Nigel Farage – neu Nigel ap Enoch?
Erbyn i’r rhifyn hwn o Barn ymddangos byddwn yn gwybod a lwyddodd UKIP i droi’r drol wleidyddol Brydeinig yn etholiadau Ewrop. Byddwn yn gwybod hefyd a oes sail i’r darogan y gall UKIP ennill cymaint â phum sedd yn yr etholiadau nesaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ond beth yw gwir...
Y Stabl Wag
Ydi Dyn y Llety wedi cael bai ar gam? Oes unrhyw sail ysgrythurol o fath yn y byd i Ddrama’r Geni, un o’n hoff ddefodau Nadoligaidd? Bu Enoch Powell, Saunders Lewis, Y Bardd Cwsg, yr Apostol Paul a chwrw’r Rising Sun yn cynorthwyo’r awdur efo’i ymchwiliadau. Chai byth wybod beth oedd...
“ Seren y Dwyrain” – papur bro Cairo a’r Dwyrain Canol
Saith deg o flynyddoedd yn ôl i’r mis hwn rhoddwyd cychwyn ym mhrifddinas yr Aifft ar un o’r mentrau cyhoeddi mwyaf hynod yn holl hanes y wasg Gymraeg. Rydym i gyd yn gyfarwydd ag anwybodaeth ein cymdogion agosaf o Gymru a’r Gymraeg. Nid fi yw’r unig un, mae’n siwr, sy’n...
Y Dyn Fu yn y Lleuad
I’r genhedlaeth a gododd yn afresymol o gynnar ar 20 Gorffennaf 1969 i weld y darllediad byw cyntaf o’r lleuad, daeth rhywbeth go arbennig i ben ar ddiwedd yr haf a aeth heibio. Roedd y dyn cyntaf i gamu ar y lleuad, Neil Armstrong, wedi cymryd ei gam olaf ar...
Ar Ddu a Gwyn
Dywedir weithiau bod gwleidyddion a chadfridogion y ganrif hon yn hiraethu am symlrwydd yr hen Ryfel Oer.
Camp a Rhemp: Eric Gill a Chymuned Hynod Capel Y Ffin
Ers sawl canrif mae Saeson wedi dod i Gymru er lles yr enaid a’r awen, o Joseph Turner i Led Zeppelin. Ac fe apeliodd y Gymru wledig anhygyrch at un o gerflunwyr mawr yr ugeinfed ganrif. Bu o gymorth iddo hefyd guddio rhai o’i arferion ffieiddiaf rhag y cyhoedd.
Saunders, Gwynfor a Gadaffi
Cyn 1967, yn ôl D Tecwyn Lloyd, ‘bychan iawn [oedd] gwybodaeth y trwch o Gymry Cymraeg am unrhyw Iddewon diweddarach na rhai’r Testmanent Newydd.’
Yn ol i’r 70au
Mae’r ysgrifen ar y mur, ac un gair sydd yno’n fawr ac yn fras: chwyddiant. Mae ynganu’r term yn ddigon i anesmwytho’r rhai ohonom sy’n cofio’r 1970au, pan oedd prisiau’n codi hyd at 27% y flwyddyn, a Phrydain yn gorfod troi at yr IMF i gadw’r wlad allan o’r coch.
