Thema dywyll Thema golau

Band tribute Tony Blair

Keir Starmer ar risiau Rhif 10, Stryd Downing Keir Starmer ar risiau Rhif 10, Stryd Downing

Yng ngeiriau enwog Karl Marx, ‘mae hanes yn ei ailadrodd ei hun – y tro cyntaf ar ffurf trasiedi a’r ail dro fel ffars’, ac yn y goleuni hwnnw y gwêl ein colofnydd lywodraeth bresennol Keir Starmer wrth i afael meddylfryd ‘Llafur Newydd’ Tony Blair arni ddod yn gwbl amlwg

Erbyn hyn, bu Llafur mewn grym yn Llundain ers ychydig dros chwe mis. Digon o amser, felly, i’r gweinidogion newydd gael eu traed o dan y bwrdd ac i ddechrau deall hyd a lled eu cyfrifoldebau newydd. Digon o amser iddynt ddeall pwy ydi pwy – a phwy sy’n abl i wneud beth – o blith staff eu swyddfeydd gweinidogol ac i ddechrau o ddifri ar y gwaith o weithredu eu cynlluniau. A digon o gyfnod i’r gweddill ohonom ddechrau gallu pwyso a mesur natur a safon llywodraeth Keir Starmer.

A’r dyfarniad? Yn syml iawn, mae pob arwydd fod hon yn llywodraeth ddi-glem a digyfeiriad: llywodraeth Brydeinig arall sy’n syrthio’n brin o hyd yn oed ein disgwyliadau isaf.

Rŵan, mae’n rhaid bod yn deg. Ni ellir amau nad yw llywodraeth Lafur Llundain wedi etifeddu cythraul o lanast. Ar ôl blynyddoedd o gyni, mae ein gwasanaethau cyhoeddus ar eu gliniau, ac effeithiau hyn i’w gweld ar bob tu. At y rhestrau aros hirfaith yn ein gwasanaeth iechyd y byddwn yn tueddu i gyfeirio wrth geisio llaw-fer gyfleus er mwyn cyfleu pa mor enbyd yw cyflwr y wlad. Mae hynny’n ddigon teg o gofio bod pob ystadegyn moel yn dynodi stori bersonol o ofid ac yn aml dioddefaint diangen. Mae’r budreddi a’r sbwriel wrth ymyl ein strydoedd a’n priffyrdd yn enghraifft arall o’r dirywiad yng ngallu cyffredinol cymdeithas i ymorol gyda balchder am gysuron bywyd mwyaf elfennol dinasyddion ein gwlad. Yn wir, a minnau bellach yn gweld llu o lygod mawr eofn yn stelcian yng nghanol Caerdydd bob tro yr wyf yn cerdded adref o’r gwaith fin nos, mae pethau’n ymddangos mor llwm fel mai peth hawdd iawn fyddai mynd i boeni ynglŷn â ffawd gwareiddiad ei hunan.

Nid bai Llafur mo hyn i gyd, wrth gwrs. Yn sicr, nid eu bai nhw ydi’r ffaith fod y cytundeb annigonol ac anghyfrifol y bu i lywodraeth gwaradwyddus o wael Boris Johnson ei negodi er mwyn sicrhau Brexit yn golygu bod y posibiliadau ar gyfer sicrhau llewyrch economaidd mor brin. (Ond, a ninnau’n ceisio bod yn deg, rhaid cofio hefyd fod Aelodau Seneddol Llafur wedi pleidleisio o blaid y cytundeb hwnnw yn y pen draw rhag iddynt dynnu blewyn o drwyn y Daily Mail a’i debyg.) Nid bai Starmer a’i gyd-bleidlwyr yw’r ffaith fod Brexit – syniad ynfyd ar y gorau – wedi digwydd ar yr union adeg pan oedd y drefn fasnachu ryngwladol honno yr oedd Brexitwyr yn dibynnu arni yn prysur ddadfeilio. Hynny cyn fod sôn am ail gyfnod i Trump yn y Tŷ Gwyn gyda’i dollau a’i ryfeloedd masnach.

Felly, oes, mae angen cydnabod bod yr amodau y mae Llafur yn ceisio llywodraethu oddi tanynt yn rhai anodd drybeilig. Yn yr un modd, mae angen cydnabod bod unrhyw lywodraeth ddibrofiad – ac ar ôl pedair blynedd ar ddeg o lywodraeth Dorïaidd, roedd diffyg profiad yn anorfod – yn siŵr o roi ambell i gam gwag: wele benodiad aflwyddiannus Sue Gray fel pennaeth staff y Prif Weinidog. Eto, ni ddylem fod yn rhy llawdrwm ynglŷn â hynny.

Ond wedi’r holl amodi angenrheidiol, siawns fod diffyg uchelgais, diffyg gweledigaeth ac, yn wir, diffyg rhuddin llywodraeth Starmer yn amlwg. Dyma regime sydd fel petai’n bodloni ar fod ychydig yn llai blêr a diofal na’r llywodraethau a’i rhagflaenodd, sy’n fawr o gamp, wrth gwrs. Mae hyn mewn cyd-destun lle mae’r anghenion tymor byr ynghyd â’r heriau hir dymor – newid hinsawdd, poblogaeth sy’n heneiddio, ac ati – mor frawychus o fawr.

Y cwestiwn amlwg ydi pam? Pam y mae’r cyfan mor annigonol a di-fflach? Go brin fod yna un esboniad sy’n egluro popeth, ond dyma fy namcaniaeth i er mwyn i chi gael cnoi cil arni. Yn syml, rhan fawr o’r broblem yw bod adain dde’r Blaid Lafur gyfoes yn methu’n llwyr â dianc o gysgod Tony Blair a ‘Llafur Newydd’.

Cyn symud i Gaerdydd, rhaid cyfaddef mai dealltwriaeth llyfr yn unig oedd gennyf o’r Blaid Lafur. Roedd ei diwylliant mewnol yn ddirgelwch i mi. Ers i mi gael y cyfle i ddod i’w hadnabod yn well, yr hyn sydd wedi fy nharo yn fwy na dim arall yw pa mor gwbl ganolog ydi’r hollt rhwng y dde a’r chwith i bopeth yn y blaid. Nid gor-ddweud mo hyn chwaith. Hyd y gwelaf, fe lwyddir i ddehongli unrhyw fater, waeth pa mor annhebygol, trwy brism y frwydr oesol rhwng dwy adain ideolegol y Blaid Lafur.

Anodd hefyd fyddai gorbwysleisio’r chwerwedd sydd ynghlwm wrth y rhwyg. Mae gelyniaeth y chwith tuag at adain dde eu plaid eu hunain yn stori gyfarwydd. Ond yr hyn sy’n llai cyfarwydd, efallai, yw’r graddau y mae’r dde yn ystyried mai eu hochr nhw o’r blaid ydi cartref y bobl foesol-ddifrifol. Y rheswm am hynny – yn eu tyb hwy o leiaf – yw mai’r adain dde ydi’r bobl hirben a doeth sy’n fodlon ‘gweld y byd fel y mae’ wrth wneud ‘y penderfyniadau anodd’. I’r dde, felly, mae Rachel Reeves yn berson mwy difrifol ac yn wir yn berson gwell na darpar ganghellor Jeremy Corbyn, John McDonnell, nid oherwydd unrhyw ddoniau arbennig neu gyraeddiadau rhagorach, ond yn unig oherwydd ei bod yn gysylltiedig ag ochr ‘gywir’ y blaid. Yn naturiol felly, dehonglir hanes y blaid trwy’r un prism ac mae hynny’n dod â ni at Tony Blair.

Afraid dweud bod chwith y Blaid Lafur yn tueddu i fod yn negyddol iawn ynghylch y gŵr a fu’n Brif Weinidog am ddegawd wedi 1997. Gan mai dyma hefyd farn trwch y cyhoedd, bu’n rhaid i’r dde gadw ei hedmygedd ohono’n dawel – am flynyddoedd, roedd yn rhywbeth i’w gyfaddef yn hwyr y nos yn hytrach na’i ddatgan i’r byd. Ond wrth i’r arolygon barn awgrymu bod Llafur ar fin ailafael yn awenau grym, fe ddaeth hi’n amlwg fod y gwleidyddion a’r swyddogion hynny oedd yn gysylltiedig â Blair – gan gynnwys y dyn ei hun – yn cael eu gwahodd yn ôl i gynghori’r sawl a fyddai’n rhan o’r llywodraeth newydd. Yn fwy na hynny, er na ellir clochdar am y peth yn gyhoeddus, mae’n amlwg mai llywodraeth ‘Llafur Newydd’ Blair oedd ac yw’r patrwm ar gyfer llywodraeth Starmer.

Peidiwch â’m camddeall. Ar un ystyr mae hyn yn synhwyrol – gan fod y to presennol o wleidyddion Llafur yn Llundain heb gael y profiad o lywodraethu, byddai’n ffôl iddynt beidio â manteisio ar brofiad y genhedlaeth hŷn. Y broblem yn hytrach yw’r ffaith fod adain dde’r Blaid Lafur wedi penderfynu bod polisïau ac ymagwedd gyffredinol eu rhagflaenwyr hefyd yn gywir, a hynny er gwaetha’r ffaith fod yr amgylchiadau bellach yn gwbl wahanol a phan fo’r dystiolaeth yn awgrymu bod rhai o’r polisïau yma wedi methu hyd yn oed ar eu telerau eu hunain. Ac wrth gwrs, po fwyaf y bu’r chwith yn bytheirio’n erbyn rhyw bolisi neu’i gilydd – megis defnyddio arian o’r sector breifat i fuddsoddi yn y sector gyhoeddus – mwyaf sicr y daeth Starmer, Reeves a’u cymrodyr eu bod ar y trywydd cywir, a hynny’n llythrennol costied a gostio.

Mae’n ddeinamig anffodus, a dweud y lleiaf, a’r cyfan yn atgoffa dyn o eiriau enwog Marx ynglŷn â’r ffordd y mae hanes yn tueddu i’w ailadrodd ei hun. Do, fe gyflawnodd llywodraethau Blair lawer, gan gynnwys datganoli, ond o ystyried cyflwr yr economi a etifeddodd, fe allai ac fe ddylai fod wedi cyflawni llawer iawn, iawn mwy na hynny. Ac wrth brofi’n rhy barod i blygu glin gerbron allor y farchnad rydd (a hynny yn enw bod yn realistig o hirben, a gwneud y ‘penderfyniad anodd’ ac ati) fe heuwyd hadau argyfwng ariannol mawr 2007–8 a pholisïau cyni llywodraeth Cameron a Clegg. Dyna drasiedi Llafur Newydd.

Hyd yma, nid yw llywodraeth Starmer wedi bod yn ddim amgen na fersiwn tribute treuliedig a charpiog o lywodraethau Blair a hynny er gwaethaf etifeddu amgylchiadau ac amodau sy’n gwbl wahanol ac sydd felly’n hawlio ymateb cwbl wahanol i’r hyn a welwyd tua throad y ganrif. Eisoes fe ymddengys fod Llafur yn prysur wastraffu’r cyfle – a’r mwyafrif anferthol – a ddaeth i’w rhan ym mis Gorffennaf y llynedd. Fe fydd Nigel Farage wrth ei fodd – ac felly hefyd lygod mawr Caerdydd.

< Yn ôl
Tom Waters yng ngegin Gorse

Seren Michelin i fwyty’r eithin

Ymlaen >

Cip ar weddill rhifyn Mawrth