Thema dywyll Thema golau

Bala, Berwyn a bwdaeth

Profiad rhyfedd yw cyfweld perthynas agos. Ydi, mae Glyn Baines yn ewythr. Mae gwneud cyfweliad o’r fath yn brofiad cartrefol a chwithig yr un pryd. Teimlwn fy mod yn gwybod yr atebion i rai cwestiynau cyn eu gofyn. Ac eto, oeddwn i?  

Do, bûm yn ymwybodol erioed o Yncl Glyn a’i hanes a’i luniau. Brawd fy nhad, y dyn a drodd ei gefn ar ffermio er mwyn mynd i goleg celf ond â rhywfaint o osgo’r ffermwr ynddo o hyd. Yn achlysurol, pan oeddwn yn blentyn, gwnaem y daith o Lanerfyl dros y Berwyn i’r Bala i weld Yncl Glyn a’i deulu. Byddai’r ty hwnnw, er mai ty modern digon cyffredin mewn stryd o rai tebyg ydoedd, o hyd yn fy nharo fel lle lliwgar a diddorol. Ni chofiaf amser pan nad oedd lluniau o waith Glyn i’w gweld ar hyd y waliau, lluniau lled haniaethol a’u lliwiau cryf a’u siapiau sgwarog yn denu’r llygad ac fel petaent yn cael eu hadleisio yng ngweddill y ty. Cofiaf fatiau ac arnynt flociau solet o liw, ac ambell soffa neu gadair giwbaidd, a hynny ymhell cyn bod sôn am Ikea. Oedd, roedd arwyddion drwy’r ty o’r ymhyfrydu cyffredinol mewn lliw a siâp, ac o’r parodrwydd i gyfosod lliwiau y byddai rhai mwy ceidwadol eu chwaeth eu hystyried yn elynion i’w gilydd. Ac eto, wyddwn i ddim yn iawn beth oedd yn gyrru’r dyn, beth oedd y tu ôl i’w luniau. Ac o fynd ati yn awr i’w holi, wyddwn i ddim sut atebion gawn i ganddo ychwaith, ac yntau ag enw am fod yn amwys wrth drafod ei waith ei hun. Un cyndyn o roi atebion pendant a fu erioed; gwell ganddo bob amser yw annog eraill i ddehongli ei waith. Ond yn awr, dyma fi, ei nith, eisiau ei holi’n dwll, a’r llyfr nodiadau yn ddisgwylgar wag. Yn chwilfrydig, ac ychydig yn nerfus, felly, yr es i Oriel ac Amgueddfa Gwynedd, Bangor, i’w gyfarfod.  

Profiad go wahanol yw cyfweld artist a oedd yn un o ddisgyblion Glyn Baines yn Ysgol y Berwyn gynt. Dros y ffôn y digwyddodd hynny, ac Iwan Bala ynghanol ei brysurdeb. Yn wir, y mae yntau erbyn hyn yn dysgu pobl ifanc, fel darlithydd amser llawn mewn celf yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae’n byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd maith, ond yn treulio rhan o’r wythnos mewn caban pren yng Nghenarth. Wrth gysylltu ag ef yn y Drindod, rwy’n cael cyfarwyddyd i roi ‘caniad ar y ffôn symudol gan ’mod i’n crwydro rownd y stiwdios efo’r myfyrwyr yn hytrach nag eistedd yn y swyddfa’. Prysur neu beidio, dyma artist sydd yn ei elfen yn trafod ei waith ei hun. Dros y blynyddoedd mae wedi gwyntyllu ei syniadau am gelfyddyd weledol mewn cyfweliadau ac erthyglau rif y gwlith. Mae’n awdur sawl cyfrol, ac wedi cymryd rhan mewn llu o gynadleddau, o Gregynog i Efrog Newydd. Neidiodd ar bob cyfle i gydweithio ag artistiaid mewn cyfryngau eraill, gan gynnwys beirdd ac awduron. Mae ei wefan yn crynhoi’r holl weithgaredd hwn, yn dangos detholiad o’i luniau ac yn eich gwahodd i ‘ymholi am brisiau’. Ydyw, yn y Gymru Gymraeg ddosbarth canol, Cymru’r Eisteddfod a’r pethe, mae Iwan Bala bron yn eiddo cyhoeddus. Daeth ei ddelweddau – yn fapiau o Gymru, yn eiconau Cymreig ac yn ffigurau noeth, moel eu hamlinell – yn rhan annatod o’r seice cenedlaetholgar modern, neu ôl-fodern. Enillodd lu o wobrau, ac mae’n un o dri artist o Gymru (ynghyd â Christine Mills a Mary Lloyd Jones) sydd wedi’u dewis gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru i arddangos eu gwaith yn China y flwyddyn nesaf trwy gynllun a ariennir gan y Cyngor Prydeinig. Ac wrth ateb cwestiynau, y mae mor huawdl ag erioed. 

Fel pawb o’i gyd-artistiaid a fynychodd Ysgol y Berwyn, Catrin Williams ac Angharad Jones y gof yn eu plith, mae Iwan Bala yn sôn am Glyn Baines fel dylanwad cynnar allweddol ac fel ysbrydolwr. 

‘Efo Glyn, ro’n i’n teimlo ’mod i efo artist ac nid efo athro. Mewn ffordd, doedd o ddim yn ein dysgu ni, neu o leia’ doedd o ddim yn dysgu’r pethau yr oedden ni i fod i’w dysgu. Yn lle hynny, roedd o’n rhoi rhwydd hynt i chi ddatblygu be roeddech chi isio’i ddatblygu. Doedd o ddim yn ddisgyblwr.’ 

Nag oedd wir. Clywais chwedlau am awyrennau papur yn hedfan heibio i glustiau Glyn Baines yn y dosbarth ac yntau ddim callach. Mae ef ei hun yn dweud fel na fu erioed yn gwbl gartrefol yn sefyll o flaen dosbarth o blant, er iddo ddysgu am 23 blynedd. Mae’n cyfaddef hefyd na lwyddodd erioed i lunio rhaglen waith am y tymor neu’r flwyddyn, er gwaethaf ymdrechion dygn y prifathro (sef ei gefnder, Iwan Bryn Williams) i gael darn papur o’r fath allan o’i groen. Roedd ei fethiant i wneud pethau disgwyliedig o’r fath yn creu euogrwydd a straen ynddo.  

‘Mi fyddwn yn mynd yn chwys oer drostaf weithiau wrth feddwl be oedd i fod i ddigwydd nesa’. Dwi ddim yn ddyn rhesymegol. Hanner yr amser, ro’n i ar goll! Ond wedyn, roedd fy niddordeb i yn y pwnc yn ddigon cry’ i wrthbwyso’r pethau negyddol yma, ac o’n i’n cael pleser mawr mewn darganfod dawn a gallu ymhlith y plant, a hynny weithiau yn gwbl annisgwyl.’ 

Beth y mae’r athro’n ei gofio am luniau Iwan Roberts (fel ag yr oedd o ar y pryd)? Yn sicr fe wnaeth mab prifathro ysgol Gwyddelwern, a Sarnau cyn hynny, argraff arno o’r dechrau. 

‘Roedd Iwan wastad yn gwneud rhyw luniau gwahanol. Roedd o’n gwneud rhyw ffigurau noeth ar grid o linellau, ac weithiau ffigurau cartwnaidd braidd, a goruwchddynol, fel Batman a Superman. Roedd ganddo bersbectif cry’.’  

Mae Iwan yn ei dro yn cofio anogaeth frwd yr athro. Nid ei fod yn canmol y peth disgwyliedig bob amser chwaith. ‘Dyna lle fyswn i,’ meddai, ‘yn teimlo reit falch ohonof fy hun, yn meddwl ’mod i wedi gwneud llun grêt, ond yn hytrach nag ymateb iddo fel cyfanwaith, fase Glyn yn craffu ar ryw fodfedd sgwâr yn y gornel isa’. Fase fo’n defnyddio’i law i gysgodi’r gweddill ac yn deud, “Dew, dwi’n licio hwn”. Yr hyn fase wedi mynd â’i sylw fo fase rhywbeth ynglyn â’r gwead, un strôc brwsh yn erbyn y llall.’ 

A dyna amlygu, yn gynnar, y gwahaniaeth agwedd tuag at gelf sydd rhwng yr athro a’i ddisgybl hyd heddiw. Syniadau am iaith, diwylliant a hunaniaeth Cymru – a’i hunaniaeth ef ei hun fel Cymro (ond ‘Nid Celt’, chwedl teitl un o’i luniau diweddar) – sy’n mynd â bryd Iwan. Er nad yw’n hoff o gael ei alw’n ‘artist gwleidyddol’, mae’n ystyried llun fel ‘rhyw fath o draethawd, neu rywbeth sydd rhwng bod yn gerdd a bod yn draethawd’. Y mae hyd yn oed yn fodlon arddel gair fel ‘pregeth’, yn enwedig mewn perthynas â delwedd yr ynys a fu’n rhan ganolog o’i waith ers blynyddoedd. Ac y mae’n gweld ei waith ysgrifenedig, yn ‘esbonio’ ei luniau, fel estyniad naturiol o’r gwaith gweledol. Ar y llaw arall, ffurf, gwead a lliw sy’n diddori Glyn, a hyd y gwn i nid ysgrifennodd unrhyw beth erioed am ei waith. Efallai mai tirluniau haniaethol yw’r disgrifiad gorau o drwch ei luniau, yn cyfleu mewn llinell a lliw fôr ac awyr, caeau a chloddiau, creigiau ac agennau, ynghyd â’r lleuad hollbresennol. Canlyniad crwydro yng nghefn gwlad, yn enwedig arfordir Llyn, yw llawer o’r lluniau. Bydd yn aml yn mynd â’i gamera i’w ganlyn er mwyn cofnodi ambell beth sy’n denu ei lygad. Yn Oriel Bangor, mae’n dangos pentwr o ffotograffau o gerrig mawr a bach imi, cerrig a welodd ym Mhorth Meudwy – un o’i hoff lefydd – ac ôl traul y tonnau’n drwm arnynt. Yn ôl yn y stiwdio adre yn y Bala, bydd ffotograffau fel y rhain yn procio’i gof am yr hyn a welodd. 

‘Alla i ddim dweud fod yna gysylltiad uniongyrchol rhwng y ffotograffau yma a’r lluniau gorffenedig. Ond mae’r argraffiadau yma’n mynd trwy ryw felin ac yn dod allan, rywsut, yn yr hyn dwi’n ei baentio. Does yna ddim neges na dim byd, dim ond cariad at bethau – rhyw froc môr, yr hen ddaear yma ac ati.’ 

Yn ogystal â’r crwydro, mae’r broses o baentio ei hun yn difyrru ac yn ysgogi Glyn Baines. Sonia am y pleser o wasgu paent o diwb newydd neu rwygo papur ar gyfer ei ddefnyddio mewn llun, boed hynny o hen amlen neu o rolyn anferth o bapur brown fel y rhai a gaiff gan gyfaill sy’n trwsio ceir. 

Ni fu’r llwybr i fyd celf yn un hawdd i Glyn nac Iwan. Ac yntau’n enedigol o Garrog ger Corwen, gadawodd Glyn yr ysgol (Ysgol Ramadeg y Bala) yn 15 oed i weithio ar fferm ei dad. Ond ffermwr anfoddog ydoedd, ac wedi i’r teulu symud o Garrog i fferm yn Sarn, Llyn, dechreuodd fynychu dosbarthiadau nos D. C. Roberts, a oedd yn athro celf yn Ysgol Botwnnog. A dyna agor y drws i fyd newydd. Yn yr un cyfnod, daeth ar draws cylchgronau celf fel The Studio Magazine a oedd yn dangos gwaith celf cyfoes, a chael ei gyfareddu gan waith artistiaid St Ives, yn enwedig gwaith yr arlunydd naïf Alfred Wallis a lluniau haniaethol Ben Nicholson. Er hynny, nid ar chwarae bach yr oedd troi cefn ar fferm ei dad. Mae’n cofio cael llythyr gan Tomos Ifan Edwards, ei brifathro gynt yn ysgol Carrog – a gwr a fu’n ei ddysgu i wneud teganau pren yn y dosbarth – yn ei rybuddio i ystyried yn ddwys cyn mynd i goleg celf.  

‘Dwi’n dal i gofio ei eiriau. Roedd o’n fy rhybuddio i fod “duwies celfyddyd yn hawlio llawer ymdrech, llawer gofid a dagrau’n lli”, ac yn fy nghynghori i gadw llwybr dihangfa yn agored yn ôl “at grefft gyntaf dynol-ryw”.’ 

Ond roedd yr ysfa i baentio yn gryfach nag unrhyw rybudd, ac yn 1961, ac yntau heibio’i ddeg ar hugain, aeth Glyn i Goleg Celf Wrecsam. Mae’n cofio cyrraedd yno heb ddim i’w ddangos heblaw ambell sgets o’i wraig, Dona. Mae hefyd yn cofio straen ariannol y pedair blynedd yn Wrecsam wrth geisio cynnal teulu – roedd ganddynt ddau fab ar y pryd – heb ddim cyflog ar wahân i’r ychydig a enillai yn helpu ar fferm leol ymhlith pethau eraill. Dyma a wnaeth iddo, yn y diwedd, droi at ddysgu, gan ddilyn cwrs hyfforddiant yng Ngholeg Celf Caerdydd a chymryd swydd yn Ysgol y Berwyn, er nad oedd erioed wedi meddwl mynd yn athro. A dyna ddechrau ar yrfa a rychwantodd bron i chwarter canrif. 

Ynghanol y 1970au, tua deng mlynedd wedi i Glyn adael Coleg Celf Caerdydd, roedd Iwan Bala yn dechrau astudio yn yr un coleg. Nid oedd y penderfyniad i fynd i fyd celf, iddo yntau ychwaith, yn un a wnaed dros nos. Er cymaint o greadigrwydd a oedd o’i gwmpas yn ardal y Bala – dywed fod y peth ‘yn y pridd’ yno a sonia am ambell ragflaenydd o artist megis Ifor Owen – doedd yna ddim traddodiad, fwy nag yng ngweddill cefn gwlad Cymru, o fynd i goleg celf. Roedd ei rieni am iddo gael ‘addysg go iawn’, ac mae’n debyg mai i’w plesio nhw yr aeth i ddechrau i’r brifysgol yn Aberystwyth, i astudio economeg ac astudiaethau cymdeithasol. Ond buan y daeth yn amlwg iddo nad yno yr oedd ei le a gadawodd ar ôl blwyddyn i fynd i Gaerdydd.  

Siom a gafodd Iwan Bala yng nghwrs Coleg Celf Caerdydd, yn bennaf oherwydd ei Seisnigrwydd ar y pryd. Doedd dim amdani ond dilyn ei drwyn ei hun. ‘I raddau, wnes i ddysgu fy hun i baentio,’ meddai. Yn niwedd y 1970au ac yn ystod y 1980au, datblygodd hinsawdd ddiwylliannol a oedd yn fwy ffafriol i’r math o gelfyddyd yr oedd Iwan am ei chreu. Daeth yn aelod o Beca, grwp o artistiaid a sefydlwyd gan Paul Davies ac a oedd yn mynd ati’n fwriadol i greu celfyddyd weledol a oedd yn berthnasol i Gymru. Dyma hefyd y cyfnod pan oedd Peter Lord ac eraill yn dechrau ailasesu’r traddodiad celfyddydol Cymreig a hynny o dan ddylanwad mudiad ôl-fodern byd-eang. Hyd heddiw, yr un ymwybod â hanes a gwreiddiau a diwylliant sy’n ysgogi Iwan Bala i greu, ac yn ei ddenu hefyd at artistiaid gwledydd ôl-drefedigaethol, gan gynnwys Zimbabwe (lle bu’n artist preswyl yn 1990), Mecsico a Chiwba. Mae’n sôn am fod ‘ynghlwm’ wrth ei themâu a’i syniadau, ac yn hoff o ddyfynnu ‘Hon’ T. H. Parry-Williams fel cerdd sy’n crisialu ei deimladau yntau fel artist o Gymro. 

Yn y cyfamser, yn ôl yn Oriel Bangor, dyfynnu cefnder Parry-Williams y mae Glyn Baines. Un o’i hoff gerddi yw ail soned ‘Gadael Tir’ lle mae’r bardd yn ei ddisgrifio’i hun fel ‘un na wybu gariad ond at bridd’. Ac fel ei gyn-ddisgybl, mae yntau’n sôn am ‘gaethiwed’. Ond caethiwed i’r ysfa greadigol ei hun ydyw yn ei achos ef, ac i’r broses annorffen o greu. Roedd yn paentio trwy gydol yr amser y bu’n dysgu, ac ers ymddeol yn 1989 y mae wedi paentio mwy fyth, gan ddal ati hyd yn oed yn ystod cyfnod o salwch ymddangosiadol ddifrifol ynghanol y 1990au. Bryd hynny dywedwyd wrtho fod canser wedi lledaenu drwyddo ac awgrymwyd nad oedd ganddo ond ychydig fisoedd i fyw. 

‘Oedd, roedd hynny’n brofiad ofnadwy. Roedd y doctoriaid wedi fy ngwneud yn “write-off”! Ac eto, doedd gen i ddim ofn. Ro’n i’n mynd i farw a dyna fo.’ 

Fodd bynnag, ciliodd y symptomau a chyn bo hir roedd Glyn Baines o gwmpas y Bala ar ei feic eto nes i rai trigolion ddechrau cyfeirio ato fel y ‘miracle man’. Mae’n credu heddiw mai camddeiagnosis oedd y cyfan. Ac mae’n priodoli ei agwedd stoicaidd ar y pryd at y syniad ei fod yn mynd i farw i’r math o bethau yr oedd yn eu darllen. Dyma’r cyfnod y dechreuodd ddarllen am Fwdaeth, a chael fod llawer o’r syniadau am fywyd a marwolaeth yn taro tant ynddo, ac yn gwneud iddo gredu ‘bod lle i rywun fel fi’. Dylanwad cryf arall arno fu syniadau’r seicolegydd Gwilym O. Roberts, gwr amgen ei syniadau am Gristnogaeth. Mae rhai o hoff ymadroddion Gwilym O. yn britho sgwrs Glyn wrth iddo sôn am y tirlun, am effaith y tirlun hwnnw arno fel artist ac am wedd ysbrydol celfyddyd – ‘yr harddwch didymhorau’, y ‘llonyddwch effro’ a’r ‘mwynder maith’. Oes, mae yma fwy na ‘phethau’ wedi’r cwbl. 

Ar un ystyr, mae’n od meddwl mai ym Mhenllyn y croesodd llwybrau’r ddau arlunydd tra gwahanol hyn. Gyda’i gerdd dant a’i gynganedd, prin fod Penllyn yn lle y byddai rhywun yn ei gysylltu â herfeiddiwch arbrofol ym myd y celfyddydau. Ond does bosib nad yw gwaith Glyn Baines ac Iwan Bala – y naill â’i ymateb dychmygus i’r tirlun a’r llall yn archwilio’i hunaniaeth trwy ei ddelweddau hy’– yn gyfraniad at chwalu’r syniad mai rhywbeth yn perthyn yn annatod i’r byd dinesig yw celfyddyd sy’n gwthio’r ffiniau.  

Glyn Baines ac Iwan Bala, Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor, tan 23 Rhagfyr. 


Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl

Awdurdod yr Eglwys

Ymlaen >

Y Ddrama Na Sgwennodd Ionesco