg y maent yn ei ddefnyddio wrth gyfeirio at eu gwrthwynebwyr gwleidyddol. Gwelwyd hefyd newid yn y math o ieithwedd y maent yn ei fabwysiadu yng nghyddestun y lleiafrifoedd ethnig sydd wedi ymgartrefu yn Norwy dros y degawdau diwethaf. Yn hytrach na’u trin fel cocyn hitio cyfleus, clywir sôn bellach am yr angen i ‘estyn llaw’. Nid yw’n eglur, fodd bynnag, a fydd hyn yn ddigon i’r etholwyr. Mae’r arolygon barn yn awgrymu bod cefnogaeth y Fremskittspartiet (Plaid Cynnydd) wedi disgyn yn sylweddol.Wrth goleddu’r gwerthoedd yr oedd Breivik yn eu ffieiddio ymddengys bod Norwyaid hefyd yn ymwrthod â’r cylchoedd rheini yr oedd ganddo unrhyw gysylltiad â hwy.

•   •   •

Ychydig o wythnosau ers yr 22ain o Orffennaf nid oes modd gwybod eto pa effaith hir dymor a gaiff y gyflafan ar Norwy. Hyd yma, fodd bynnag, mae’r rhagolygon yn gadarnhaol. Er gwaethaf dioddef ergydion chwerw, ymddengys nid yn unig fod y gymdeithas Norwyaidd yn wydn, ond fod sylweddoliad trwy’r trwch na ellir caniatáu i weithredoedd anfad un g?r danseilio’r gwerthoedd gwâr hynny sy’n rhan mor amlwg o fywyd y wlad. Bydd sawl her arall i’w gwynebu, wrth gwrs. Yn fwyaf penodol yr achos llys. Ond hyd yn oed yn y cyd-destun hwnnw, o gofio mai cefnogwr i’r Arbeiderparti sydd wedi derbyn y dasg o amddiffyn Breivik, a hynny’n benodol gan ei fod yn teimlo fod yn rhaid i rywun ymgymryd â’r gwaith diddiolch hwnnw er mwyn cynnal gwerthoedd y wlad, ceir rhywfaint o obaith yno hefyd.

Go brin y bydd dathliadau syttende Mai 2012 yr un fath â dathliadau’r degawd diwethaf. Does bosib na chaiff yr araith ei diwygio. Nid pethau sy’n digwydd mewn gwledydd llai ffodus yw gweithredoedd anfad a dieflig bellach. Ond rwy’n mawr obeithio na chollir gormod o naws y gorffennol chwaith. Yn ei chynwysoldeb cynnes, ei hagosatrwydd, ei hwyl a’i hapusrwydd diniwed, mae gorymdaith plant Fagerstrand – a phob gorymdaith plant arall – yn safiad yn erbyn casineb, hunanoldeb ac anoddefgarwch cul llofrudd Utøya.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

America ar ôl 9/11

Ymlaen >

Steddfod y Sbort a’r Salsa