Thema dywyll Thema golau

Argyfwng a’r Heddlu

Craig Russell, Caryl Parry Jones a Jacob Fell
Carreg Gwalch, £5.99


Cyfres am lygod bach sydd wrth eu boddau’n datrys y problemau ddaw i’w rhan ydi cyfres Arwyr Argyfwng. Maent i gyd yn cynrychioli gwasanaeth argyfwng gwahanol ac mae gan bob un ei dalent arbennig sy’n ei helpu i wneud ei swydd; er enghraifft Mabli, llygoden yr ambiwlans, sy’n ofalgar a chysurlon ac sy’n berchen ar ddwylo a gafael cryf. Arwyr Argyfwng a’r Heddlu (Carreg Gwalch, £5.99) ydi’r ail stori yn y gyfres a Myfi, llygoden yr heddlu, sy’n arwain y ffordd y tro hwn. Disgrifir hi fel un chwareus a bywiog, a’i thalent arbennig hi ydi ei bod hi’n chwim dros ben. Craig Russell a Caryl Parry Jones ydi’r awduron a Jacob Fell sy’n gyfrifol am y gwaith celf bywiog – arlunydd sy’n fwyaf adnabyddus i ni yma yng Nghymru am gymeriadau cyfres Sali Mali. Mae’r cyfuniad o baragraffau a swigod siarad yn apelgar ac yn gymorth i ddenu a chadw sylw’r darllenydd ifanc.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cry Pop y Pry Cop

Ymlaen >

Hywel Hwyl a’r Gwningen