Annibyniaeth – ambell gwestiwn
Annwyl Olygydd,
Wedi cyfarfod Prif Weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yng Nghaerdydd ar 14 Medi, dylid croesawu eu datganiad am annibyniaeth eu gwledydd. Uchelgeision clir a gonest. Pob clod i’r arweinwyr am fod yn dryloyw, hyd yn oed os ydych chi’n anghytuno â nhw.
Ond mae’n rhaid dweud mai hawl y bobl yw gwneud unrhyw benderfyniad am annibyniaeth, nid hawl y gwleidyddion.
Yma yng Nghymru does dim mwyafrif o blaid annibyniaeth. A fydd newid ym marn y bobl yn y dyfodol? Mae tasg enfawr ac anodd o flaen y cenedlaetholwyr: dwyn perswâd ar y bobl y buasai ein hannibyniaeth, tu allan i’r Deyrnas Unedig, o les iddyn nhw. A hefyd mae cwestiwn yn codi am annibyniaeth tu allan i’r DU ond aelodaeth arfaethedig o grŵp mwy o faint – yr Undeb Ewropeaidd.
Sut i sgwario’r cylch hwnnw?
Kevyn Bodman,
Y Fenni
Plaid Cymru a’r Gymraeg
Annwyl Olygydd,
Wrth ddarllen erthygl Richard Wyn Jones a Jac Larner, ‘Grym yr Heniaith’ (Barn, Medi 2026) – erthygl sy’n dangos y berthynas drawiadol rhwng agweddau pobl at y Gymraeg a’u bwriadau pleidleisio yn etholiad Mai 2026 – cefais fy atgoffa am rai sylwadau gan Saunders Lewis ym Mehefin 1972. Maent i’w gweld mewn rhagair ganddo i argraffiad newydd o’i ddarlith enwog Tynged yr Iaith (1962), a gyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ‘i ddathlu penblwydd Cymdeithas yr Iaith, a’r ddarlith hithau, yn 10 oed’.
Ysgrifennwyd y rhagair ar adeg pan oedd cynnydd arwyddocaol yn y bleidlais i Blaid Cymru yn y Cymoedd. Mae’n ddogfen sy’n werth ei darllen ar ei hyd, ac yn cynnwys datganiadau cofiadwy megis ‘Llyfrau a phamffledau J.R. Jones yw clasuron ein cenedlaetholdeb ni heddiw’ a ‘Heddiw teledu yw pennaf lleiddiad y Gymraeg’. Ond dyma rai o’r sylwadau a’m trawodd yn arbennig yng nghyd‑destun yr erthygl ‘Grym yr heniaith’:
‘A oes modd troi’r Cymry heddiw [1972] yn genedlaetholwyr Cymreig? Hynny yw, a oes modd eu hargyhoeddi mai Cymru yw eu hunig wlad, eu cenedl, tir eu byw a’r gymuned neu’r gymdeithas y mae eu ffyddlondeb yn briodol iddi cyn unrhyw gymdeithas ddynol arall? […]
‘Lladd cenedlaetholdeb yw pregethu i etholwyr Cymru mai mantais economaidd iddynt hwy fyddai fod gan Gymru annibyniaeth neu mai felly’n unig y cânt hwy lywodraeth sosialaidd. […] Yn awr y prawf fe fydd yr etholwyr a bleidleisiodd drosom oblegid y ddadl honno yn cefnu arnom yn fradwrus fuan.
‘Rhaid wrth rywbeth llawer dyfnach i ddeffro Cymreictod politicaidd ymarferol yn y Cymry. Rhaid cyffroi ynddynt, hyd yn oed y Cymry yng Ngwent a Morgannwg a gollodd eu Cymraeg ers dwy a thair a phedair cenhedlaeth, yr ymwybod o’u gwahanrwydd, a defnyddio gair J.R. Jones, fel Cymry. Trwy ddeffro cyd‑ymdeimlad, cyd‑ymdeimlad sy’n cysgu yn nyfnder yr ymwybod, ond sy’n ei fradychu ei hun hyd yn oed yn acen eu Saesneg, yn unig y medrir.’
Yn gywir,
E. Wyn James
Caerdydd
