Mae rhagoriaethau arferol gwaith yr awdures i’w cael yma eto yn ei nofel newydd, meddai NIA HELEDD WILLIAMS, hyd yn oed os nad yw dilyn holl droadau’r plot yn hawdd bob amser.
Judith
Sonia Edwards
tt. 250, Gwasg y Bwthyn, £12.00
Dyma offrwm diweddaraf y nofelydd, y bardd a’r llenor toreithiog Sonia Edwards. Gall yr awdures amryddawn hon ei thrawsnewid ei hun fel cameleon llenyddol yn dibynnu ar ei dewis o genre. Llenor o fardd a welwn ni yn ei chyfrolau o storïau byrion fel Glas ydi’r Nefoedd, Gloynnod a Rhwng Noson Wen a Phlygain gyda’r ysgrifennu’n delynegol, yn deimladwy ac yn gywrain. Mae Sonia Edwards y nofelydd yn wahanol – y themâu’n galetach, yr ieithwedd yn fwy garw a’r dweud yn agosach at yr asgwrn, o’r nofelau cynnar, Cysgu ar Eithin, Merch Noeth ac Elain i’r drioleg dditectif ddiweddar Braw Agos, Erchwyn a Tri. Os cofia i’n iawn, mi gyfaddefodd yr awdures yn ddiweddar ei bod hi wedi ‘mynd i regi llawer iawn mwy!’
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
-

Tanysgrifiad – Digidol yn Unig
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at fersiynau llawn yr erthyglau ar ein gwefan, a rhifynnau blaenorol yn eu ffurf ddigidol. Byddwch yn gallu darllen popeth sydd ar ein gwefan tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£35.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
-

Tanysgrifiad – Print a Digidol
Dewiswch yr opsiwn hwn i gael mynediad at holl gynnwys gwefan BARN. Byddwch hefyd yn derbyn rhifyn newydd drwy’r post yn fisol tra mae eich tanysgrifiad yn weithredol.£50.00 / blwyddyn
Rhoi yn y fasged
Mewngofnodi
Cofrestru
