Yn anad dim math o sefydliad cymdeithasol a diwylliannol yw cylchgrawn, gyda’r unigolion arweiniol, y sylfaenwyr ac yna’r cynheiliaid yn dod â’u cyfraniadau a’u pwysleisiau unigol at y bwrdd golygyddol fel petai. Mae rhestr gwroniaid golygyddion Barn yn cynnwys dau o’r pedwar sef Aneirin Talfan Davies ac Alwyn D Rees, tra roedd un arall Alun Talfan Davies yn gyd-gyfrifol am y busnes cynhyrchu a chyhoeddi, cyhoeddi sy bellach yn ddigidol ei lwyfan hefyd http://www.cylchgrawnbarn.com
Alwyn D Rees a Brinley Rees ac Aneirin ac Alun Talfan Davies felly yw’r ddau bâr o frodyr, ac ni ellir meddwl am hanes a datblygiad addysg nac ysgolheictod ym maes cymdeithaseg, anthropoleg, beirniadaeth lenyddol testunau canoloesol a chyfoes, crefydd Gristnogol, cyfraith a’i gweinyddiaeth, gwleidyddiaeth, datblygiad cyfansoddiadol, ymgyrchu dros ddwyieithrwydd Cymraeg/Saesneg, bancio, darlledu, a newyddiaduraeth yr ugeinfed ganrif hebddynt. Dyna gynfas digon eang felly i’w drafod gyda’r holl feysydd hyn o’n blaen, gan ganolbwyntio ar yr annibyniaeth barn yn yr ystyr ehangaf i’r ddau air oedd yn nodweddu’r ddau bâr o frodyr. Mae gen i awydd hefyd, gan i mi adnabod y ddau bâr i wahanol raddau drwy gwrdd â nhw, cael fy nysgu ganddynt yn ffurfiol ac anffurfiol, dadlau â nhw ac astudio eu gweithiau, i son am eu ‘dylanwadau’ a defnyddio un o hoff deitlau cyfres darlledu Aneirin Talfan.
Brinely Rees oedd y brawd deuthum i’w adnabod gyntaf tua 1963. Roeddwn wedi cael fy hudo i ddarllen cyfrol ysbrydoledig y ddau frawd, Celtic Heritage oedd yn gosod chwedloniaeth Gymreig ynghanol llenyddiaeth gymharol fyd-eang. Eu bwriadau hwy oedd dehongli ystyron ‘ysbrydol’ gweddillol y storiâu nid jest eu categoreiddio yn null mynegeio Antti Aarne a Stith Thompson a’u motiffau folklorique! Mae’r ddadl ysgolheigaidd hon hefyd yn parhau!
Nid y rhyddiaith ‘chwedlonol’ yn unig a ddysgais yn nosbarthiadau Brinley wth iddo godi ei olygon o’i nodiadau oddi ar gefn hen amlenni post wedi eu hailgylchu, ond y cyfatebiaethau annisgwyl rhwng y canu englynol marwnadol yn Gymraeg a Gwyddeleg a Hen Saesneg, yn dangos yn glir bod pob astudiaeth lenyddol yn gymharol a rhyngwladol yn ei hanfod, a hynny cyn i Patrick L Henry gyhoeddi ei astudiaeth feistrolgar ar The Early English and Celtic Lyric . Ac yna’r flwyddyn gyfan uwchben testunau Cyfraith Hywel yn deall y termau cyn deall yr arwyddocâd. Prin y meddyliai neb o’r dosbarth dethol hwnnw y byddem yn defnyddio’r ymadrodd ‘cyfraith Cymru’ eilwaith mewn ffordd gyfoes o fewn 40 mlynedd nag yn ailenwi adeilad yn Dy Hywel er cof am ddawn gyfreithiol ganoloesol y Cymry!
Alwyn D Rees ddes i’w adnabod yn dda yn fy mlynyddoedd ôl-radd yn Aberystwyth. Roeddwn wedi fy nghyfareddu gan Life in A Welsh Countryside (19610 a Welsh Rural Communities (1962) ac wedi fy herio gan ddarllen ‘Adfeilion; sylwadau ar argyfwng ein dyddiau ni’ gyhoeddwyd yn ystod yr ail ryfel, heb son am y pamffled (24tud am swllt) ar ‘Sylfeini Gweriniaeth’ ei air ef am ddemocratiaeth, yn olrhain syniadau gwleidyddol am ddemocratiaeth, oedd yn gwreiddio ‘delfrydau gweriniaeth’ yn dynn yn yr isadeiledd economaidd a dosbarthiadol.
Gyda ‘nealltwriaeth innau o destunau llenyddol yn aeddfedu dan ddylanwad agweddau cymdeithasegol gwaith Raymond Williams roedd trafodaethau am gymdeithaseg ac anthropoleg yn gyson yn yr Adran Efrydiau Allanol ac o gwpas Laura Place. Yn ddiweddarach bûm am gyfnod yn diwtor rhan-amser yn yr Adran. Bûm hefyd yn aelod o ddosbarth enwog Yr Athro Leopold Kohr The Breakdown of Nations (1957) ddaethai o Obendorf yn Awstria drwy Brifysgol Puerto Rico i ddysgu yn Aberystwyth ei ‘anarchiaeth athronyddol’ ei hun gan herio mawrdra o bob math. Yn ei ynganiad Almaeneg byddai pob dosbarth yn cloi gyda pherorasiwn yn deillio popeth o ‘the problem of seis’! Mewn Cynhadledd yn yr Adran hefyd y cwrddais â ‘Fritz’ Schumacher a fu am ddau ddegawd yn Brif Ymgynghorydd Ystadegol ac Economaidd y Bwrdd Glo, ond hefyd yn sylfaenydd ac arloeswr economeg werdd a thechnoleg briodol awdur Small is Beautiful (1973) un o’r can llyfr mwyaf dylanwadol yn ail hanner yr 20fed ganrif a llyfr a fu yn ddylanwadol iawn ar Yr Athro Phil Williams a Cynog Davies AC AS fel arna innau. Dyma’r math o gysylltiadau deallusol arloesol a greodd Alwyn D o’i gwmpas.
Mewn ymgyrchoedd etholiadol aflwyddiannus i’r ddau ohonom rhwng 1959 a 1966, yng Nghaerfyrddin lle pleidleisiodd teulu fy mam iddo, ac wedyn yng Ngorllewin Dinbych y des i gwrdd ag Alun Talfan Davies. Gwnaeth ei hynawsedd a’i alluoedd i gyfathrebu ac ymateb i gwestiynau argraff ddofn arna i ac wedi iddo ddod aelod o’r Comisiwn Brenhinol ar y Cyfansoddiad 1969-1973, doedd dim syndod i mi ei fod ymhlith yr hanner dwsin o Gomisiynwyr a blediodd gynulliad deddfwriaethol i Gymru. Dyma’r adroddiad a osododd sylfaen i ymgyrchoedd etholiadau 1974 a dau ddegawd o ymgyrchu deallus dros y nod a osododd Syr Alun. O’i ddyddiau yn Is-gadeirydd HTV a llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol byddem yn cwrdd yn gyson, a pharhaodd y cyfeillgarwch drwy ddyddiau San Steffan ac ymgyrchoedd darlledu dadleuol pan oeddem fel arfer ar yr un ochr! Heb os un o brif ysgogyddion deallusol di-ildio'r math o ddatganoli a goleddir mor glir gan fwyafrif etholwyr Cymru heddiw oedd Alun Talfan.
Drwy ddarllen ei waith mewn edmygedd llwyr o ddull o sgrifennu beirniadaeth lenyddol yn Gymraeg a Saesneg y des i i adnabod Aneirin Talfan cyn i mi ddod i ymwneud o ddifri a maint ei gyfraniad unigryw i greu darlledu drwy’r BBC . Roedd darllen ei Eliot Pwshcin a Poe (1948) fel myfyriwr ysgol ac isradd wedi agor fy llygaid i’r gallu i drafod moderniaeth mewn barddoniaeth, rhyddiaith a drama ar draws ffiniau ieithyddol, a dyna wnaeth ymarfer llenyddol a beirniadol dwyieithog mewn llenyddiaeth gymharol yn ail natur i minnau. Ei gyfrol ar James Joyce, Yr Alltud 1944 (Foyles) roddodd y wefr fwyaf, a minnau yn eilun addoli Joyce a’i holl waith ers bod yn 16 oed. Cesglais sawl copi ohoni a rhoi un i’m cyfaill oes Geraint Talfan ar ryw achlysur arwyddocaol!
Ond yn y celloedd niwrolegol crefyddol yn fy mhen y bûm yn ceisio eu hanwybyddu am flynyddoedd, roedd proses arall ar waith. Wrth i mi ddarllen ei argraffiad o lythyrau David Jones, a’i gyfrol ar farddoniaeth Dylan Thomas Dylan, Druid of the Broken Body (1977) a dod i ddeall arwyddocâd ei eglwysyddiaeth Gatholig Anglicanaidd Gymreig roedd yntau gyda’r Prifardd Euros Bowen yn un o’r dylanwadau mwyaf a’m harweiniodd innau tua Llandâf! Yma yma heddiw yn Eisteddfod y Fro rhaid cydnabod ei ddwy gyfrol daith un yn Crwydro Sir Gar lle magwyd fy rhieni a Bro Morgannwg a bro’r Eisteddfod lle mae rhan bwysig o ’nheulu bellach yn byw.
Ond yn bennaf am eu camp yn sefydlu a chynnal annibyniaeth cylchgrawn yn dwyn yr enw cyfoethog o amwys y dathlwn glod y ddau bâr o frodyr heddiw, am iddynt sicrhau annibyniaeth olygyddol a gwleidyddol annibyniaeth ‘Barn’ cyhyd. Yn deyrnged a pharhad i’w gwerthoedd rhyddfrydig ysgolheigaidd cenedlgarol gwâr agored ac ysbrydol hwy y cyflwynir ymresymiad diweddglo’r ddarlith hon.
Annibyniaeth yw bod yn annibynnol, mewn cyflwr annibynnol o unrhyw le, berson neu sefydliad arall, ac annibyniaeth barn yw’r weithred o farnu, o gynnal barn nad yw’n ddarostyngedig, neu wedi or-ddylanwadu gan farn neb na dim arall. Mae’n deillio o hawl yr unigolyn synhwyrol i benderfynu a dewis yn glir a’r hawl ddiymod i fynegi’r farn honno. Mae barn yn golygu’r weithredu o farnu a hynny o reidrwydd yn golygu penderfyniad dirfodol unigol, ag iddo arlliwiau cryf moesegol. Mae’n gysylltiol a barn yn yr ystyr o ‘ddyfarnu’ fel mewn llys barn a hynny yn amcanu at gyfiawnder ac uniondeb. Yn wir gellid maentumio fod y sefydliad o farnwriaeth gyfreithiol yn enwedig o brofi diffynnydd o flaen rheithgor, yn seiliedig ar ryddid barn unigol i benderfynu iawnder achos penodol. Heb son am Y Farn Fawr sy’n fater diwinyddol ac felly ymhell y tu hwnt i’r ddarlith hon!
Ymhob gweithred o farnu neu o goledd a chynnal barn mae yna ymdeimlad o benderfyniad ymwybodol a chyfrifol ac iddi wedyn arlliw o gerydd neu feirniadaeth. Gweithred feddyliol o ymresymu neu dybio yw hi felly, a hynny gobeithio heb ormod o ragdybio, fel bod ystyried yn digwydd ar sail tystiolaeth a phrofiad yn hytrach nag oherwydd rhagfarn. Ymarfer i’w feithrin yw’r gallu i farnu, ble mae angen synnwyr a chraffter i ddirnad ac i ddeall.
Eithr nid gweithred unigol o wybyddiaeth mo hon ychwaith. Mae’r cyfle i gyfathrebu yn agored ac yn rhydd yn hanfodol i greu a chynnal ‘byd cyhoeddus’ lle gall gweriniaeth neu ddemocratiaeth dyfu a ffynnu. Dyma’r ddemocratiaeth ystyriol drafodol gyd-gynghorol y plediwyd drosti drwy’i yrfa gan y cymdeithasegwr a’r athronydd Jurgen Habermas.
Nid mater o ymgysylltu neu ymgynghori â chyhoedd wedi i benderfyniadau gael ei wneud yw hyn ond rhagystyried cyn penderfynu ar ddeddfu er enghraifft, a thrafod wedi ystyriaeth ofalus. Cyfryngau clir yn cyfathrebu syniadau a datrysiadau gan rannu ffeithiau anodd yn ddi-ofn yw seiliau cadarn byd cyhoeddus democrataidd. Aiff hyn a ni nol heibio i ‘Sylfeini Gweriniaeth’ Alwyn D Rees lle ‘na ellir gwahanu bywyd gwleidyddol cymdeithas oddi wrth ei bywyd economaidd’ at seiliau athroniaeth ddemocrataidd Ewropeaidd yng ngwaith yr unig athronydd o Gymru i gael ei bennod ei hun yn Hanes Athroniaeth y Gorllewin, y gwr o Langeinwyr Dr Richard Price.
Sgrifennodd ym mlwyddyn fawr Chwyldro 1789 yn ei Draethawd ar Wladgarwch mai ‘rhyddid yw’r fendith fawr nesaf a enwais yn wrthrych sêl wladgarol. Mae’n anwahanadwy oddi wrth wybodaeth a rhinwedd ac ynghyd a hwy yn cyflawni gogoniant cymuned’ Mewn geiriau o’r 21ain ganrif, dywedaf fod y rhyddid democrataidd sy’n hanfodol i fywyd cymunedol yn llwyr ddibynnol ar ryddid gwybodaeth a’r gallu i benderfynu yn foesegol. Felly nid atodiad i fywyd y byd cyhoeddus yw'r angen i feithrin annibyniaeth barn o fewn a thu hwnt i redwelioedd celyd y 'ddemocratiaeth gynrychioliadol' mewn senedd a chyngor a llywodraeth, eithr y bywiol waed ei hun!
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

