Ac nid amhriodol mo hynny. Ers 1962 ysguboriwyd o fewn i’r cylchgrawn Barn hanes rhyfeddol cenedl y Cymry. Roedd ein rhifyn cyntaf yn ymddangos yn fuan ar ôl cyhoeddi Cyfrifiad torcalonnus 1961 a ddatgelodd ein bod ni wedi colli un siaradwr Cymraeg bob chwarter awr drwy gydol y deng mlynedd a aeth heibio ers y sensws blaenorol. Brawychwyd Cymru. Yr oeddem yn rhythu yn llygaid marwolaeth y Gymraeg. Ond bu’r braw hwnnw’n ddigon i’n deffro. Yn 1962 y traddododd Saunders Lewis y ddarlith a fu'n drobwynt yn ein hanes, Tynged yr Iaith. ‘Drwy ddulliau chwyldro yn unig’, medda fo, yr oedd mynd ati i achub y Gymraeg. O fewn dim o dro cychwynnodd ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith. Dihunodd Cymru o’i thrwmgwsg. Daeth achub y Gymraeg ac ymorol am hawliau sifil y genedl hon yn rhan o chwyldro byd eang a wnaeth y blaned yn decach lle i’r gorthrymedig, beth bynnag fo eu lliw, eu rhyw neu eu rhywioldeb.
I’r byd cyffrous hwnnw y camodd Barn ym 1962. Mor anrhydeddus yw’r arweiniad a roddodd Barn i’r genedl, yn enwedig dan ei drydydd golygydd, Alwyn D. Rees, nes gwarantu’r cofnod hwn yn y Cydymaith: ‘Cydnabyddir yn gyffredinol fod llwyddiant yr ymgyrchwyr dros yr iaith Gymraeg tua diwedd y 1960 a dechrau’r 1970au i’w briodoli yn rhannol i’r dadleuon a gyflwynwyd ar dudalennau Barn, y rhan fwyaf ohonynt gan y golygydd.’
Byth ers hynny, drwy don ar ôl ton o fewnfudwyr, drwy ddad-ddiwydiannu blin, drwy erydiad y bröydd Cymraeg a’r gobaith a ddaeth o’r de-ddwyrain, a thrwy gamau petrus Cymru tuag at hunanlywodraeth, safodd Barn yn y bwlch.
Diolch i’r Cyngor Llyfrau, ein cyfranwyr dawnus, ac i chwi ddarllenwyr Barn a fu’n gyfrifol am gynnydd o dros 20% eleni yn ein gwerthiant, bydd y cylchgrawn yn parhau. Mae hynny’n profi, yn oes y sound bite a’r arwynebol, bod yr awydd yn parhau i drin mewn dyfnder hynt a helynt, camp a rhemp, ein cenedl. I olygyddion gwerthfawrogol, dyna’r calondid pennaf.
Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.
Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.
Mewngofnodi
Cofrestru

