Thema dywyll Thema golau

Arwyr Angof: Mai Roberts

Rhes o bobl yn eistedd - llun hanesyddol 1926 Rhes o bobl yn eistedd - llun hanesyddol 1926
Lewis Valentine, Ambrose Bebb, D.J. Williams, Mai Roberts, Saunders Lewis, Kate Roberts, H.R. Jones, Prosser Rhys, 1926

Mae amryw o ferched wedi cyfrannu i ymgyrchoedd Plaid Cymru dros y blynyddoedd, ac nid pob un ohonynt gafodd sylw haeddiannol. Ond chwaraeodd un ferch yn arbennig ran allweddol yn sefydlu’r Blaid, gan uno carfanau’r de a’r gogledd i greu plaid wir genedlaethol.

Un o ferched aelwyd Glanrhydfadog ym mhentref Deiniolen yn Arfon oedd Mai Roberts a bu hi, a’i chwaer Priscie, yn selog eu cefnogaeth i’r Blaid o’r cychwyn.

Ganed Mai yn 1899 ac wedi gadael Ysgol Brynrefail treuliodd gyfnod ym Manceinion cyn cael ei phenodi’n Ysgrifennydd Preifat i E.T. John. Diwydiannwr cyfoethog o Bontypridd oedd John, a chefnogwr brwd i hunanlywodraeth i Gymru. Bu’n aelod seneddol Rhyddfrydol Dwyrain Dinbych cyn troi at y Blaid Lafur yn sgil ei wrthwynebiad i’r Rhyfel Mawr. 

Cenedlaetholwr pybyr a merch fodern, annibynnol oedd Mai Roberts – yn gwisgo’n ffasiynol, gwisgo colur, ysmygu a gyrru ei char ei hun.

< Yn ôl
Llyfr y Flwyddyn 2025 - Rhestr Fer categorïau oedolion

Cydbwysedd ac is-destun – rhestr fer Llyfr y Flwyddyn

Ymlaen >
Pencampwyr tennis

Y Cafalîr a’r Piwritan