Thema dywyll Thema golau

Annibyniaeth yr Alban yn agosáu?

erthygl-awst-2020-2124-1030 erthygl-awst-2020-2124-1030
Bydd hyn yn ymddangos yn sinigaidd: gwnaeth y pla les mawr i Nicola Sturgeon. Ac eithrio’r adeg pan fu’n rhaid i’r Prif Swyddog Meddygol, Catherine Calderwood, ymddiswyddo am beidio â gwneud yr hyn yr oedd hi’n gofyn i bawb arall ei wneud, mae’r mwyafrif o bleidleiswyr yr Alban yn canmol y modd mae Sturgeon wedi trin y pla. Yn ôl pôl Panelbase roedd 74% yn dweud ei bod hi’n gwneud joban dda a dim ond 14% oedd yn feirniadol ohoni. Gwahanol iawn oedd eu hymateb i berfformiad Boris Johnson: 61% yn feirniadol ohono a 21% yn unig yn ei ganmol. Fedr Sturgeon ddim cuddio ei diffyg amynedd â’r rhai sy’n mynnu llusgo gwleidyddiaeth i mewn i ymateb Llywodraeth yr Alban i’r coronafirws. Ond ar yr un pryd bydd barn y bobl yn gysur ac yn galondid iddi. Bu’r SNP yn ymwybodol ers tro byd mai dangos gallu’r blaid i lywodraethu’n effeithiol fyddai’r ffordd orau o ddangos sut y gallai’r Alban ofalu amdani ei hun yn gyfan gwbl.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-awst-2020-2123-1029

Cydraddoldeb barddol

Ymlaen >
erthygl-awst-2020-2125-1031

Ofni creu cenhedlaeth goll