Pa winoedd sydd orau i’w hyfed allan yn yr awyr iach, efallai efo seigiau oddi ar y gridyll? Dyma argymhellion ein colofnydd.
Ydi, mae’n dymor tynnu’r barbeciws llychlyd o’r garej er mwyn llosgi’r selsig yn gols, a dyma i chi’r gwinoedd gorau a flesais yn ddiweddar i’w mwynhau yn yr haul. Fe ddechreuwn gyda gwinoedd rosé, ac i gefnogi’r diwydiant Cymreig, awgrymaf i chi Llaethliw Rosé (£19), sydd ag arogleuon mafon a sitrws sawrus, lliw samwn argyhoeddiadol a diweddglo sych a ffresh. O stabl M&S, eu detholiad o winoedd ‘Found’ yn benodol, mae dau y byddai’n werth i chi eu blasu. Mae’r ysgafnaf ohonynt, y Vinho Verde Rosé (£8), yn un hawdd iawn i’w yfed, gydag arlliw o elfen befriog, fel y ceir mewn Vinho Verde da, a blasau mefus a hufen a gellyg. Un o’m hoff rawnwin o dde’r Eidal yw Susumaniello, ac mae’r rosé Found (£10) wedi’i wneud o hon. Gyda’i ffrwyth coch ac arlliw bach o danin, mae’n fwy o win i’w yfed efo bwyd – seigiau pasta bwyd môr sbeislyd yn ddelfrydol.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru
