Wrth wledda gyda chyfeillion o ochr arall y byd, cafodd ein colofnydd gyfle’n ddiweddar i flasu sawl gwin gan ganolbwyntio’n bennaf ar Sbaen ac ar ddwy rawnwinen benodol.
Gyda hen gyfeillion draw o Seland Newydd am benwythnos hir, roedd yn achos dathlu ac yn gyfle i agor sawl potel y gwyddwn y byddent yn eu mwynhau. Roeddent wedi dod â sawl Pinot gyda nhw o ardal Martinborough gerllaw eu cartref yn Wellington, a’r rhan fwyaf o’r rheini gan gynhyrchwyr y maent wedi dod i’w nabod yn bersonol. Afraid dweud bod cynhyrchiant y gwinoedd yma’n isel, a phrin y gwelir yr un ohonynt yng Nghymru, ond os digwyddwch weld enwau fel Cambridge Road ac On the Shoulders of Giants, prynwch nhw gyda hyder. Ond fe gyfaddefodd fy ffrind nad yw ei allu i flasu cystal ag y dylai fod, a’i fod yn amau effeithiau Covid hir. O ganlyniad, un o’i hoff rawnwin ar y funud yw Grenache, sydd â blasau eithaf amlwg iddi ar y daflod, a rhoesom gynnig ar sawl gwin sy’n ei chynnwys yn y gymysgfa i weld a fyddai’r daflod yn cael ei boddhau.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru