Thema dywyll Thema golau
Ymadawiad Adam
Ar drywydd ditectif… a Dracula
Pethau Poveyaidd

Ar drywydd ditectif… a Dracula

Ers i gyfres DI Rebus ddod i ben gyda’r gyfrol Exit Music ddwy flynedd yn ôl, mae awduron ditectif eraill wedi mynd â’m bryd – yn eu plith Peter Robinson, Peter James a’m ffefryn presennol, Stuart MacBride. Ond Rankin/Rebus oedd fy nghariad cynta’ go-iawn yn y genre yma, ac oherwydd hynny (ac am i Rankin anfon e-bost personol yn ôl ataf un tro), rhaid oedd mynd i’w weld. 

Atgoffai’r marquees yn Charlotte Square Gardens fi o wyl y Gelli (efo cynulleidfa llai siwdaidd). Hedfanodd awr heibio mewn chwinciad, a Rankin yn frwd a ffraeth a diymhongar wrth iddo drafod ei waith. Er mai am ei nofel newydd, The Complaints, y siaradai yn bennaf, dychwelai’r drafodaeth, a’r cwestiynau o’r llawr, yn anochel at Rebus.  

‘He’s still there,’ meddai am y ditectif wedi ymddeol, ‘working on cold cases...’ Ac wrth i’w brif gymeriad newydd, Malcolm Fox (plismon sy’n chwilio pac plismyn eraill), fynd o gwmpas ei waith yng ngorsaf yr heddlu, teimlai’r awdur fod Rebus newydd adael y cantîn, neu’n cerdded ar hyd coridor cyfagos... Peidiwch â synnu felly os bydd llwybrau’r ddau yn croesi yn y dyfodol.  

Yn nes ymlaen y noson honno, dyma stopio mewn siop kebab ar y ffordd yn ôl i’r gwesty.

‘You bin tae see a show?’ gofynnodd y perchennog.

‘Ian Rankin,’ atebais.

‘Oh aye – I love Rebus!’

Prawf, os oedd angen, fod hwn yn gymeriad llenyddol sydd wedi tyfu’n rhan annatod o ddiwylliant cenedl.  

O fwrlwm lliwgar sioeau stryd Caeredin, dyma deithio i lawr i Whitby, tre lan môr swynol yng ngogledd Swydd Efrog. O harbwr Whitby yr hwyliodd Capten Cook ar y fordaith a arweiniodd at ddarganfod Awstralia. Ffynnai diwydiant morfila mawr yno ers talwm (denai forwyr o Niwbwrch yn ôl y sôn) a goffeir gan y bwa asgwrn morfil ar glogwyn deheuol y dre. Mae yno hefyd amgueddfa Dracula, gan mai yn Whitby y glaniodd yr Iarll o Dransylfania ar ôl i’w long gael ei dryllio ar y creigiau...  

Chwerthin ddaru’r cymar wrth i ni sylweddoli nad amgueddfa mohoni, ond profiad taci eitha’ tebyg i drên ysbryd mewn ffair. ‘Tydi o ddim go wir ’sti,’ meddai. Ac eto, er mai ffrwyth dychymyg yr awdur Bram Stoker ydi Dracula, mae’n un o’r cymeriadau chwedlonol hynny sydd wedi treiddio i psyche pobol i’r fath raddau nes ei fod yn enw a ffigwr sy’n gyfarwydd i bawb. Ac wrth i ni adael tafarn y Board Inn ar stryd goblog yr eglwys un noson, ‘Watch out for the vampires on t’other side of the bridge’ oedd y rhybudd (tafod mewn boch, am wn i) a roddwyd i ni.  

Nid ’mod i wedi darllen nofel Stoker. A hwyrach fod Cædmon’s Song gan Peter Robinson, thriller seicolegol sy’n seiliedig ar droseddau’r Yorkshire Ripper ac wedi’i lleoli yn Whitby, yn stori iasol fwy realistig. A dweud y gwir, y disgrifiadau a geir ynddi o’r dre fach hynod a llawn awyrgylch hon ddaru gynnau fy chwilfrydedd yn ei chylch yn y lle cynta’.  

Nid yw’n syndod fod nifer o nofelau eraill wedi’u lleoli yn Whitby hefyd, yn eu plith Possession gan A. S. Byatt – cyn-enillydd y Booker sy’n cyfuno ysgolheictod, rhamant a stori dditectif lenyddol. Cyfrol esoterig ond rhyfedd o afaelgar sydd â’r fantais ychwanegol o’m hatgoffa o wyliau gwirioneddol ddifyr.

 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Ymadawiad Adam

Ymlaen >

Pethau Poveyaidd