Dyfodol Llafur: plaid ranbarthol, nid cenedlaethol?
Un o fân ryfeddodau canlyniadau’r etholiadau Ewropeaidd yw enwau’r ddwy blaid honno. Y prif bennawd, wrth gwrs, a hynny’n gwbl naturiol felly, oedd buddugoliaeth y Ceidwadwyr.
14 Gorffennaf 2009
Merched Lloyd George a Ffion
Mae hi’n wraig i gyn-arweinydd y Torïaid ac yn dal swyddi uchel ym myd busnes. Mae hi hefyd yn awdur cofiant i’r merched ym mywyd David Lloyd George. Yn awr mae hi’n brysur yn paratoi rhaglen deledu Gymraeg sydd wedi tyfu o’r llyfr. Ann Gruffydd Rhys fu’n holi FFION HAGUE.
14 Gorffennaf 2009
Cofiwch Dryweryn – Oes Angen?
Wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol ddychwelyd i Benllyn, ai gweithred gysurlon a diystyr bellach yw cofio Tryweryn? Onid argyfyngau’r presennol a ddylai fod flaenaf yn ein meddyliau?
14 Gorffennaf 2009
ganIwan Edgar
Steddfod ar y Mall
Ddiwedd y mis bydd gwyl enfawr yn cael ei chynnal yn yr Unol Daleithiau, a Chymru fydd y genedl wadd.
11 Mehefin 2009
Dylanwad y Brawd Hwdini
Wrth i Meic Stevens gyhoeddi ail ran ei hunangofiant, yma cynigir dadansoddiad o natur ei ddylanwad ar y byd pop Cymraeg yn gyffredinol.
8 Mehefin 2009
Golwg ar wefan Golwg
Nid y lansiad gorau erioed i wefan newydd. Ymhen munudau o lansio Golwg360 ar 15 Mai, roedd y wefan yn chwalu o dan straen defnyddwyr. Ac erbyn ganol dydd, roedd gwefannau cymdeithasol ar dân gyda sylwadau yn bychanu’r chwaraewr newydd ym myd newyddiaduraeth Gymraeg, ei reolwyr, a’r gyfundrefn a ddosrannodd gymaint o arian iddo.
8 Mehefin 2009
ganChris Cope
“Parliment Uffernol”
Ellis Wynne, awdur Gweledigaeth Uffern, biau’r geiriau "Parliment Uffernol". Neu’n hytrach, yn yr hinsawdd dryloyw bresennol, fe ddylwn i esbonio nad y Bardd Cwsg, fel y cyfryw, biau’r geiriau. Milton ddaru eu defnyddio nhw gyntaf yn Paradise Lost. Teitl hynod o addas dan yr amgylchiadau. Ond, diolch i’r Daily Telegraph, mae’r baradwys faterol lle preswyliai cynifer o’n cynrychiolwyr etholedig bellach wedi diflannu. Am byth, gobeithio. Sôn am foch â’u trwynau budr o’r golwg yn y cafnau! Ni all yr un ohonom gofio cyfnod erioed o’r blaen pan fu gwerin gwlad mor ddirmygus â hyn o wleidyddion. Ac o wleidyddiaeh. Dyma, yng ngolwg y mwyafrif ohonom, beth yw ‘Parliment Uffernol’ go iawn...
8 Mehefin 2009
Zimbabwe – Pwy fydd yma ‘mhen can mlynedd?
Amlinelliad o hanes y wlad ddoe a heddiw, a rhan flaenllaw Cymro o Arfon yn yr ymelwa a fu ar Zimbabwe yn enw’r Ymerodraeth Brydeinig.
8 Mehefin 2009
Gerallt
Union ddeugain mlynedd yn ôl, yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Aberystwyth 1969, enillwyd y gadair gan Gerallt Lloyd Owen. Roedd ei ddilyniant buddugol yn cynnwys cerddi a ystyrir bellach fel rhai o glasuron pennaf barddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif. Bu’r bardd yn sgwrsio â Vaughan Hughes.
8 Mehefin 2009
Adolygiad – Ty Bernarda Alba
Sut mae’r cynhyrchiad Cymraeg o un o drasiedïau enwocaf Lorca, sy’n teithio ar hyn o bryd, yn cymharu gyda chynhyrchiad Saesneg o’r un ddrama a lwyfannwyd yng Nghasnewydd yn gynharach eleni?
29 Mai 2009
O’r Alban – Sianel Deledu Genedlaethol?
Ym mis Medi’r llynedd aeth BBC Alba ar yr awyr. Hon yw’r sianel deledu a sefydlwyd ar y cyd gan y BBC a Seirbheis nam Meadhanan Gàidhlig (y Gaelic Media Service), a dalfyrrir yn MG Alba. Gaeleg yr Alban, wrth gwrs, yw iaith y sianel. Yn ei hwythnos gyntaf credir ei bod wedi denu 600,000 o wylwyr – mwy nag un rhan o ddeg o’r boblogaeth, a dengwaith yn fwy na chyfanswm y Gàidhealtachd – sef yr holl siaradwyr Gaeleg sy’n byw yn yr Alban.
13 Mai 2009
Ar ôl Rhodri
Mae’n anodd gorbwysleisio pwysigrwydd Rhodri Morgan. Bydd ei ymddeoliad yn cau pennod ffurfiannol yn hanes gwleidyddol Cymru.
13 Mai 2009
Y chwerthin sydd mor drist
Ryan a Ronnie: Bywyd Dau. Breuddwyd Un. Boom Films/S4C. Categori: 12A
13 Mai 2009
Emyr Price (1944–2009)
Boed fel hanesydd, newyddiadurwr neu ddarlledwr, roedd yr awydd i boblogeiddio ei ddeunydd yn nodweddu holl waith Emyr Price, a fu farw ym mis Mawrth. Un o’i gyfeillion agosaf sy’n ei goffáu.
13 Mai 2009
Chwyldro Amser Cinio’r Llew Du
Ymateb Llywydd y Cynulliad i gyfrol o gerddi sy’n cynnwys cân iddo ef ei hun – ‘Cân i’r Arg’ – ochr yn ochr â sylwebaeth ar ei blaid.A Gymri di Gymru? Robat Gruffudd Y Lolfa, £5.95
‘Yn excito gyda’r holl cyfryngau cyfathrebu newydd fi ’dod ar eu traws wythnos ’ma,’ oedd cofnod Twitter cyntaf fy ffrind pan ymunodd hi â’r wefan ym mis Mawrth.
9 Ebrill 2009
ganChris Cope
Hen, ond arwr o hyd
Bu tad llunyddiaeth yn gwylio ffilm ddiweddaraf Clint Eastwood fel actor ac yn ystyried natur arwriaeth.
9 Ebrill 2009
ganGwyn Thomas
Poteli Corona a photiau jam
Dandelion and Burdock Poteli Corona a photiau jam –yr hen ffordd Gymreig o ailgylchu. Naturiaethwraig a gwyddonydd yn amau effeithiolrwydd ein dulliau cyfoes o ailgylchu gwydr.
9 Ebrill 2009
Picil Sinn Féin – ac Iwerddon
Honna Sinn Fein mai hi yw'r blaid sydd am uno Iwerddon, ond dagrau pethau yw ei bod wedi methu a chreu undod, hyd yma. Yn sgil hynny mae rhai yn ailgydio yn y gwn.
9 Ebrill 2009
Golygyddol – Hawliau dynol a’r Cymry Cymraeg
Trwy sôn am yr ‘hawl’ i siarad Cymraeg, mae’r mudiad cenedlaethol mewn perygl o anghofio beth yw gwerth ein hawliau dynol sylfaenol.
18 Mawrth 2009
ganDyfrig Jones
Carol, Harry a ni – wynebu ein hiliaeth
Mae o wedi gwisgo lifrai Nazi i barti gwisg ffansi, wedi cyfeirio at ei fêt yn y fyddin fel ‘Paki’, ac mae’r Tywysog Harry mewn dwr poeth unwaith yn rhagor am ddweud wrth ddigrifwr ‘stand-up’ nad ydi o’n swnio fel ‘a black chap’. Daw hyn oll yn dynn ar sodlau ‘Gollygate’ wrth gwrs, lle y collodd Carol Thatcher ei swydd yn cyflwyno The One Show am iddi beidio ag ymddiheuro am gymharu chwaraewr tennis croenddu â’r ddoli a fu’n symbol anghysurus ers cyhyd o orthrwm y caethweision. Bu anghytuno am union natur yr hyn a ddywedodd hi – ai dweud ei fod yn debyg i Gollywog ynteu ei fod o’n Gollywog wnaeth hi? A bu llawer o drafod ar yr amgylchiadau yr oedd hi ynddyn nhw pan wnaeth hi’r gymhareb, os mai dyna oedd o – ydi Ystafell Werdd y BBC byth yn medru bod yn ‘breifat’? A bu dadlau chwyrn am y ‘PC brigade’, a’r dybiaeth ei fod wedi mynd dros ben llestri.
18 Mawrth 2009
ganBeca Brown
Cofio ’79 – Beth Petai……?
Beth petai Cymru wedi dweud ‘Ie’ yn 1979? Ar 26 Chwefror 1979, dridiau cyn cynnal y refferendwm ar ddatganoli, cyhoeddodd y Western Mail lythyr gan Saunders Lewis; ac yntau’n 86 oed dyna oedd ei ymyriad olaf yng ngwleidyddiaeth Cymru. O gofio ei sylwadau sarhaus yn y 1950au ynglyn â’r ymdrechion i sicrhau ymreolaeth trwy ddeiseb, o’r braidd iddo fod yn frwd ynglyn â chynulliad a gynigwyd gan lywodraeth Lafur. Ceir yng nghofiant Robin Chapman awgrym mai gweithred groes graen i S.L. oedd llunio’r llythyr. Ond mae ei gynnwys yn hynod ddiddorol.
6 Mawrth 2009
ganJohn Davies
Cwlt y Bydiaid
Efallai nad ydych chi wedi sylwi eto ar gwlt newydd a ddaeth i’r amlwg yng Nghymru yn ddiweddar, sef Y Bydiaid. Nhw yw’r Cymry ffyddlon sy’n credu y bydd Dyddiol Cyf yn eu harwain i Wlad yr Addewid lle ceir papur newydd dyddiol Cymraeg.
6 Mawrth 2009
ganChris Cope
Ambell bwl o chwerthin
‘Pan fydda I’n codi yn y bore, mi fydda i’n mynd draw at y ddes ‘Ambell bwl o chwerthin...’ Cofio Wil Sam
6 Mawrth 2009
Twr Ifori? Nid bellach
Newid parhaus fu hanes addysg brifysgol yn y cyfnod diweddar. Yma, codir rhai cwestiynau sylfaenol ynghylch y chwyldro a fu gan un sydd wedi ymddeol yn ddiweddar fel Athro’r Gymraeg yn Aberystwyth.
6 Mawrth 2009
Cymru las?
Mae ymchwil newydd herfeiddiol yn awgrymu mai dinistr a gwae sy’n aros Llafur yng Nghymru pan ddaw’r etholiad cyffredinol nesaf. Ond pwy fydd yn disodli Llafur? Mae’r ateb yn syfrdanol...
6 Mawrth 2009
Pam deddfu?
Wrth drafod y cwestiwn i ba raddau y mae angen deddfu ym maes yr iaith Gymraeg, mae’n hanfodol ein bod yn cadw mewn cof beth yw sefyllfa’r iaith ar hyn o bryd.
16 Rhagfyr 2008
A’r enillydd yw…
Tybed faint ohonoch chi fydd yn synnu nad yw enw Nicole Cooke yn uwch yn y betio? Fe enillodd y Gymraes yr aur ym Meijing, aur cynta’ tîm Prydain yn y Gemau, cyn ychwanegu coron pencampwriaethau’r byd.
15 Rhagfyr 2008
Petai Baby P wedi byw…
Yr adeg yma o’r flwyddyn, mae’r rhai ffodus yn ein plith yn crafu pen dros benderfyniadau hollbwysig yr Wyl, megis: Ai Nintendo DS Lite lliw coch ynteu wyrdd ddyla’ Siôn Corn roi yn ei sach eleni?
10 Rhagfyr 2008
Y Ddrama Na Sgwennodd Ionesco
Diddorol iawn oedd sylwadau Gareth Miles yn Barn mis Mehefin ynglyn â’r helynt a fu yng Nghaerfyrddin ’nôl yn 1964 yng Ngwyl Cymdeithas Ddrama Myfyrwyr Cymru.
10 Rhagfyr 2008
Bala, Berwyn a bwdaeth
Profiad rhyfedd yw cyfweld perthynas agos. Ydi, mae Glyn Baines yn ewythr. Mae gwneud cyfweliad o’r fath yn brofiad cartrefol a chwithig yr un pryd.
10 Rhagfyr 2008
Awdurdod yr Eglwys
Dwn i ddim faint o ddarllenwyr Barn fydd ag unrhyw ddiddordeb yn yr erthygl yma gan mai mater ymddangosiadol fewnol i’r Eglwys Anglicanaidd ydyw; hynny, a chofio hefyd fod grym crefydd yn treio’n enbyd yng Nghymru.
10 Rhagfyr 2008
Y Teigr Celtaidd?
Fe ddaethom i fyw fel teulu bach i Droichead Nua, neu Newbridge, yn swydd Kildare ym 1999. Tref fechan ddeng milltir ar hugain i’r de o Ddulyn yw hon, ar gyrion gwastadedd y Curragh, cartref i gae rasio ceffylau enwocaf Iwerddon, a chartref barics y fyddin Wyddelig.
10 Rhagfyr 2008
Y Brifwyl – Digon yw Digon
Y tro hwn, fodd bynnag, mae gen i amheuon ynglyn â chais diweddaraf awdurdodau’r Eisteddfod am arian ychwanegol.
10 Rhagfyr 2008
Ymlaen at Refferendwm?
Ddaru hynny ddim cymryd yn hir, naddo? Pan gyflwynwyd cyfundrefn ddeddfwriaethol newydd ar gyfer y Gymru ddatganoledig gwta ddeunaw mis yn ôl, roedd ’na ambell un ohonom eisoes yn darogan y byddai’r ....
10 Rhagfyr 2008
Noddi Cylchgronau
Gwelodd y flwyddyn hon gryn drafod ar hynt a helynt y wasg Gymraeg ar dudalennau’r cylchgrawn hwn, a gwn fy mod wedi neilltuo sawl colofn olygyddol i drafod y pwnc.
10 Rhagfyr 2008
ganDyfrig Jones
Oblegid ein plant…
Dwi’n sdîlio’n hun wrth sgwennu hwn, ac yn pwysleisio ar y dechra fel hyn nad ydw i’n galw am gau yr un ysgol, boed fawr neu fach, yn wych neu’n wachul.
12 Tachwedd 2008
ganBeca Brown
Pleidlais Americanwr
Gellir dweud rhywbeth tebyg am Geidwadwyr Prydain; nid ydynt yn geidwadol yn yr ystyr Americanaidd.
12 Tachwedd 2008
ganChris Cope
Popeth yn Gymraeg
Rhyw syllu ar fy mogail fy hun a chwalu meddyliau a wnawn. O edrych o gwmpas y trawstiau a’r décor glân a chwaethus yn y goleuni gwan cofiwn am y cyfarfodydd cynnar hynny pan...
12 Tachwedd 2008
ganHefin Wyn
Butch, Sundance a’r Wladfa
Efo gaucho’n marchogaeth y gorwel mae gweld enw teulu ap Iwan ar fynedfa yn Nant y Pysgod, Cwm Hyfryd yn eich cydio yn y gorffennol.
12 Tachwedd 2008
Dim dyfodol i’r Coleg Ffederal
A minnau’n rhannu cred greiddiol a di-sigl Dafydd Glyn Jones ym mhwysigrwydd addysg brifysgol cyfrwng Cymraeg i ddyfodol yr iaith, ac yn parchu’n fawr iawn ei arweiniad ynglyn a’r mater, teimlaf ei fod yn haeddu ymateb.
12 Tachwedd 2008
Senedd, nid arwisgiad
Mae nifer o bobl yn credu ei bod yn anochel y bydd y Tywysog William, yn hwyr neu’n hwyrach, yn cael ei arwisgo yn Dywysog Cymru.
12 Tachwedd 2008
Is-etholiad Glenrothes
Fe fydd rhai ohonoch yn cofio i mi ymweld a'r Alban llynedd, er mwyn adrodd ar ymgyrch yr SNP yn etholiadau seneddol.
7 Tachwedd 2008
ganDyfrig Jones
Americanwr oddi cartref
Ta beth, rydw i'n ysgrifennu atoch chi oherwydd chi yw'r unig un rydw i wedi ei weld ar y teledu.
7 Hydref 2008
ganChris Cope
Rhwng Cwsg ac effro
Dyna’r math o sefyllfa sy’n cael ei phortreadu yn nofel newydd Meg Wolitzer, The Ten Year Nap, lle mae Amy, Jill, Roberta a Karen yn ymlafnio efo’u ‘rhyddid’ newydd ar ôl deng mlynedd o fagu plant.
7 Hydref 2008
ganBeca Brown
Saunders, Gwynfor a Gadaffi
Cyn 1967, yn ôl D Tecwyn Lloyd, ‘bychan iawn [oedd] gwybodaeth y trwch o Gymry Cymraeg am unrhyw Iddewon diweddarach na rhai’r Testmanent Newydd.’
7 Hydref 2008
Ffiniau, Dewi Z Phillips
Beth sy’n nodweddu’r gyfrol fywiol, felly? Yn gyntaf oll, agosrwydd. Un agos-atom yw’r awdur; hynny yw, y mae’r person sy’n athronyddu lawn mor amlwg â’i athroniaeth.
7 Hydref 2008
ganTudur Hallam
Hawl i’r Gymraeg
Cyflwyna’r awdur dadansoddiad cyfreithiol ei naws o statws y Gymraeg, a hynny wedi ei osod yng nghyd-destun statws ieithoedd lleiafrifol ar draws y byd.
7 Hydref 2008
Cymru Fach
Doeddwn i ddim yn siwr, dau funud ar ôl dechrau gwylio ffilm Cymru Fach, ai ffodus neu anffodus oedd fy sefyllfa.
7 Hydref 2008
Golygyddol – Tir Glas Cymru
Nid llywodraeth leol yw’r pwnc trafod difyrraf dan haul. Mae gwasanaethu ar Gyngor Gwynedd wedi dysgu hynny i mi dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
7 Hydref 2008
ganDyfrig Jones
Hawl i’r Gymraeg?
Mae’n bur debyg mai’r lle naturiol i gychwyn yw drwy dy longyfarch di. Pleser o’r mwyaf ydi gweld llyfr fel hwn yn cael cymaint o sylw poblogaidd.
7 Hydref 2008
Yn ol i’r 70au
Mae’r ysgrifen ar y mur, ac un gair sydd yno’n fawr ac yn fras: chwyddiant. Mae ynganu’r term yn ddigon i anesmwytho’r rhai ohonom sy’n cofio’r 1970au, pan oedd prisiau’n codi hyd at 27% y flwyddyn, a Phrydain yn gorfod troi at yr IMF i gadw’r wlad allan o’r coch.
26 Gorffennaf 2008
Dirgelwch y Cryman
Wyddoch chi am y teimlad hwnnw a ddaw weithiau wrth ddarllen gwaith rhywun arall – yn sydyn mae’r awdur yn disgrifio eich union brofiad chi, yn mynegi eich meddyliau chi.
26 Gorffennaf 2008
Gwres yr haf
Gan nad oes unrhyw sicrwydd eto eleni y gwelwn ni’r haul yn taro’n boeth, dwi wedi penderfynu mai gwastraff amser ac egni yw hel meddyliau am hasls yr haf.
25 Gorffennaf 2008
ganBeca Brown
Strategaeth Addysg Gymraeg
O’r holl ymrwymiadau a geir yn y cytundeb clymbleidiol Cymru’n Un, diau fod nod creu Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg genedlaethol ymhlith y rhai mwyaf hirddisgwyliedig.
24 Gorffennaf 2008
Hanner Groeges yng Nghaerdydd
Beth amser yn ôl, bûm mewn cynhadledd lle cwrddais â menyw a oedd â chyfenw Groegaidd.
24 Gorffennaf 2008
Eisteddfodau bychain
Eisteddfod fach Ceidio. Dau o’r gloch y bore, a waliau’r hen gapel yn chwys diferol dan sang y cystadlu.
23 Gorffennaf 2008
‘Steddfod yn y ddinas ’78
‘Steddfod yn y ddinas.’ Dyna ddisgrifiad yr egin artist rhyngwladol Geraint Jarman o gyffro Eisteddfod Caerdydd 1978. Roedd yr wyl yn ymweld â’i gynefin concrit yn Llanedeyrn, safle a oedd yn dipyn gwahanol i fangre gwledig arferol yr Eisteddfod Genedlaethol.
23 Gorffennaf 2008
ganHefin Wyn
Ffiniau
Pan fu farw’r Athro Dewi Z.Phillips yn llyfrgell Prifysgol Cymru, Abertawe ar 25 Gorffennaf 2006, collodd Cymru athronydd gyda’r disgleiriaf a faged ganddi erioed.
23 Gorffennaf 2008
O’r Alban – Ymadawiad Alexander
Er mai Jamieson sydd wrth y llyw am y tro, mae trafodaeth frwd ynglªn â phwy ddylai arwain y blaid yn barhaol.
23 Gorffennaf 2008
Straeon Gwerin Ardal Eryri – J.O. Huws
Ar y pegwn arall mae gennych y llyfrau sy’n hynod ddifyr, ond heb fawr o ddylanwad na dyfodol.
23 Gorffennaf 2008
ganDyfrig Jones
Gwerin Gwlad
Saith ysgrif sydd yn y gyfrol gyntaf, a chwe ysgrifwr yn gyfrifol amdanynt. Cawn ddwy ysgrif o waith y Dr Brynley F. Roberts, Cyn-Lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un ar Edward Llwyd, Arloeswr Casglu Llên Gwerin a’r llall ar Cadrawd, sef Thomas Christopher Evans (1846-1918), gwr a elwir yn Ddyn y Filltir Sgwâr.
23 Gorffennaf 2008
ganD. Ben Rees
A Warrior’s Tale – Dai Smith
Brodor o’r Pandy yn Sir Fynwy oedd Williams, a’i deulu o’r Gororau, a chafodd ei fagu ar ffin hanesyddol gyda Lloegr.
23 Gorffennaf 2008
Becker-gate……a mwy
Yr ail beth fydd yn cael ei gofio am y bencampwriaeth yw’r ffaith i’r pedair prif ddetholyn yng nghystadleuaeth y merched golli mor gynnar.
23 Gorffennaf 2008
ganDot Davies
Bro a Bywyd Kyffin
Hawdd ydi dychanu’r math o Gymry goludog sy’n prynu lluniau Kyffin wrth y llath – yn enwedig y rheiny nad oes ganddyn nhw’r chwaeth na’r hyder i brynu gweithiau affliw o neb arall heblaw am Kyffin.
23 Gorffennaf 2008
Tsieina a’r Byd
Bedair blynedd yn ôl yn Athen, roedd y campfeydd yn dal i gael eu hadeiladu fis cyn dechrau’r gemau Olympaidd.
23 Gorffennaf 2008
ganGeraint Owen
Brendan Behan, Rhodri Glyn a Realpolitik
Nid dyma’r tro cyntaf i ffigyrau blaenllaw yn y Blaid ddefnyddio colofnau Golwg i bregethu efengyl undod a disgyblaeth.
23 Gorffennaf 2008
