Thema dywyll Thema golau
Cwis i'n Darllenwyr
At ddant a phoced pawb – bwyta yn Wrecsam a’r cyffiniau
Gwarth y Golchdai

At ddant a phoced pawb – bwyta yn Wrecsam a’r cyffiniau

Unwaith y daeth yn hysbys fy mod wedi cytuno’n rhyfygus i lunio’r llith hwn mae pobl wedi bod yn dod ataf gydag awgrymiadau am lefydd bwyta. ‘Cofia sôn am y fan a’r fan a’r lle a’r lle.’ Y diweddaraf oedd ‘Fe fuom ni yn y Trevor Arms neithiwr. Roedd y bwyd yn wych.’ Byddai wedi bod yn well pe byddwn wedi cau fy ngheg a dilyn fy nhrywydd fy hun. Ond dyna fo, mi wnes i ofyn am gyngor. A doedd dim posib i mi wybod am bobman yn yr ardal. Mae ’na gymaint o lefydd a chymaint o ddewis – sy’n newyddion da iawn i eisteddfodwyr.

Ar bob cyfrif ewch i’r Trevor Arms ar waelod bryn Marford (01244 570436, LL12 8TA). Mae’n westy bach hyfryd a phensaernïaeth yr ardal yn ddiddorol iawn. Mae’r ffenestri’n ganlyniad naill ai i ddylanwad yr Iseldiroedd neu yn hen ffordd o gadw’r diafol draw. Cewch chi ddewis! Nid wyf erioed wedi bwyta yno ond mae canmol mawr i’r lle. Ceir bwydlen amrywiol sy’n cynnwys dewis da i blant.

Gwell troi felly at yr hyn y gwn amdano o brofiad ar sail ymchwil y blynyddoedd. Fel y gwyr pawb a ddaeth i aros atom ers i ni symud i Wrecsam, y dewis cyntaf bob tro yw Pant yr Ochain (01978 853525, LL12 8TY, www.pantyrochain-gresford.co.uk ). Mi ddylwn gael cyfranddaliadau yn y lle. Mae’n debyg fod trefnwyr taith ddiweddar Cerys Matthews yn cytuno. Wrth siarad rhwng caneuon mewn cyngerdd yn neuadd William Aston cyfeiriodd at y Pant. Nododd fod rhywun wedi dweud wrthi mai cyfieithiad yr enw yw ‘Hollow of Lamentations’. Awgrymodd wedyn fod yr ‘Ochain’ yn dod o ochneidio, mynegiant o hiraeth a galar. Ond yn ôl yr hanes, hen arglwydd ffiwdal oedd Ochain a oedd yn byw ar y safle ’nôl yn y canol oesoedd. Yn ddiweddarach bu i’r teulu Cunliffe adeiladu’r hyn a welir ar y safle heddiw.

Mae’r llecyn ei hun yn braf gyda digon o fyrddau y tu allan i fwynhau haul wythnos yr Eisteddfod – gobeithio – mewn gardd hyfryd. Mae digon o le i’r plant redeg o gwmpas. Mae’r fwydlen yn eang ac amrywiol ond gwell peidio manylu gormod gan ei bod yn newid o ddydd i ddydd. Cofiwch, mae prydau poblogaidd yno’n gyson, prydau fel ham, wy a sglodion neu gacenni gorbenfras ac eog wedi eu cochi. Fe welwch chi seren fach wrth ymyl ambell i bryd sy’n dynodi y gellwch chi gael platiad llai i’r plant. Ond credwch chi fi, gall hynny fod yn hen ddigon i unrhyw un. Mae’n rhaid i mi ddeud mai’r unig rai welais i erioed a lwyddodd i gladdu tri chwrs oedd pedwar o Arolygwyr ei Mawrhydi oedd i fyny o’r De. Gwell tewi yn y fan yna! Un peth sy’n sicr, fydd dim ochneidio wrth adael Pant yr Ochain – oni bai eich bod wedi bwyta gormod. Mae dewis da o winoedd yno hefyd, a chwrw o fragdai bach a mawr, rhai Cymreig yn aml fel y Mws Piws o Borthmadog a Chwrw Eryri.

Wedyn mae Perelli’s (01978 363333, LL13 8NA, www.perellis.co.uk), bwyty a leolwyd yn un o adeiladau hynaf Wrecsam, yn Town Hill yng nghanol y dre’. Cynigir cymysgedd o fwyd Eidalaidd a Sbaenaidd yn ogystal â’r stecen arferol. Cewch groeso cynnes mewn cyntedd bach clyd gyda seddi lledr moethus wrth i chi bori’n hamddenol trwy’r fwydlen. Mae’r stafell fwyta i lawr y grisiau. Gall fod yn anodd i’r anabl. Wedi dweud hynny mae’r bwyd yn dda. Ar ein hymweliad diweddaraf fe fu i ni gychwyn gyda salad salsa cranc a camembert wedi ei bobi. I ddilyn cawsom gyw ac asennau ‘Cajun’, draenog y môr gyda lemwn a pherlysiau wedi ei goginio mewn papur, a phlatiad o basta penne piccole oedd yn cynnwys saws chili, garlleg a thomato. Roedd y cyfan o safon uchel iawn. Mae yna ddewis da o win hefyd a gwin y ty yn ddigon derbyniol: potel o Ladera Verde Sauvignon yn hyfryd dros ben am £14.50. Tydi o ddim y lle rhataf ond mae o’n werth pob ceiniog.

Ond os mai bwyd Eidalaidd pur yw eich dymuniad, yna’r Lemon Tree amdani (01978 261211, LL11 2LP, lemon-tree-hotel-wrexham.com). Fe allwch chi gael brecwast, cinio a swper yma. Ar y Sadwrn a’r Sul gweinir brecinio. (Dyna’r gair Cymraeg am ‘brunch’ mae’n debyg.) Mae’n lle poblogaidd iawn gyda phobl fusnes gan fod yno nifer o gilfachau bach addas ar gyfer cyfarfod dros bryd. Yma eto mae’r bwyd yn safonol ac yn amrywiol iawn: corgimwch mewn rafioli a madarch gyda tagliatelle, blasus iawn. Yr unig ochr negyddol yw nad oes bwydlen i blant yma. Rhaid, felly, archebu pryd cyfan i’r pethau bach, neu rannu wrth gwrs.

Cyflwynaf chi nesaf i’r ty Thai, Dao Siam ( 01978 351071, LL13 8BT, www.daosiam.co.uk). Dyma un o’r llefydd gorau yn Wrecsam am fwyd ffres a blasus. Rhaid bod yn amyneddgar. Mae pob pryd yn cael ei goginio yn unswydd ar eich cyfer ac mae’n werth aros amdano. Gellwch gychwyn gyda’r Tom Yum Gai sydd â chic fel mul! Gwnewch yn sicr fod y Tiger Beer wrth law. Mae’n gymorth heb ei ail! Mae yma ddewis eang a diddorol dan ofal cogyddes o wlad Thai sy’n darparu prydau Thai go iawn. Lle i ryw dri deg o bobl sydd wrth y byrddau, ac mae’n llenwi’n gyflym, yn arbennig ar benwythnos. Y cyngor wedyn, wrth gwrs, yw trefnu o flaen llaw i wneud yn siwr o’ch lle. Mae modd hefyd i chi gael pryd i’w gludo allan ond rhaid archebu dros y ffôn.

Mae dau le arall sy’n haeddu sylw er nad ydw i wedi bwyta yno ers tro. Bu i’r ddau gau ac yna ailagor yn ddiweddar. Mae’r adroddiadau dwi’n eu clywed amdanynt yn gadarnhaol a chanmoladwy iawn. Mae’r Golden Grove (01244 571006, LL12 0AS, www.golden-grove.com) yn Burton, ar gyrion pentref yr Orsedd, dipyn bach yn anodd dod o hyd iddo. Y llall yw’r Boat yn Erbistog (LL13 ODL, 01978 780666 ) sydd mewn llecyn hyfryd ar lan afon Dyfrdwy. Mae’n lle braf a’r bwyd o safon uchel, ryw hanner awr o’r Maes.

Yng nghyffiniau’r Boat hefyd mae’r Cross Foxes (01978 780380, LL13 0DR, www.brunningandprice.co.uk/crossfoxes), tafarn o’r un teulu, anian ac ansawdd â Phant yr Ochain. Y rheolwr yw Ian Pritchard Jones, bachgen ifanc o’r Rhos a chyn-ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd.

Os ’dach chi wedi dewis chwilio am y Golden Grove, fe welwch chi, ar eich ffordd i mewn i’r Orsedd o barthau Wrecsam, Yr Alyn (01244 570368, LL12 0HE, www.thealyn.co.uk), tafarn hyfryd a bwyd da. Ac yn nes ymlaen wedyn, y Golden Lion (O1244 571969, LL12 0HN, www.thegoldenlionrossett.co.uk), sydd eto’n cynnig lluniaeth ardderchog o safbwynt bwyd a diod, a lle da i’r plant gael chwarae.

Yn ôl yn Wrecsam mae ’na ddau le arbennig iawn am fwyd dwyreiniol. Mae’r Sleepy Panda, nid nepell o Tesco, yn darparu bwyd Tseiniaidd, ac mae’r Indiaidd Anise drws nesa i Mecca Bingo. Mae’r ddau le yma wrth ymyl canolfan siopa Dôl yr Eryrod. Yno mae Nandos, Frankie and Benny’s a Pizza Express. Ac, os ’dach chi’n hoff o swn, mae bwyd y ganolfan Bowlio Deg yn arbennig o addas ar gyfer teuluoedd. Ar waelod Yorke Street mae tafarn y Nag’s Head, cyrchfan Cymry Cymraeg Wrecsam. Mae bwyd tafarn blasus a rhesymol ar gael yno. Ac i fyny’r ffordd, ar waelod Stryd Caer ac o fewn cyrraedd i sawl rhagbrawf, mae yna far Noodle, difyr iawn a rhad iawn, newydd agor ac yn mynd o nerth i nerth.

Mae sawl lle arall ar gael o gwmpas y dre a dwi’n siwr y dowch chi o hyd i rywle fydd wrth eich bodd. Gwell sôn am ambell fan a all fod o ddiddordeb i drigolion Maes B. Mae nosweithiau Maes B yn digwydd ar gampws Prifysgol Glyndwr eleni a drws nesa’ i’r fan honno mae tafarn y Plas Coch. Does dim byd allan o’r cyffredin am y bwyd. Mae o yr hyn y medrwch ei gael mewn sawl tafarn arall mae’n siwr. Ond mae’r Plas Coch yn cynnig dau bryd am bris un, sy’n dipyn o help i’r boced. Mae nosweithiau Cymdeithas yr Iaith yn yr Orsaf Ganolog. Mae’r fan honno yn gwneud bwyd yn ystod y dydd, ar y llawr isaf, dan yr enw Yales. Ond i lawr y ffordd mae tafarn o’r enw ‘Last Orders’ – enw cwbl anaddas, os caf ddweud. Ond mae’r rheolwyr wedi dangos cryn ddiddordeb yn yr Eisteddfod... Dim ond dweud! I lawr y ffordd wedyn mae yna nifer o fannau têc awe, rhai ar agor hyd berfeddion nos – rhag ofn bod rhyw chwant bwyd yn codi cyn clwydo.

I’r rhai fydd yn teithio i mewn i Wrecsam o gyfeiriad Rhuthun fe ddowch trwy bentrefi Llandegla a Choedpoeth. Mae’r Plough yn Llandegla a’r Moors uwchben Bwlchgwyn yn ddwy dafarn sydd wedi bod yn gefnogol iawn i’r Eisteddfod ac yn fannau addas ar gyfer pryd o fwyd cyn troi am adref. Ar y llaw arall, ben bore mae Spar Coedpoeth yn cynnig brechdanau bacwn neu selsig penigamp, yr union beth fydd ei angen cyn rhagbrawf plygeiniol.

 

Awgrymiadau ychwanegol

Elin Llwyd Morgan

Os am fentro ymhellach, ceir amrywiaeth dda o fwytai o safon yn Nyffryn Ceiriog. Dyna i chi westy’r Golden Pheasant yn Nolywern (01691 718281), a adnewyddwyd yn lled-ddiweddar gan fam a mab o Sweden. Ceir prydau bar amrywiol am bris rhesymol; bwydlenni à la carte, a chinio dydd Sul tri chwrs bendigedig. Ac ar bnawn neu noson braf, gallwch ymlacio dros goffi yn y gerddi tirluniedig.

Ty potas a bwyta hynod o boblogaidd ydi’r Dderwen ym mhentref Glyn Ceiriog (01691 718810), diolch i weledigaeth a gwaith caled y perchnogion lleol, Gafyn a Carys Davies. Trawsnewidiodd y ddau yr hen Royal Oak yn dafarn-cym-bistro chwaethus a chartrefol sy’n dal i ddenu’r locals. Mae arlwy’r fwydlen yn ffres a blasus, gan amrywio o brydau ysgafn fel salad eog a leim i fwydydd cysur fel bola porc neu asen eidion a thatws stwnsh, a phitsas cartref wedi’u pobi ar garreg. Noson gyrri ydi nos Fawrth a noson pysgod a sglodion ydi nos Fercher, a cheir specials dyddiol ar y bwrdd du, ac eithrio nos Sul a nos Lun, pan fydd y Dderwen ar gau.

Ym mhen draw’r dyffryn yn Llanarmon ceir dau westy gwledig gyferbyn â’i gilydd, sef yr Hand a’r West Arms: ill dau yn hardd, hynafol a difyr, ac yn brolio pedair seren AA yr un. Hen dafarn porthmyn ydi’r Hand (01691 600666), sy’n cynnig amrywiaeth chwaethus o brydau bar yn y bwyty carreg a arferai fod yn llaethdy.

Mae’r West Arms (01691 600665) ychydig yn fwy, gyda lolfa, ystafell fwyta breifat yn ogystal â bwyty arobryn yn cynnig bwydlen pris-sefydlog o brydau creadigol. O’r ddau, fodd bynnag, o ran naws groesawus ac awyrgylch clyd, dwi’n meddwl mai’r Hand sy’n mynd â hi.


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Cwis i'n Darllenwyr

Ymlaen >

Gwarth y Golchdai