Tybed faint ohonoch chi fydd yn synnu nad yw enw Nicole Cooke yn uwch yn y betio? Fe enillodd y Gymraes yr aur ym Meijing, aur cynta’ tîm Prydain yn y Gemau, cyn ychwanegu coron pencampwriaethau’r byd. Hi yw’r unig berson, boed ddyn neu ddynes, i gyflawni’r dwbl yma. Ond hyd yn oed wedyn dyw hi ddim yn cael ei hystyried yn un o’r rhai a all ennill Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn. Go brin y bydd hynny’n unrhyw syndod i’r ferch o’r Wig. Roedd ei henw ar y rhestr fer ’nôl yn 2006 pan oedd hi’n rhif un yn y byd ac wedi ennill Cwpan y Byd. Ond doedd hi ddim hyd yn oed yn y tri uchaf.
Mae’r BBC wedi bod yn gwobrwyo personoliaeth chwaraeon y flwyddyn ers 54 o flynyddoedd, a thrwy gydol y cyfnod dim ond 13 o ferched sydd erioed wedi cipio’r brif wobr. Eleni, yn fwy na’r un flwyddyn arall, mae’r merched wedi disgleirio. Heblaw am ein Nicole ni ar ei beic, a Rebecca Adlington yn y pwll, ystyriwch Christine Ohuruogu, enillydd unig fedal aur Prydain ar y trac gan ychwanegu coron Olympaidd ras y pedwar can metr i’w theitlau Byd a Chymanwlad. Ystyriwch hefyd Victoria Pendleton a Rebecca Romero. Y ddwy’n ennill aur ym Meijing, gyda Romero wedi cyfnewid rhwyfo am seiclo i ennill ail fedal Olympaidd mewn camp cwbl wahanol.
Ond a ydyw’r sêr yma o fyd chwaraeon yn poeni am y wobr o gwbl bellach? Wedi’r cyfan, beth yw tlws gan y BBC o’i gymharu â medalau hardd o Beijing, neu’r miliynau o arian nawdd a ddaw yn sgil ennill pencampwriaeth un o gampau mwyaf cyfoethog y byd fel Fformiwla Un? Yr ateb yw, ydyn maen nhw’n poeni. Yn enwedig eleni. Does dim dwywaith iddi fod yn flwyddyn arbennig i chwaraeon ym Mhrydain a byddai cipio’r wobr yn dipyn o anrhydedd.
Sut felly mae pleidleisio? Ar sail personoliaeth? Ar yr hyn mae’r unigolyn wedi’i gyflawni? Ynteu ychydig o’r ddau? Mi fydd Lewis Hamilton yn ôl ar y trac eto y flwyddyn nesa’ a chanddo gyfle i gipio’r teitl eto. Mi fydd hefyd yn siwr o gael un o’r ‘Pussycat Dolls’ ar ei fraich a sylw’r wasg yn gyson. I rai fel Rebecca Adlington, ni ddaw’r cyfle i ddod i sylw’r cyhoedd ond unwaith bob pedair blynedd. Fe dorrodd hi record byd, a hi oedd y ferch gynta’ o Brydain i ennill medal Olympaidd yn y pwll ers 1984. Gobeithio y bydd y bleidlais yn cydnabod hynny.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

