Cwrs y Byd: Oscar a Ched
Fel yr hed y frân – nid fod y frân, mewn gwirionedd, yn mudo o gwbl o’r ynysoedd hyn – mae yn agos i chwe mil o filltiroedd rhwng Pretoria yn Ne Affrica a Chaernarfon yng Ngwynedd. Ond cysylltir nhw, os nad gan frain, yna’n sicr gan ddau dderyn drycin....
Cwrs y Byd – Gymerwch chi sigarét?
Yn 1955 pan sgwennodd Saunders Lewis ei ddrama sigarennaidd doedd o, mwy na’r mwyafrif o bobol y cyfnod, ddim yn credu bod sigaréts yn angheuol. Yn wir yn y ddrama nid y sigarét eponymaidd sy’n beryglus ond y cas lle cedwir sigarennau. Lleolir y ddrama yn Fienna yn anterth y...
Cwrs y Byd – Kitchener a Brynsiencyn
Dwi ddim yn credu y byddai neb yn disgwyl i ganmlwyddiant cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf gael ei anwybyddu. Yn wir cytunai’r militarydd a’r heddychwr ei bod yn ddyletswydd arnom i gofio’r fath gyflafan a’r fath aberth. A chofio ydi’r gair allweddol. Yn sicr nid dathlu. Dyna a ddywedai ambell...
Cwrs y Byd – Pocedi Llawn, Cypyrddau Gweigion
Adroddwyd hyd at syrffed yn ystod y mis a aeth heibio mai Prydain yw’r seithfed wladwriaeth fwyaf cyfoethog yn y byd i gyd. Hawliwyd hynny ar sail canfyddiadau’r Ganolfan Ymchwil Economaidd a Busnes. Mae’r Ganolfan yn cyhoeddi cynghrair flynyddol o’r gwledydd mwyaf goludog. Cesglir y wybodaeth a’i phrosesu gan 750...
Cwrs y Byd – Camu o’r Tywyllwch
Sbïwch arni hi yn ei holl ogoniant yn y llun. Ers 2008 mae Kate Goldsworthy, y wraig efo’r lifrau a’r enw euraid, wedi bod yn esgob Anglicanaidd yn Awstralia. Wnaeth hynny ddim peri i’r cangarw roi’r gorau i sboncian ar hyd eangderau’r wlad. Ddaeth yr un crac i dalcen Ty...
Cwrs y Byd
Fydd y Diwygiad ddim ar y teledu, gyfaill Mewn llyfr yr wyf yn ymdrechu i’w sgwennu i wasg hynod amyneddgar Carreg Gwalch rhoddaf le canolog i Anghydffurfiaeth yn ogystal â diwydiant yn y broses o adeiladu’r genedl Gymreig fodern. Does dim rhyfedd, felly, imi foeli ’nghlustiau pan glywais John Roberts...
Cwrs y Byd – RS
Cafodd marwolaeth Margaret Thatcher sylw’r byd a’r betws – a Barn. (Mae sawl cyfeiriad ati yn y rhifyn hwn.) Unwaith yn unig y bûm i’n ei holi hi a hynny y tu allan i gatiau Rio Tinto, Caergybi yn 1980. Bellach daeth diwedd y daith i’r ddau fel ei gilydd,...
Cwrs y Byd – Troedigaethau?
Cymro o Gaerdydd, Ivor Novello, oedd cyfansoddwr Keep the Home Fires Burning (’Till the Boys Come Home), cân a fu’n gymaint o gysur i anwyliaid y bechgyn a frwydrai yn uffern y Rhyfel Mawr. Trosiadol, wrth reswm, yw’r tanau y cyfeirir atyn nhw. Ond rywsut rywfodd mi ydan ni hefyd...
Cwrs y Byd – Gee Ceffyl Blasus
Mae’r pethau rhyfeddaf yn gallu peri i benodau o’n gorffennol a aeth yn angof lamu’n eglur yn ôl i’r meddwl. Pwy fyddai wedi dychmygu am eiliad y byddai sgandal y byrgars a wnaed â dogn helaeth o gig ceffyl yn dod â ddoe yn ôl i mi? Ac nid i...
Cwrs y Byd – Cymwynas Charlie Symes
Dwi wedi bod yn darllen hunangofiant* Meic Stephens, y pwerdy-un-dyn hwnnw o olygydd, awdur, cyfieithydd a choffäwr. Nid yw Meic ei hun yn hollol sicr faint o lyfrau’n union sydd ganddo i’w enw. Fyddwn i ddim ymhell ohoni, fodd bynnag, pe mentrwn glandro bod cyfanswm ei gyhoeddiadau rywle o gwmpas...
Cwrs y Byd – Awr Dywylla’r Heddlu
Mi ydw i wedi cael cryn dipyn i’w wneud â phlismyn ar hyd y blynyddoedd. Fy ngwaith fel newyddiadurwr, prysuraf i esbonio, fu’n gyfrifol am hynny nid unrhyw duedd anghyffredin ynof i dorri’r gyfraith. Ar wahân, hynny ydi, i oryrru. Ar un achlysur cefais fy nhemtio i roi fy nhroed...
Cwrs y Byd – Y Gwych a’r Gwachul
Eisteddfodau Cenedlaethol y Gogledd yn unig dwi wedi bod yn ymweld â nhw yn y blynyddoedd diwethaf gan fynd a dwad ddwywaith neu dair yr wythnos yn fy nghar. Mae’n bur debyg mai adwaith yw hynny, yn rhannol o leiaf, i’r chwarter canrif a dreuliais yn darlledu’n ddyddiol o’r Maes,...
Cwrs y Byd – Croeso Chwedeg Nain Windsor
Er fy mod i’n hoff iawn o bêl-droed doeddwn i ddim ar dân eisiau gwrando ar sylwebaeth rownd derfynol Tlws yr FA yn Wembley y mis diwethaf rhwng Casnewydd a Chaerefrog. Ond clywais gychwyn y gêm ar radio’r car a chael fy synnu a’m rhyfeddu gan ymateb chwyrn cefnogwyr Casnewydd...
Cwrs y byd – Rhoi TAW ar Dy Dduw
Yn lle canolbwyntio ar yr hyn a wna llywodraeth San Steffan, gwell fyddai iddo roi sylw i’r hyn nad yw llywodraeth Cymru yn ei wneud.
Cwrs y Byd: Tynged yr iaith
Mewn cyfweliad teledu efo Aneirin Talfan Davies yn 1960, fe alwodd Saunders Lewis ei hun yn fethiant llwyr fel gwleidydd. Y cyfan a ddywedaf yw ei bod hi’n cymryd math arbennig iawn o fethiant i gyflawni’r hyn a wnaeth Saunders Lewis ym mis Chwefror eleni. Am wythnos gron fe lwyddodd,...
Cwrs y Byd: Ffiniau Nid Cyffiniau
Drwy Brydain benbaladr rhaid fydd gwneud i ffwrdd â 50 etholaeth. Bydd hynny’n gadael 600 o Aelodau Seneddol yn San Steffan.
Cwrs y Byd – Milwr, gweinidog a Dr Kate
Mae pob un o’r milwyr a oroesodd y Rhyfel Mawr wedi marw erbyn hyn. Ym mis Mai 2011 y claddwyd yr olaf ohonyn nhw, Claude Choule. Roedd o’n 110. Efallai mai oherwydd i ’Nhaid ddweud celwydd am ei oed ac ymrestru’n ddwy ar bymtheg oed y mae gen i’r fath...
Cwrs Y Byd – Airbus a’r Ysgol Fomio
Yno y cynhyrchir adenydd ffeibr-garbon, ysgafn ryfeddol, cenhedlaeth newydd o awyrennau a fydd angen 25% yn llai o danwydd na’r rhai presennol.
Trychineb Gleision
Siân James, Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe, oedd y person cyntaf i mi ei glywed yn ei ddweud o. Pan ddaeth y newydd fod pedwar o lowyr yn gaeth dan ddaear ym mhwll glo Gleision fe gyfaddefodd Siân fod hynny’n sioc enbyd iddi. Roedd hi wedi ei hen gysuro ei hun...
Dan Ddylanwad
Mae'r Cyfansoddiadau gyda'r gwerthwr gorau ym myd llyfrau Cymraeg bob blwyddyn. VAUGHAN HUGHES sy'n pwyso a mesur y gyfrol ddiweddaraf.
Cwrs Y Byd – Cymdeithas ‘Cenhadon Casineb’
Yn lle casau’r cestyll Seisnig, erbyn hyn daethom i sylweddoli mai symbolau o fethiant Lloegr i’n darostwng ydyn nhw. A’r methiant godidocaf un yw castell ysblennydd Caernarfon.
Cwrs Y Byd – Môn
Mae rhai problemau’n haws i’w datrys nag eraill. Yng Ngorffennaf 2006 fe ofynnodd BBC 1 i wylwyr ynysoedd Prydain ddod o hyd i gantores i chwarae rhan Maria von Trapp yng nghynhyrchiad newydd Andrew Lloyd Webber o <em>The Sound of Music </em>ar lwyfan Palladium Llundain. Erbyn mis Medi 2006 cafwyd...
Cwrs y Byd – Cestyll ein Balchder
Ddeugain mlynedd a rhagor yn ddiweddarach mae’r cerddi y cynhyrfwyd Gerallt Lloyd Owen i’w canu ym mlwyddyn yr Arwisgiad yn cael eu cydnabod fel rhai o gerddi gorau’r ugeinfed ganrif. Ac nid yw’r blynyddoedd wedi pylu dim ar rym y cerddi hynny. Maen nhw’n dal i roi mynegiant ingol i...
Cwrs Y Byd: Lle Aeth Pawb?
Flwyddyn union yn ôl ym mis Medi 2009 roedd ’na 17 o ddisgyblion yn yr ysgol. Ond pan ddeallwyd bod Cyngor Sir Ynys Môn yn mynd i gau’r ysgol, fe ddechreuodd y rhieni symud eu plant o’r ysgol gondemniedig.
Cwrs Y Byd – Hogiau Del
Ond o! wrth edrych eto ar y llun, roedd o ei werth o i gyd, Mami a Dadi, onid oedd o?
Cwrs y Byd – Ymweld â’r gorffennol
Fe dreuliais i’r rhan helaethaf o saithdegau’r ganrif ddiwethaf yng Nghaerdydd. Roeddwn i’n ifanc. Ac fe wnes i fwynhau’r ddinas. Sylwer mai’r ddinas ddywedais i. Nid y brifddinas. Doedd Caerdydd y cyfnod ddim yn ymarweddu fel prifddinas. Yn ei hunangofiant, Baglu ’Mlaen, mae Paul Flynn yn dyfynnu’r hyn a ddywedodd...
Cwrs y Byd – Pennaeth newydd Bangor
Wrth i Barn fynd i’r wasg mae Bwrdd yr Iaith yn cynnal ymchwiliad i ganfod a yw Prifysgol Bangor fel sefydliad ‘wedi methu â chyflawni ei gynllun iaith wrth hysbysebu am Is-Ganghellor’. Asgwrn y gynnen, wrth reswm, yw penderfyniad dadleuol Bangor i beidio â gwneud y gallu i siarad Cymraeg...
Cwrs y Byd – Eira
Pan fyddwn wedi cynhyrfu ac wedi mynd i banig llwyr, y peth cyntaf rydan ni’n ei golli ydi’r gallu i ymbwyllo a meddwl yn glir. A does dim byd tebyg i’r eira a ddisgynnodd yn ddiweddar i wneud inni ymddwyn yn afresymol. Fe wyddom i gyd fod ein cynghorau’n gorfod...
BARN – Ymlaen â ni!
Ymateb y golygyddion i benderfyniad y Cyngor Llyfrau i barhau i gefnogi Barn.Os byddwch chi’n chwilio am Barn ar y we mae’n ofynnol teipio’r gair ‘cylchgrawn’ o flaen ‘Barn’ cyn cychwyn. Heb hynny rydych yn debygol o gael mwy o wybodaeth nag sydd ei angen arnoch am y gwahanol fathau...
Cwrs y Byd – Betio, Bwcis a Beirdd
Nid yw’r wasg na’r cyfryngau Prydeinig yn cymryd dim sylw o Gymru. Dyna ein cwyn barhaus ni ynte? Neu gwyn yr anoraciaid yn ein plith, beth bynnag. O’m rhan fy hun fyddai hynny ddim yn fy mhoeni i’n ormodol oni bai am y ffaith afiach mai papurau a rhaglenni Lloegr...
Cyfiawnder i bawb – gan gynnwys gwleidyddion!
Dal i lusgo ymlaen mae sgandal y treuliau a hawliwyd gan aelodau seneddol San Steffan. Wrth iBarn fynd i’r wasg datgelwyd bod awdurdodau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn amau 27 ohonyn nhw o dorri’r gyfraith drwy osgoi talu trethi. Am y tro cyntaf yn f’oes mae gen i bob...
Ymadawiad Adam
Dwn i ddim pam y bu cyhoeddiad yr Aelod Seneddol Adam Price y bydd o’n rhoi’r gorau i gynrychioli Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn sioc i neb, mewn gwirionedd. Roedd o wedi dweud fwy nag unwaith nad oedd yn fwriad ganddo aros am oes yn San Steffan. Yn wir, wythnos...
Dic yr Hendre
Parodd ei farwolaeth i don o hiraeth sgubo dros Gymru. Synhwyrwyd yn reddfol ein bod, ym marwolaeth Dic, wedi colli Cymro hynod.
Diwedd Michael Jackson. Dechrau’r diwedd i deledu?
Ysgrifennir y golofn hon ar benwythnos pan fo’r papurau i gyd, y rhai trwm a’r rhai ysgafn, yn neilltuo erwau lawer o ofod i Michael Jackson a fu farw ar nos Iau 25 Mehefin yn hanner cant oed. Dyma’r canwr, y dawnsiwr a’r enaid clwyfus a dreuliodd ei oes fer...
“Parliment Uffernol”
Ellis Wynne, awdur Gweledigaeth Uffern, biau’r geiriau "Parliment Uffernol". Neu’n hytrach, yn yr hinsawdd dryloyw bresennol, fe ddylwn i esbonio nad y Bardd Cwsg, fel y cyfryw, biau’r geiriau. Milton ddaru eu defnyddio nhw gyntaf yn Paradise Lost. Teitl hynod o addas dan yr amgylchiadau. Ond, diolch i’r Daily Telegraph,...
Gerallt
Union ddeugain mlynedd yn ôl, yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Aberystwyth 1969, enillwyd y gadair gan Gerallt Lloyd Owen. Roedd ei ddilyniant buddugol yn cynnwys cerddi a ystyrir bellach fel rhai o glasuron pennaf barddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif. Bu’r bardd yn sgwrsio â Vaughan Hughes.
Y chwerthin sydd mor drist
Ryan a Ronnie: Bywyd Dau. Breuddwyd Un. Boom Films/S4C. Categori: 12A
Y Brifwyl – Digon yw Digon
Y tro hwn, fodd bynnag, mae gen i amheuon ynglyn â chais diweddaraf awdurdodau’r Eisteddfod am arian ychwanegol.
Bro a Bywyd Kyffin
Hawdd ydi dychanu’r math o Gymry goludog sy’n prynu lluniau Kyffin wrth y llath – yn enwedig y rheiny nad oes ganddyn nhw’r chwaeth na’r hyder i brynu gweithiau affliw o neb arall heblaw am Kyffin.
