Thema dywyll Thema golau

Apartheid ar sail rhyw yn Affganistan

Merched sy'n gwisgo burqa ger Mosg Glas ym Mazar-e Sharif Merched sy'n gwisgo burqa ger Mosg Glas ym Mazar-e Sharif
Mae ffrind i ffrind mewn trafferth. Mae’n fwy na thrafferth mewn gwirionedd. Iddo fe a’i deulu mae’n argyfwng ac mae’n bosib na ddewn nhw drwyddi. Mae Farid (newidiwyd ei enw ar gyfer yr erthygl hon) wedi bod yn byw ers rhai blynyddoedd yn ardal Mount Pleasant yn Abertawe. Ar waethaf ei henw, dyw hi ddim yn cael ei hystyried yn un o’r rhannau mwyaf dymunol o’r ddinas i fyw ynddi. Serch y golygfeydd trawiadol o’r arfordir a geir oddi yno a’r hanes diddorol sydd i’r ardal, mae graffiau ac ystadegau cenedlaethol yn ei gosod yn gyson ymhlith y rhannau hynny o’r wlad sy’n ddifreintiedig. Ond i Farid, heddiw, mae’n gymuned sy’n driw i’w henw ac yn gartref iddo fe, ei wraig a’u merched. Fe gyrhaeddon nhw Abertawe ac ymsefydlu yn y ‘Mount’ ar ôl gorfod ffoi o Affganistan pan ddaeth y Taliban yn ôl i rym yno yn 2021.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Geraint Evans

Amrywiaeth ac algorithmau – holi Prif Weithredwr newydd S4C

Ymlaen >
Geraint H. Jenkins yng nghwmni’r Prifardd Llion Jones ac Elin Jones AS yn Ewros 2016

Hanesydd digymar y bêl gron