Thema dywyll Thema golau

Barry John a Barn

Barry John ar glawr Barn, Medi 1971,  a Carwyn James Barry John ar glawr Barn, Medi 1971,  a Carwyn James
Bu gan Barry John gyswllt agos â BARN. Dros y blynyddoedd cyhoeddwyd sawl erthygl dreiddgar ganddo am fyd rygbi, yn enwedig yn ystod cyfnod golygyddiaeth Rhydwen Williams ar ddechrau’r 1980au. Roedd dau gwlwm pwysig rhwng y chwaraewr byd-enwog a’r cylchgrawn – ei dad yng nghyfraith, Syr Alun Talfan Davies, oedd un o sylfaenwyr BARN. Ymhellach, yn ystod cyfnod golygyddiaeth Alwyn D. Rees bu mentor Barry, a’i gyd-bentrefwr, Carwyn James, yn olygydd ar Adran Addysg y cylchgrawn. Cyhoeddir yma ddetholiad o ysgrif goffa Barry i Carwyn James a ymddangosodd yn 1983. Pentref y pentrefi yw Cefneithin i unrhyw un a faged yno. Cymdeithas fechan ydyw o hyd fel erioed. Mae pob wyneb yn gyfarwydd. Pob ffenest a drws yn gyfarwydd yr un modd. Byd bychan ydyw, ond y mae ei iaith a’i dywydd a’i fywyd beunyddiol yn ail i ddim sydd tu allan iddo… Anaml yn ystod yr holl genedlaethau y ganwyd un oedd yn uwch o’i ysgwyddau na’r rhelyw. Bron na fentrwn ddweud mai Carwyn James oedd y cyntaf… tywysog ymhlith ei bobl, ond yn ‘un ohonom ni’ hyd y diwedd.

Mae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl.

Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael i’r rhai sydd wedi tanysgrifio yn unig.


Mewngofnodi

Cofrestru


Bydd dolen i osod cyfrinair newydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi eich profiad trwy gydol y wefan hon, i reoli mynediad i'ch cyfrif, ac at ddibenion eraill a ddisgrifir yn ein hysbysiad preifatrwydd.


 

< Yn ôl
Sioned Dafydd wrth ei gwaith fel sylwebydd pêl-droed

Angerdd, hwyl a thelyn goll – holi Sioned Rowlands

Ymlaen >
Castell Brychan, cartref Cyngor Llyfrau Cymru

Cyllid a’r Gymraeg – toriadau anghyson?