Thema dywyll Thema golau

Arwyr Angof: Yr ‘anfarwol Olwen’

erthygl-2299-1193 erthygl-2299-1193
Yr oedd strydoedd Llanelli bron yn gaeth gan eira ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 1947. Caewyd holl ysgolion y dref, heblaw un. Y bore hwnnw agorwyd drysau Ysgol Gymraeg Llanelli am y tro cyntaf – yr ysgol Gymraeg gyntaf i’w hagor yng Nghymru dan nawdd awdurdod lleol. Safai’r brifathrawes ar y trothwy i groesawu 35 o ddisgyblion. Miss Olwen Williams oedd y brifathrawes honno, yr ‘anfarwol Olwen’ yng ngeiriau D. Ben Rees. Testun boddhad yw llunio pwt o deyrnged i un o arwresau’r byd addysg yng Nghymru, gwraig eithriadol ei gallu a’i hegni a frwydrodd i sicrhau darpariaeth arloesol i blant Llanelli ac, yn sgil ei llwyddiant, i blant ledled Cymru. Nid oes na phlac na cherflun cyhoeddus yn nhref Llanelli i nodi ei gorchestion. Hwyrach mai’r un esgeulustra sy’n gyfrifol am y bwlch amlwg yn y Bywgraffiadur Cymreig.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
erthygl-rhagfyr-2021-i-ionawr-2022-2298-1192

Llyfiad Llo

Ymlaen >
erthygl-rhagfyr-2021-i-ionawr-2022-2300-1194

Peintio pobl – holi David Griffiths y portreadwr